Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
A gaf i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad pwysig y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r un pwysigrwydd i fynd i'r afael â chlefyd arall, sef, wrth gwrs, TB buchol, a chyflwyno datganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r clefyd ofnadwy hwn cyn yr hydref, o gofio ei fod yn cael effaith negyddol sylweddol ar ein diwydiant ffermio?
Nawr, mae bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid yn faterion hynod o anodd y mae angen eu trin yn effeithiol ac yn effeithlon, ac mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i ymateb i unrhyw achosion, yn enwedig o ran y bygythiad o feirws y tafod glas, y mae’r rhan fwyaf o'i datganiad yn cyfeirio ato heddiw. Rwy’n sylweddoli bod y gwaith cynllunio wrth gefn wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae'n destun pryder i weld yr adroddwyd am bron i 300 o achosion o feirws y tafod glas yn Ffrainc ers mis Gorffennaf, a bod y tebygolrwydd y bydd y feirws yn lledaenu i'r DU yn cynyddu. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau wrth gefn yn cael eu cydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU er mwyn sicrhau nad yw gwahanol bolisïau yn llesteirio ei gilydd neu hyd yn oed yn gwaethygu’r problemau. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU ac, mewn gwirionedd, Llywodraethau eraill ynghylch bygythiad feirws y tafod glas i sicrhau bod bygythiadau clefydau anifeiliaid yn cael eu trin mewn modd cydgysylltiedig ledled Prydain gyfan.
Rwy’n sylweddoli nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol dros fewnforion i Gymru, a bod cyfeiriad polisi ar gyfer rheoli ffiniau yn cael ei benderfynu ar lefel Llywodraeth y DU, er hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y gwaith o fonitro mewnforion anifeiliaid a chynnyrch, ac yn fwy penodol o ran y broses o gynnal profion ar ôl mewnforio, y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei datganiad y prynhawn yma. Hefyd, er fy mod i’n falch bod trafodaethau â'r diwydiant cynhyrchu brechlynnau wedi eu cynnal, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am ryddhau brechlyn posibl ar gyfer feirws y tafod glas. Soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ddadansoddiad cost posibl brechu, ond efallai y gallai hi roi syniad i ni o gostau posibl brechu.
Wrth gwrs, pe byddai unrhyw achos o glefyd, gallwn ddisgwyl gweld y cyfyngiadau ar waith ac mae hynny ynddo'i hun yn codi rhai cwestiynau difrifol. Rwyf i’n sylweddoli bod cynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn rhan o strategaeth ehangach ynghylch lles anifeiliaid, ac felly rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym yn ei hymateb sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu lles anifeiliaid yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau symud yn ystod achosion brys. Mae hefyd yn bwysig bod deialog gyson ag awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredol lleol, megis heddluoedd. Mae'r partneriaid lleol hyn yn y rheng flaen wrth ymdrin â bygythiadau clefydau anifeiliaid ac ymateb y cyhoedd iddynt, ac mae'n bwysig bod cyfathrebu yn digwydd yn effeithiol i'r rhai ar lefel rheoli gweithredol. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'r heddlu i sicrhau eu bod yn derbyn diweddariadau amser real cyson ynglŷn ag unrhyw fygythiadau clefydau anifeiliaid. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa fath o waith maes lleol sy’n cael ei wneud ar lefel leol, sut y caiff y wybodaeth honno ei chasglu a'i monitro, a sut mae’r gwaith hwnnw yn cyfrannu at strategaethau ar gyfer bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid ar lefel y DU.
Rwy’n croesawu’r ffaith fod y cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn cael ei adolygu'n flynyddol a'i ailgyhoeddi yn ôl yr angen, gan ei bod yn bwysig bod cynlluniau o'r math hwn yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn bod mor effeithiol â phosibl. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n hollbwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a bod cynlluniau wrth gefn cadarn wedi eu sefydlu ar gyfer achosion o glefyd egsotig anifeiliaid. Nid wyf yn amau ymrwymiad a didwylledd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ond mae bob amser mwy y gellir ei wneud, ac felly rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.