1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda'r argyfwng Meddygon Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0137(FM)
Mae'n defnyddio’r gair 'argyfwng', ond rydym ni wedi cynyddu buddsoddiad ac rydym yn moderneiddio gwasanaethau trwy ein cynllun gofal sylfaenol. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i’w poblogaethau ac sy'n gyfrifol am sicrhau parhad gofal o ansawdd uchel pan fydd meddygfa deulu annibynnol yn dychwelyd ei chontractau busnes.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond, fel y mae’n gwybod, ni wna geiriau teg hau’r tir, ac, i bobl Dwyfor Meirionnydd, nid wyf yn meddwl y byddan nhw’n cael llawer o gysur o’r hyn a ddywedodd. Fel y mae’n gwybod, cyhoeddodd meddygfa ym Mhorthmadog yn ddiweddar, a oedd yn gwasanaethu 7,500 o bobl, mai dim ond rhai sy’n sâl iawn y byddai'n eu gweld. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae meddygfa â phedwar meddyg wedi ei lleihau i un erbyn hyn, â llond llaw o staff locwm, ac, yn aml, does neb ar gael. Mae dros hanner y meddygon teulu yn Nwyfor dros 55 oed. Onid yw'n bryd i'r Llywodraeth roi trefn ar bethau a gwneud y gwasanaeth iechyd yn addas i bobl Cymru yn ardal Dwyfor Meirionnydd?
Contractwyr annibynnol yw’r rhain, ac mae ganddyn nhw’r hawl, wrth gwrs, i ofyn am help gan y byrddau iechyd lleol. Ac, yn wir, pan fo’r contractwyr hynny wedi penderfynu nad ydynt yn dymuno darparu'r gwasanaeth hwnnw mwyach, mae’r byrddau iechyd ledled Cymru wedi cymryd yr awennau ac wedi darparu gwasanaeth yr un mor dda, os nad gwell, fel y bydd pobl Prestatyn yn ei esbonio i'r Aelod. Ond, ydym, rydym ni’n gwybod bod anawsterau o ran recriwtio meddygon teulu; nid yw'n broblem sydd wedi ei chyfyngu i Gymru. Mae'n digwydd yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban hefyd o ran hynny. Rydym ni’n bwriadu lansio ymgyrch recriwtio meddygon teulu y mis nesaf er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn, unwaith eto, bortreadu Cymru fel lle da i fod yn feddyg ynddo, ac, wrth gwrs, y gallwn gynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen ar y proffesiwn erbyn hyn, gan symud nid o reidrwydd tuag at y model contractwr annibynnol fel y model diofyn, ond i edrych ar fodelau eraill hefyd.
Roeddwn innau hefyd yn brysur yn cyfarfod â fforymau iechyd yn yr haf, Brif Weinidog, a gofynnais gwestiwn fis Gorffennaf diwethaf, pan roesoch ateb cwbl eglur i mi ynghylch cwm Dulais eich bod yn cyflwyno yn fuan iawn cynigion ar gyfer ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a'r GIG fel lle deniadol i weithio ynddo, ac y byddai'r gwaith hwnnw’n cynnwys recriwtio, hyfforddi a chadw meddygon teulu. A gaf i ofyn i chi felly, Brif Weinidog, a oes cynnydd wedi ei wneud dros yr haf?
Oes, gallaf gadarnhau, mis nesaf, y byddwn yn lansio ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol i amlygu Cymru fel lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo, a bydd yr Ysgrifennydd yn amlinellu’r ymgyrch yn ei ddatganiad yr wythnos nesaf. Bydd yn newid sylweddol i’r ffordd yr ydym ni’n marchnata Cymru i gynorthwyo’r gwaith o recriwtio meddygon a meddygon teulu.
Mae cymunedau Porthmadog, y Drenewydd, Aberteifi, Dinbych-y-pysgod, Penfro a Doc Penfro, sy’n gorfod aros pythefnos y dyddiau yma am apwyntiad gyda’r meddyg teulu, yn teimlo bod yna argyfwng, ac yn teimlo bod diffyg recriwtio a diffyg meddygon teulu sy’n fodlon aros yn y cylch. Yn arbennig, mae diffyg yn y nifer sydd am fod yn bartneriaid mewn meddygfeydd. Felly, beth yn ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i recriwtio meddygon teulu, ond, hefyd, beth yw dyfodol y feddygfa breifat fel rhan o’r gwasanaeth iechyd ar gyfer gofal sylfaenol?
Nid wyf yn siŵr, pan oedd e’n siarad am feddygfeydd preifat, a oedd e’n meddwl am y feddygfa breifat neu—
Maen nhw’n breifat ar hyn o bryd.
[Yn parhau.]—y contractwyr annibynnol.
Y contractwyr annibynnol.
Wel, dyna beth yw’r model ar hyn o bryd ac, i rai, dyna beth fydd model y dyfodol, ond nid yw hynny’n meddwl taw dyna’r unig fodel all fod ynglŷn â meddygon teulu. Mae mwy a mwy o feddygon teulu sydd eisiau cael cyflog. Maen nhw’n moyn cael y cyfle i symud o un practis i’r llall, ac mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i’r proffesiwn ddelio gydag e. Rydym yn gweithio gyda’r coleg brenhinol, a hefyd gyda’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig, er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch yr ydym yn mynd i’w lansio’r mis nesaf yn gallu bod yr un mwyaf effeithiol, ac rydym yn erfyn i’r byrddau iechyd weithio gyda meddygon teulu pan fydd yna broblem er mwyn sicrhau bod doctoriaid yn dod mewn fel ‘locums’, os taw dyna beth sy’n mynd i ddigwydd dros dro, ac er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i feddygfeydd yn y pen draw. Ond craidd hyn, wrth gwrs, yw sicrhau bod mwy a mwy o ddoctoriaid eisiau gweithio yng Nghymru, a sicrhau bod mwy o fodelau ar gael iddyn nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw’n moyn dod.
Brif Weinidog, o ystyried bod gennym ni erbyn hyn dri bwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun ymyriadau wedi’u targedu, ac un bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, mae’n rhaid i’r ymgyrch hon i recriwtio meddygon teulu sôn am recriwtio’r teulu cyfan, oherwydd, fel arall, ni fydd y meddygon teulu hyn eisiau gweithio mewn ardaloedd lle maen nhw’n teimlo na fydd cymorth wrth gefn sylweddol, yn feddygol, iddyn nhw yn eu meddygfeydd. Ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y meddygon teulu hyn sydd eisiau dod i Gymru—ac rydych chi'n iawn ei fod yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo—eisiau dod â'u teuluoedd; maen nhw eisiau dod â'u priod, eu partneriaid, eu plant, maen nhw eisiau iddyn nhw gael ysgolion da i fynd iddyn nhw, ac maen nhw eisiau cael swyddi da y gall eu partneriaid, eu priod, eu gwneud hefyd. Felly, nid un person yn unig yr ydym ni’n ei recriwtio, ond teulu cyfan, ac os gallwn ni gael y teulu hwnnw i ddod dros y ffin, gallwn ni ei gadw, ond mae'n rhaid i ni roi’r pecyn cyfan hwnnw iddyn nhw. Felly, pan fyddwch chi’n edrych ar y rhaglen gadw a’r rhaglen recriwtio hon, a wnewch chi gadw hynny mewn cof, a chadw mewn cof bod yr holl feddygfeydd teulu hyn, pa un a ydynt yn cael eu rhedeg gan fwrdd iechyd neu aelodau preifat unigol, yn edrych tuag at eu hysbytai a'r GIG lleol am y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw i ategu eu cymorth i’w cleifion? A chyda phedwar o’r wyth mewn rhyw fath o drafferth, nid yw'n newyddion da.
Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw nad oes gennym ni argyfwng cyllid mewn ysbytai acíwt, fel sydd gan Loegr, na streic meddygon. Ond mae hi’n gwneud pwynt pwysig iawn, os caf ddweud, gyda pharch i'r Aelod, yn yr ystyr ei bod yn gwbl gywir bod yn rhaid i ni dargedu'r teulu. Flynyddoedd lawer yn ôl, byddai meddygon teulu yn dod i ardal, ac, yn aml iawn, roedd ganddyn nhw briod nad oedd yn gweithio. Nid yw hynny’n wir mwyach. Felly, mae gallu cynnig cyfleoedd i bartner ac amgylchedd da i blant yn bwysig, a bydd hynny'n sicr yn rhan o'r ymgyrch yr ydym ni’n ei lansio ym mis Hydref.