9. 8. Datganiad: Bygythiadau o ran Clefydau Anifeiliaid Egsotig, y Tafod Glas a Chynllunio Wrth Gefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:34, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Paul Davies am ei gyfres o gwestiynau. Dim ond i gyfeirio at eich pwynt cyntaf ynghylch y rhaglen dileu TB, rwyf wedi ymrwymo i ddod â datganiad gerbron yn yr hydref ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn parhau i fod â dull gwyddonol ac, yn ystod yr haf, bydd cryn dipyn o waith yn mynd ymlaen yn gysylltiedig â'n rhaglen.

Defnyddiais enghraifft y tafod glas i ddangos bod gennym gynlluniau cadarn iawn ar waith ar gyfer ymdrin â’r clefydau hyn. Soniasoch am y cynnydd yn nifer yr achosion yn Ffrainc, a dyna pam yr ydym yn monitro hynny yn ofalus iawn. Mae'r prif swyddog milfeddygol mewn cysylltiad cyson â’r swyddogion milfeddygol eraill yn y DU; mae hi'n cael adroddiad bob mis ynglŷn â’r clefydau hyn. Yn amlwg, os oes ymlediad o wybed wedi’u heintio o Ffrainc, bydd y ffermydd hynny sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o fod ar hyd arfordir y de a de-ddwyrain Lloegr ar ddechrau achos o glefyd, ond ein neges yw na ddylai ffermwyr mewn rhannau eraill o'r wlad fod yn hunanfodlon, dylent barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o afiechyd, ac ystyried yn ofalus y risg o gael anifeiliaid o'r tu allan i'r DU.

Gofynasoch am ddadansoddiad cost, fel y gwnaeth Simon Thomas, mae'n ddrwg gennyf, a wnes i ddim ateb hynny. Yr hyn y gwnes i sôn amdano oedd y dylai brechu gael ei wneud ar ddechrau'r flwyddyn cyn bod y tywydd yn gynnes iawn, ac nid wyf yn ymwybodol o ba un a wnaethpwyd y dadansoddiad cost ar ddechrau'r flwyddyn, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y ddau Aelod i egluro'r pwyntiau hynny.

O ran cynlluniau wrth gefn, mae'n hynod bwysig bod gennym y cynlluniau cadarn hynny ar waith, ac rwyf wedi cael fy arwain trwy’r trefniadau wrth gefn, os mynnwch chi, ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddai gennym achosion o glefyd gyda'r prif swyddog milfeddygol a’i chynghorwyr. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cynnwys rhanddeiliaid megis awdurdodau lleol a'r heddlu, ac ati, a, wyddoch chi, efallai Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn dibynnu ar ba fath o achosion sydd gennym, oherwydd yn amlwg gallant ddarparu cymorth i ni.

Rwy’n dawel iawn fy meddwl bod yr holl fforymau wedi’u sefydlu—mae’r cydnerthedd, y cynlluniau wrth gefn sifil yno, wedi’u sefydlu, pe byddem yn cael achos o'r fath. Cefais fy nghalonogi’n fawr pan edrychais ar y rhestr o glefydau hysbysadwy pan ddes i i mewn i’r swydd, bod sawl blwyddyn ers i ni gael rhai o'r clefydau penodol yng Nghymru. Drwy’r cynnydd mewn cymorth â bioddiogelwch gyda'n ffermwyr, rydym yn sicr yn gobeithio sicrhau y bydd hynny’n parhau i fod yn wir.