1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwydiant dur Cymru ar hyn o bryd? OAQ(5)0126(FM)
Gwnaf. Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddiweddariad llawn at yr Aelodau ddoe ar y cynnydd sydd wedi ei wneud ers y datganiad ysgrifenedig ar 8 Awst. Nid oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud eto, fodd bynnag, gan Lywodraeth y DU o ran materion ynni a phensiynau.
Diolch am yr ateb, ac mi gefais y datganiad hwnnw. Yn y llythyr hwnnw gan y Gweinidog, mae'n dweud bod cynnydd da yn cael ei wneud ar amrywiaeth o brosiectau sydd wedi galluogi’r gweithfeydd yng Nghymru i fod yn fwy effeithlon a gallu gwrthsefyll y gystadleuaeth fyd-eang, gan gynnwys datblygu prosiect gwella'r amgylchedd mawr ar gyfer Port Talbot, yn ogystal â'r prosiectau buddsoddi mewn ymchwil a datblygu ym Mhort Talbot. Yn fy marn i, ac os deallais yn iawn, syniadau Plaid Cymru yr ydych chi wedi gwrando arnynt yw’r rhain. Tybed a hoffech chi roi gwybodaeth i ni am ddatblygiad y gwaith pŵer, a hefyd y gweithgareddau ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Abertawe, a gynigiwyd i chi gennym ni ac yr ydych chi wedi bwrw ymlaen â nhw, chwarae teg i chi?
Nid wyf yn credu mai syniad Plaid Cymru yn gyfan gwbl oedd yr egwyddor o gadw ein diwydiant dur. Mae'r mater o waith pŵer yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei drafod ers blynyddoedd gyda Tata, ymhell cyn yr hyn a ddigwyddodd ddechrau'r flwyddyn hon, a dweud y gwir. Yr hyn y gallaf ei ddweud—ac mae cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd, gan fod trafodaethau’n parhau—yw bod cynnydd da wedi ei wneud, yn ein barn ni, fel Llywodraeth, ar geisio darparu llwyfan ar gyfer dyfodol hirdymor ein diwydiant dur. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, bod y ddau fater hynny o ynni a phensiynau yn dal i fod heb eu datrys ar lefel Llywodraeth y DU.
Brif Weinidog, diolch i chi am yr ateb yna, ac rydym ni’n gweld cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant dur, drwy’r prosiectau hyn, yr wyf yn eu croesawu’n fawr iawn, ym Mhort Talbot. Ond hefyd, rydym ni wedi gweld dros yr haf, ers i ni gyfarfod ddiwethaf, gwelliannau ariannol yn y diwydiant dur ym Mhort Talbot hefyd, lle gwelsom golledion o £1 filiwn y dydd cyn hynny, ac rydym ni’n ei droi’n elw mewn mis erbyn hyn—rwy’n credu ei fod yn £5 miliwn ym mis Gorffennaf, ac efallai y bydd yn mantoli’r gyllideb ym mis Awst. Felly, rydym ni’n gweld cynnydd o ran gwneud dur yng Nghymru. Mae'n ddichonadwy, fel y dywedasom. Ond, pan wnaethoch chi gyfarfod â Phrif Weinidog y DU, cawsoch sgwrs am ddur, ac rydych chi eisoes wedi crybwyll yn rhannol y prynhawn yma y mater o safbwynt Llywodraeth y DU. A wnaeth hi awgrymu y byddant wir yn gweithio i wella'r sefyllfa o ran cronfa bensiwn dur Prydain, a, hefyd, a ydyn nhw’n gwneud unrhyw symudiadau tuag at y costau ynni, gan mai’r rhain oedd y prif faterion yr oedd gan unrhyw ddarpar brynwr bryderon amdanynt?
Mae'n wir. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod Prif Weinidog blaenorol y DU yn rhagweithiol iawn yn hyn o beth. Nid ydym wedi clywed cymaint gan y Llywodraeth bresennol o ran y ddau fater hyn. Cafwyd sgyrsiau cychwynnol; nid ydynt wedi bod yn negyddol, ond rwy'n credu bod angen i ni nawr, yn ystod y misoedd nesaf, weld rhywfaint o gynnydd, yn enwedig ar fater pensiynau, ac ar fater prisiau ynni, wrth gwrs—sy’n fater hirhoedlog. Mae gennym ni ohebiaeth yn mynd yn ôl bum mlynedd gyda Llywodraeth y DU ar fater prisiau ynni, nid yn unig yn y diwydiant dur, ond ar gyfer ein holl ddiwydiannau ynni-ddwys. Ni allwn fforddio cael ein gweld fel lle drud i weithgynhyrchu oherwydd prisiau ynni.
Yn dilyn sylwadau gan Brif Weinidog y DU, Theresa May, cytunodd aelodau’r G20 i sefydlu fforwm i roi sylw i faterion capasiti gormodol a gorgynhyrchu yn y farchnad ddur fyd-eang, felly mae’r DU yn symud yn ei blaen ac yn cael arweinwyr y byd i wynebu ac ateb y cwestiwn canolog yn ogystal ag ymdrin â'r materion y maen nhw eisoes wedi bod yn gweithredu arnynt tan yn ddiweddar. Nawr, rwy’n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth fwy cyfyngedig—rwyf yn derbyn hynny—ond fe all wneud gwahaniaeth ymarferol yn fy rhanbarth i. Mae’n debyg nad oedd tynnu allan o gytundeb a allai fod wedi achub 200 o swyddi yn Fairwood Fabrications yn rhan o gadwyn gyflenwi’r diwydiant dur yn gysylltiedig â Phort Talbot o gymorth, felly a allwch chi ddweud wrthym ni’n benodol beth yr ydych chi’n ei wneud i gynorthwyo sefydlogrwydd yng nghadwyn gyflenwi dur Cymru? Diolch.
Wel, yn fwy na dim byd arall, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yw cynorthwyo Tata, gan edrych ar ffyrdd y gallant arbed arian, yn enwedig o ran y gwaith pŵer, gweld beth allwn ni ei wneud o ran sgiliau a hyfforddiant, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Ceir problemau yn ymwneud â busnesau eraill a gafodd eu problemau gyda Tata, a arweiniodd yn anffodus at y canlyniadau y mae’r Aelod wedi eu crybwyll, ond rydym ni’n hyderus y gallwn ni lunio pecyn da cyn belled ag y mae Tata yn y cwestiwn o ran yr hyn y gallwn ei gynnig. Ond mae angen i ni weld cynnydd nawr ar y ddau brif fater, ac mae angen i ni weld y cynnydd hwnnw’n eithaf buan.
Brif Weinidog, mae dur Cymru a diwydiannau ynni-ddwys eraill yn dioddef o ganlyniad i bolisïau lleihau carbon a orfodwyd gan yr UE, sydd wedi arwain at filiau ynni uwch. Er mwyn sicrhau dyfodol dur Cymru, ac yn enwedig gwaith Tata ym Mhort Talbot yn fy rhanbarth i, mae'n rhaid i ni ddiddymu deddfwriaeth yr UE sy'n cynyddu ein costau ynni. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi mai’r gefnogaeth orau y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i ddiwydiant dur Cymru yw pwyso ar Lywodraeth y DU i gwblhau proses Brexit cyn gynted â phosibl?
Tariffau yw’r bygythiad mwyaf i'r diwydiant dur. Rydym ni’n allforio 30 y cant o'r dur yr ydym ni’n ei gynhyrchu. Nid yw unrhyw beth sy'n cynyddu pris y dur hwnnw’n mynd i fod o gymorth. Os yw hi’n sôn am leihau carbon, yr hyn y mae’n ei olygu yw mwy o allyriadau, felly, mwy yn dod allan o'r gwaith dur nag o'r blaen. Os yw hi eisiau gwerthu hynny i bobl Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mae croeso iddi wneud hynny. Yn wir, rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd yr wythnos hon pryd y gall hi esbonio’r polisi hwnnw i bobl yn yr ardal—nad yw hi eisiau gweld allyriadau’n cael eu rheoli'n briodol.
Ond mae pwynt arall yma hefyd. Os edrychwch chi ar wledydd eraill yn yr UE, mae eu prisiau ynni nhw’n llawer is na'n rhai ni. Os edrychwch chi ar yr Almaen, 20 y cant yn is. Os edrychwch chi ar Sbaen, 37 y cant yn is. Felly nid yw’n unrhyw beth i wneud â'r UE o gwbl. Mae i’w wneud â'r DU, a marchnad ynni honedig y DU. Mae pob un diwydiant ynni-ddwys yn dweud wrthym ni nad mater yr UE yw hwn—mae i’w wneud â’r ffaith nad yw diwydiant ynni'r DU yn ddigon tryloyw, ac mae'n rhywbeth y mae Celsa Steel wedi ei godi gyda mi, ynghyd ag eraill. Maen nhw'n dweud, ‘Edrychwch, mae'r DU yn lle drud i gyflawni busnes oherwydd ei chostau ynni’. Nawr, mae'r rheoliadau yr un fath ar draws yr UE gyfan, ond y ffaith yw bod y DU yn ddrytach na llawer o’r gwledydd yr ydym ni’n cystadlu â nhw, ac mae’n rhaid i hynny newid. Nid yw hynny’n ymwneud ag allyriadau, oherwydd mae gan yr Almaen a Sbaen yr un rheoliadau. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu yn y DU.
Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r gweithfeydd yn Nwyrain Casnewydd, fy etholaeth i, yng ngweithfeydd Orb a Llanwern, yn rhannau pwysig iawn o weithrediadau cyffredinol Tata yng Nghymru. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y gweithfeydd hynny yn parhau i gael eu hystyried yn briodol ym meddyliau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru?
Yn sicr. Mae’r pedwar prif safle yn hynod bwysig—Shotton hefyd, wrth gwrs, a Throstre. Maen nhw’n weithrediadau yr ydym ni eisiau eu cadw yng Nghymru, yn cynhyrchu dur yng Nghymru, yn allforio dur o Gymru. Port Talbot, wrth gwrs, sydd wedi cael y sylw mwyaf gan mai dyna’r gwaith mwyaf a hwnnw sydd wedi wynebu’r heriau mwyaf, ond mae pob un o'r pedwar gwaith yn bwysig i ddyfodol Cymru.
Rwy’n croesawu cyhoeddiad Tata ym mis Awst o fuddsoddiad yn safle Shotton i greu'r genhedlaeth nesaf o gotio dur. Treuliais ddiwrnod yno yn fuan ar ôl y cyhoeddiad, a gwn fod y gweithlu'n gwerthfawrogi dull rhagweithiol Llywodraeth Cymru o ran sicrhau’r buddsoddiad hwn. Ond fel yr ydych chi wedi sôn eisoes, rwy’n annog Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried bod safle llwyddiannus a phroffidiol fel Shotton yn rhan annatod o unrhyw drafodaethau ar ddyfodol y diwydiant dur wrth symud ymlaen.
Yn sicr, ac rwyf innau, wrth gwrs, wedi bod ym mhob un o'r pedwar safle. Roedd Shotton yn safle proffidiol erioed, ond fel y dywedwyd wrthyf yn Shotton, byddai'n anodd iawn i Shotton weithredu heb y dur o Bort Talbot gan y byddai'n cymryd tua chwe mis i gael gafael ar y dur o rywle arall pe na byddai Port Talbot yno, gan arwain at sgil effaith amlwg o ran colli cwsmeriaid. Felly, mae pob un o'n pedwar gwaith dur wedi eu hintegreiddio â'i gilydd. Mae'n hynod bwysig, felly, eu bod i gyd yn sefyll gyda'i gilydd ac yn ffynnu.