Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch, Jenny Rathbone, am y cwestiynau yna. Mae hi'n gywir i ddechrau drwy ein rhybuddio am bethau gwrthnysig a chanlyniadau anfwriadol a all ddeillio o hyd yn oed y polisïau â’r bwriadau gorau. Ond rwy’n dal i gredu mai’r egwyddor sylfaenol y dylai unrhyw haen o lywodraeth sy'n gwario arian cyhoeddus hefyd fod yn gyfrifol am godi rhywfaint o'r arian hwnnw yw'r un cywir. Ac yna mae'n rhaid inni weithio'n galed i sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn y ffordd gywir. Diolch i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am gyfeirio at y profiad yn San Francisco; nid wyf yn gwybod digon am hynny, ond byddaf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am hynny.
Rwy'n credu ei bod hi’n tynnu sylw at un arall o'r materion cyd-destunol ehangach hyn a gododd Mike Hedges, sef, ochr yn ochr â hyn oll, os bydd Bil Cymru yn llwyddo, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn bwerau newydd i gynnig trethi newydd yma yng Nghymru. Ac roedd adroddiad diweddar Comisiwn Bevan yn sôn am drethiant gwerth tir fel un o nifer o bosibiliadau a allai gael eu profi yn y gyfundrefn newydd honno. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn eithaf brwdfrydig am drethiant gwerth tir ers amser maith. Yn fy marn i, os daw’r pwerau newydd hynny i Gymru, bydd yn bwysig inni feddwl gyda’n gilydd am rai enghreifftiau o'r trethi newydd y gallem eu cynnig er mwyn profi’r peiriannau newydd y Bil Cymru yn eu rhagweld ac i weld y ffordd orau y gallem ddefnyddio'r pwerau newydd hynny er lles unigolion a gwasanaethau yng Nghymru.