1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2016.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0023(EI)
Rydym yn rhoi nifer o gamau gweithredu pellgyrhaeddol ar waith i annog datblygiad economaidd ar draws pob rhan o Gymru. Yng ngogledd Cymru, rydym yn manteisio ar y cyfleoedd sylweddol a fydd yn deillio o brosiectau buddsoddi megis Wylfa Newydd, gan ddarparu cefnogaeth drwy ein gwasanaeth cymorth busnes penodedig a buddsoddi mewn cynlluniau trafnidiaeth amrywiol.
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y bore yma cyfeiriasoch at drydaneiddio’r brif linell, argymhellion ar gyfer metro gogledd Cymru, a buddsoddi yn yr A55. Dywedasoch hefyd fod angen cyflwyno cais cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru erbyn diwedd y mis. O’r hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU yn cynnig cyllid ychwanegol, ac mae gwella rheilffyrdd a signalau yn cael eu gweld fel cerrig sylfaen i drydaneiddio, a fydd yn cael ei gyflymu gan y cytundeb twf. A allwch ddweud wrthym felly pa ddeialog rydych wedi’i chael hyd yma gyda Llywodraeth y DU? Rwy’n gwybod, neu rwy’n credu, eich bod wedi bod yn trafod gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol i’r perwyl hwn o leiaf—i ba raddau y gallai hynny gynnwys datganoli liferi economaidd a thwf? Yn ôl yr hyn a ddeallais, roedd hynny’n rhywbeth roedd Llywodraeth y DU yn galw amdano.
Do, rwyf wedi trafod y mater hwn gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol, ond bûm yn ei drafod hefyd gyda’r Ysgrifennydd Gwladol ei hun ddydd Sul mewn gwirionedd. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y cais cytundeb twf yn cael ei gyflwyno’n llawn fel cynnig i Ganghellor y Trysorlys erbyn diwedd y mis. Byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yr achos busnes dros drydaneiddio’r brif linell yn ystod y cyfnod rheoli nesaf yn cael ei gymeradwyo. Mae’n hanfodol yn natblygiad y cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru ein bod yn gallu gweithio’n lleol gydag awdurdodau lleol, gyda Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac edrych hefyd—ac rwy’n dweud hyn ar gyfer y cofnod—ar botensial strategaeth economaidd drawsffiniol, gydag uned economaidd drawsffiniol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r twf mwyaf posibl yn yr ardal honno o Gymru.
Mae twristiaeth yn sector hanfodol yn natblygiad economaidd gogledd Cymru, a chyda hynny rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu coridor diwylliant yr A55 sy’n cysylltu atyniadau ar draws y rhanbarth. Roedd castell y Fflint yn sicr yn atyniad mawr dros y penwythnos diwethaf, wrth i ddraig ddisgyn ar feili allanol y castell gan ddenu ymwelwyr yn eu miloedd. Roedd yn wych gweld yn union faint o bobl a aeth yno i weld y ddraig, i dynnu ambell hunlun ac ar gyfer y rhai mwy dewr yn ein plith sy’n dymuno bod yn ddofwyr dreigiau, i ddringo cefn y ddraig. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y brwdfrydedd hwnnw yn awr gyda’r buddsoddiad pellach yng ‘nghastell Shakespeare’, ond Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi ynglŷn â gwerth yr economi ymwelwyr i Ddelyn ac ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac a fyddwch yn gweithio i barhau i fuddsoddi mewn syniadau arloesol mewn atyniadau i ymwelwyr sy’n rhoi hwb i’n cymunedau a hefyd yn denu twristiaid i ogledd-ddwyrain Cymru?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Rwyf wrth fy modd fod y ddraig, draig Caerffili, wedi cael cymaint o groeso yn Nelyn ac yng nghastell y Fflint. Mae’r lluniau a welais yn dangos bod llawer iawn o ymwelwyr, yn enwedig ymwelwyr ifanc, wedi mwynhau gweld y ddraig goch yno. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, a ninnau’n dathlu perfformiad anhygoel ein carfan bêl-droed cenedlaethol, roedd hi’n adeg arbennig o briodol i’r ddraig ymweld â’r Fflint y penwythnos diwethaf.
Rwy’n falch o allu dweud y byddwn yn buddsoddi mewn canolfan ymwelwyr newydd yng nghastell y Fflint, a bydd castell y Fflint yn elwa o safle o’r radd flaenaf, sy’n rhan o gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir yn rhan o Flwyddyn y Chwedlau.
A ydych chi’n cydnabod, Ysgrifennydd, yr angen i ddatblygu gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rinwedd ei hun? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod ni’n ennill pob budd economaidd posibl o ddatblygiadau cyfagos fel pwerdy’r gogledd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond wrth gwrs mae yna ofid gyda’r datblygiadau dinas-ranbarthau yn y de, a phwerdy’r gogledd yn Lloegr, y gallai gogledd Cymru ddisgyn rhwng dwy stôl. Felly, fy nghwestiwn i yn hanfod yw: sut ydym ni’n sicrhau twf pwerdy cynhenid economaidd y gogledd yn hytrach nag ein bod ni jest yn dibynnu ar ardaloedd eraill?
Wel, yn fy marn i mae gennym yng ngogledd Cymru—ac rwy’n siarad fel rhywun a gafodd ei eni yno, ei fagu yno ac sy’n byw yno—gymaint i’w gynnig i Bwerdy Gogledd Lloegr ag sydd gan Bwerdy Gogledd Lloegr i’w gynnig i ogledd Cymru. Mae gennym gryn dipyn i’w gyfrannu. Rhagwelir y gellir creu hyd at 70,000 o swyddi dros y ddau ddegawd nesaf yng ngogledd Cymru. Rwy’n hyderus y gellir cyflawni hynny drwy sicrhau mwy o gydweithredu trawsffiniol. Nid wyf yn gweld bod cydweithredu trawsffiniol yn fygythiad i ddiwylliant neu iaith Cymru mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn enwedig yng ngogledd Cymru, credaf y gallwn greu mwy o swyddi, mwy o gyfleoedd, drwy weithio’n agosach gyda’n gilydd.
Ar hyn o bryd, mae’r rhanbarth yn cyfrannu o gwmpas £35 biliwn i economi’r DU. Mae’r potensial i dyfu yn enfawr, ond dylem hefyd gydnabod, os nad ydym yn rhan o gynghrair drawsffiniol, ein bod mewn perygl, gyda’r bargeinion dinesig, gyda’r momentwm sydd y tu ôl i ddinas-ranbarth Lerpwl, dinas-ranbarth Manceinion a phartneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, o orfod cystadlu gyda’r dinasoedd a’r siroedd hynny yn y pen draw. Ni fyddem yn dymuno i hynny ddigwydd os gallwn, yn lle hynny, gydweithio a chynnig economi ranbarthol lle rydym i gyd yn cynnig pethau sy’n ategu ei gilydd.
Mae ugain mil o bobl yn croesi’r ffin o Gymru i Loegr bob dydd. Mae ugain mil o bobl yn croesi’r ffin o Loegr i Gymru. O ran y bobl sy’n mynd i’w gwaith, nid yw’r ffin yn bodoli. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod twf ar y ddwy ochr i’r ffin sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr o ran y bobl sy’n byw yno.
Mae gan Gymru gyfle ar hyn o bryd i ddenu buddsoddiad o Loegr drwy ddarparu lle mwy ffafriol i sefydlu busnes, a fyddai’n dod â swyddi mawr eu hangen i Gymru. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno pan ddywedaf mai gorau po fwyaf o fusnesau y gallwn eu denu yma a gorau po fwyaf o swyddi sy’n cael eu creu. Mae’r gyfundrefn ardrethi busnes presennol yn rhwystro busnesau newydd rhag cael eu creu gan ei fod yn llyffetheirio busnes â thaliad mawr ar y cychwyn, cyn i’r busnes hwnnw gael un cwsmer hyd yn oed. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynigion i gefnogi busnesau newydd a bach drwy ailstrwythuro’r drefn ardrethi busnes efallai, fel bod busnesau yn talu ar sail elw neu drosiant yn hytrach na gwerth nominal yr eiddo y maent yn ei feddiannu?
Mae hwn yn bwynt sy’n cael ei ystyried yn gyson gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ond mae’r Aelod yn iawn, dylem ddefnyddio pob dull sydd gennym o ddenu buddsoddwyr i Gymru. Y llynedd, cofnodwyd y lefel uchaf ond un o fewnfuddsoddi yma. Mae hynny’n rhywbeth, unwaith eto, rydym am sicrhau ein bod yn ei gynnal. O ran cymorth ariannol i fusnesau, mae gennym y gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau Cymru, sy’n werth £6 miliwn. Mae gennym gronfa fuddsoddi mewn mentrau technoleg yng Nghymru ac mae gennym hefyd £21 miliwn o gyllid newydd i helpu mentrau bach a chanolig i dyfu yng Nghymru, y gellir cael mynediad ato drwy ddwy gronfa Cyllid Cymru. Mae gennym hefyd, wrth gwrs, gronfa ad-daladwy o £5 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig. Rydym yn awyddus i ddenu mewnfuddsoddiad yn ogystal â sicrhau bod ein cwmnïau sy’n bodoli’n barod yn tyfu ac yn ffynnu yng Nghymru, a sicrhau bod gennym entrepreneuriaid sydd â mynediad at yr adnoddau, y cyngor a’r cyfleoedd i sefydlu busnes yma yng Nghymru yn y cymunedau lle y’u magwyd fel nad oes angen iddynt adael Cymru.