Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Gwnaf, yn sicr; byddwn yn sicr o wrando ar hynny, ond hoffwn fynd ymhellach na hynny hefyd, oherwydd os oes anawsterau, fel rydych chi a’r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi disgrifio, a bod hynny’n arwain at y farn fod yna yn broblem fwy systemig nag anawsterau unigol, yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni weithredu’n llawer mwy helaeth ar hynny. Mae’r Aelodau’n ymwybodol o’r cytundeb rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, yn yr ystyr y byddwn yn edrych ar y strategaeth awtistiaeth dros y misoedd nesaf ac yn edrych i weld a oes gofyniad i ddeddfu ar y mater hwn neu a oes angen i ni wneud darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer y cynllun gweithredu strategol. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelodau fod hynny’n rhywbeth rwy’n ei ystyried yn ddifrifol iawn ac os oes angen cymryd camau deddfwriaethol yn sail i ddarparu’r gwasanaethau hyn, yna ni fyddwn yn oedi rhag gwneud hynny.