1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
4. A yw’r Prif Weinidog yn arddel ei safbwynt o 2012 ei bod yn briodol i gyngor Caerdydd gael cynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai newydd o fewn ffiniau’r ddinas, gyda nifer fawr o’r rhain ar gaeau gwyrdd? OAQ(5)0138(FM)
Ni fu gen i safbwynt o’r fath erioed.
Wel, Brif Weinidog, dywedasoch ar 14 Mehefin fy mod i wedi byw mewn gwlad ffantasi am y tair blynedd diwethaf. Wel, wyddoch chi, meddyliais am hynny, ac felly fe wnes i ychydig mwy o ymchwil a chefais hyd i’r 'South Wales Echo' o 5 Ebrill 2012, lle cawsoch eich dyfynnu yn cyhoeddi y byddai Llafur yn cyflwyno cynllun datblygu lleol o dan y system bresennol, ar dudalen 5. Nawr, dywedodd y 'South Wales Echo', yn ei erthygl olygyddol, bod y papur newydd yn anghytuno’n gryf â chi bod rhaid adeiladu degau o filoedd o gartrefi o fewn terfynau’r ddinas—y sylwadau a adroddwyd, yr ydych chi wedi eu gwadu ers hynny. Felly, fy nghwestiwn i yw: a oedd golygydd y 'South Wales Echo' hefyd yn byw mewn gwlad ffantasi? Ac, a ydych chi'n cadarnhau eich sylwadau ar y mater a wnaed yn y Siambr hon?
Nac ydw, gan nad wyf i byth yn gwneud sylwadau ar CDLlau na cheisiadau cynllunio. Dyna'r holl bwynt o fod mewn Llywodraeth. Y rheswm pam yr ymddangosodd y stori yn y papur yn y ffordd honno yw oherwydd ei fod ef wedi ei rhoi hi yno ac wedi ei geirio felly. [Chwerthin.] Dyna'r rheswm am hyn ac, wyddoch chi, rwy’n rhoi clod iddo: mae ef, wyddoch chi, yn ddiflino; mae’n dal wrthi. Ond, nid wyf byth yn gwneud unrhyw sylwadau am unrhyw CDLl mewn unrhyw le yng Nghymru cyn belled ag a ddylai fynd yn ei flaen ai peidio. Mae gweithdrefn briodol ar gyfer gwneud hynny.
Brif Weinidog, nid wyf yn gwybod os ydw i'n mynd i’ch cynorthwyo, ond beth bynnag, gadewch i mi atgoffa'r Siambr ein bod, dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi adeiladu cyfartaledd o 8,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru, pan nododd tueddiadau bod angen i ni adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn i gadw i fyny â'r galw. Os ydym ni’n mynd i ddal i fyny o gwbl, mae’n debyg y bydd yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i 12,000 o gartrefi y flwyddyn. Y ffaith drist amdani, yw os na fyddwn yn wynebu'r prinder a’r argyfwng tai, pobl ifanc sy'n chwilio am gartrefi teuluol fyddai'n methu â chael amodau byw addas y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni wedi eu mwynhau yn ein magwraeth.
Mae'n wir i ddweud bod y galw wedi bod yn fwy na’r cyflenwad ers blynyddoedd lawer, yn enwedig tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r tai hynny fynd lle mae eu hangen—ni ellir eu rhoi lle mae'r galw yn isel; mae'n rhaid iddynt fynd lle mae'r galw ar ei uchaf. Maen nhw’n benderfyniadau anodd iawn i awdurdodau lleol o ran sut y maen nhw’n bodloni’r galw hwnnw yn lleol o ran tai ac maen nhw'n ddadleuol weithiau, ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o dai ar gael ar gyfer y bobl sydd eu hangen.
Nid wyf am drafod mater yr hyn a ddywedodd neu na ddywedodd y Prif Weinidog yn 2012, ond ceir mater pwysig yma o ran gor-ddatblygiad Caerdydd a datblygiadau tai mawr sydd wedi eu cynnig ac sy’n debygol o fynd yn eu blaenau sy'n mynd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o drigolion presennol y ddinas. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod problem gyda diffyg atebolrwydd y system gynllunio yng Nghymru, yn enwedig gyda'r Arolygiaeth Gynllunio? Ac, a ddylem ni gymryd camau yn y Cynulliad i wanhau pwerau'r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru?
Nac ydw, dydw i ddim. Rwy’n meddwl bod rhaid cael proses o archwilio sy'n gadarn. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu; mae ei phoblogaeth wedi tyfu’n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac nid mater i Gaerdydd yn unig yw sut yr ydych chi’n ymdrin â’r galw hwnnw, mae'n fater i’r holl awdurdodau o amgylch Caerdydd, gan ein bod yn gwybod y bydd y galw hwnnw yno y tu allan i ffiniau'r ddinas hefyd. Ond, nid ydym ni byth yn mynd i gael i sefyllfa lle nad ydym yn adeiladu unrhyw dai, oherwydd byddai hynny'n golygu nad yw’r galw’n cael ei fodloni. Felly, i awdurdodau lleol, mae’n rhaid iddyn nhw lunio cynllun datblygu lleol, cyflwyno’r dystiolaeth ar gyfer eu cynlluniau a chael arolygydd cynllunio i brofi’r cynlluniau hynny. Rwy'n credu bod honno'n system gadarn i sicrhau bod CDLl wedi cael ei brofi mor drwyadl a thrylwyr â phosibl yn y dyfodol.