– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 13 Medi 2016.
Ac yn awr rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar yr Undeb Ewropeaidd a’r trefniadau pontio. Rwy’n galw ar Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Mae bron yn dri mis ers y refferendwm Ewropeaidd ac, er bod llawer o gwestiynau mawr heb eu hateb, mae'n bosibl gweld yn gliriach rai o'r heriau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd eu hwynebu yn awr. Y diwrnod ar ôl y refferendwm, nodais chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer Cymru. Y blaenoriaethau oedd: diogelu swyddi; cyfranogiad llawn i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar broses tynnu'n ôl y DU; parhau i gael mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau; sicrwydd y cyllid a gyllidebwyd o dan raglenni'r UE; adolygiad tymor hir o’r grant bloc; a pherthynas ôl-Brexit newydd rhwng y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Dri mis yn ddiweddarach, mae'r rhain yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol, ac mae rhai elfennau pwysig o gynnydd wedi eu cyflawni.
Yn ystod y toriad, cyfarfûm â’r Prif Weinidog, ac yn ystod yr haf, bu ystod eang o gyswllt gweinidogol â phobl allweddol yn Whitehall, gan gynnwys Canghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Gorffennaf, galwais gyfarfod eithriadol o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaerdydd i greu trafodaeth eang ymysg y Llywodraethau datganoledig, Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Iwerddon, a Llywodraethau’r Ynysoedd— â phob un ohonynt yn cael eu heffeithio'n ddwfn mewn amryw ffyrdd gan yr hyn a fydd yn digwydd nesaf. Bydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cyfarfod eto yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu.
O fewn Llywodraeth Cymru, rydym wedi sefydlu tîm pontio Ewropeaidd, sy’n adrodd yn uniongyrchol i mi, sydd â'r dasg o arwain a chydlynu dull Llywodraeth Cymru o weithio. Mae ein buddiannau’n gymhleth ac yn eang, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwaith ar draws yr ystod sylweddol o fuddiannau portffolio sydd wedi’u heffeithio gan y sefyllfa. Ar lefel y DU, mae trefniadau newydd yn cael eu datblygu i alluogi deialog penodol rhwng Gweinidogion Cymru a’n swyddogion cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Whitehall, a byddaf yn dweud mwy am y rhain fel y maent yn cael eu cwblhau.
Mae llu o weithgorau ar lefel swyddogol, sy’n dwyn ynghyd Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, yn cael eu sefydlu hefyd. Mae'r blaenoriaethau a amlinellais ymysg y pynciau sy'n cael eu trafod yn y rhwydweithiau hyn. Rwyf hefyd wedi sefydlu Is-bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, a gyfarfu ddoe am y tro cyntaf. Bydd y Cabinet cyfan, wrth gwrs, yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru, ond mae'r is-bwyllgor yn darparu’r fformat cywir ar gyfer yr ystyriaeth fanwl o’r polisïau y mae ei hangen arnom er mwyn bwrw ymlaen â'n hagenda.
Yn ystod mis Awst, cyhoeddodd y Trysorlys warant rannol ar gyfer cyllid yr UE. Mae hyn yn golygu y bydd lefel y cyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru o dan CAP colofn 1 yn cael ei warantu hyd at 2020, ond nid y tu hwnt i hynny—dyna ddiwedd y persbectif ariannol Ewropeaidd hwn. Ar gyfer y cyllid ymchwil pwysig dan Horizon 2020, gall prifysgolion a busnesau wneud ceisiadau hyd nes y byddwn yn gadael yr UE, a bydd y Trysorlys yn gweithio gyda'r Comisiwn i sicrhau taliad hyd yn oed pan fydd prosiectau yn parhau ar ôl ymadawiad y DU. Cyn belled ag y mae CAP colofn 2 a chronfeydd strwythurol yn y cwestiwn, bydd y Trysorlys yn gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau sydd, fel y maent wedi nodi, wedi eu ‘cadarnhau’—nid wyf yn siŵr beth y mae hynny’n ei olygu—cyn y datganiad hydref.
Rwy'n arbennig o falch bod cyllid CAP colofn 1 wedi ei setlo hyd nes 2020. Mae hyn yn golygu bod gennym rywfaint o amser i weithio gyda ffermwyr a'n cymunedau gwledig ac, yn y cyfnod sydd i ddod, i ganiatáu trafodaeth genedlaethol ar y ffordd orau o sicrhau dyfodol bywiog ar gyfer cefn gwlad Cymru yn yr hirdymor. Mae safbwynt y Trysorlys yn mynd rhan o'r ffordd tuag at fodloni gofynion Llywodraeth Cymru, ond nid yn ddigon pell, a’r cwestiwn yw, 'Beth sy'n digwydd ar ôl 2020?'
Nid yw gwarant y Trysorlys yn gynhwysfawr ac mae’n gadael tyllau, yn enwedig o ran cronfeydd strwythurol a buddsoddiad sydd heb eu hymrwymo erbyn adeg datganiad yr hydref. Byddwn yn parhau i bwyso am warant lawn, gyda'r nod o sicrhau nad yw cymunedau ledled Cymru yn colli cyfleoedd i wella eu rhagolygon oherwydd canlyniad y refferendwm. Dywedodd ymgyrchwyr dros Brexit na ddylai Cymru golli ceiniog o arian Ewropeaidd, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cyflawni’r addewid hwnnw.
Cyhoeddais hefyd yn ystod yr haf y byddwn yn sefydlu Grŵp Cynghori ar Ewrop. Bydd hwn yn cael ei gadeirio gan Mark Drakeford ac mae’n dwyn ynghyd ystod o arbenigedd o gymdeithas sifil a gwleidyddol yng Nghymru, gyda'r bwriad o greu ymdeimlad eang o fuddiannau Cymru wrth i’r trafodaethau ar yr UE barhau. Rydym ni hefyd yn sefydlu pwyllgor cyswllt ychwanegol gyda Phlaid Cymru yn canolbwyntio ar faterion trefniadau pontio yr UE. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu fel cenedl yn eang ac yn ddwfn, ac nid oes gan y Llywodraeth unrhyw fonopoli ar yr atebion. Mae angen trafodaeth genedlaethol ar y cwestiynau hyn arnom, yn y Siambr hon a thu hwnt, a bydd lleisiau sydd am gyfrannu'n adeiladol at y ddadl honno yn gweld bod Llywodraeth Cymru yn barod iawn i wrando.
Lywydd, nid yw'r her yn y dyfodol yn fwy yn unrhyw faes nag yn yr economi. Bûm yn cadeirio cyfarfod o gyngor adnewyddu'r economi ar 25 Gorffennaf, ac rydym yn gobeithio cyfarfod eto ym mis Hydref. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thair dinas yn yr Unol Daleithiau i hyrwyddo Cymru fel partner buddsoddi a masnachol. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddatblygu hyder yng Nghymru dramor, a gofynnaf i'r gymuned wleidyddol gyfan i gefnogi'r gwaith hwn ac i gefnogi busnesau yng Nghymru. Ni fyddaf—. Gofynnaf, yn hytrach, i’r rhai hynny sy'n ymosod ar ein busnesau gan ddweud eu bod yn dew ac yn ddiog i ystyried effaith eu sylwadau ar y llwyfan byd-eang ac i ddod o hyd i ffyrdd o wneud iawn ar unwaith. Mae angen arweiniad clir ar ein cymuned fusnes ar hyn o bryd ynghyd â chymorth perthnasol cadarn, nid ymosodiadau cywilyddus gan y Llywodraeth na ellir eu cyfiawnhau.
Lywydd, gadewch i mi fod yn glir ynglŷn â phwysigrwydd mynediad llawn, dilyffethair parhaus at farchnad sengl Ewrop ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Nid yw'n ddigon i boeni dim ond am rwystrau tariff, er y byddai'n gwbl drychinebus i economi Cymru pe bai'r UE yn gosod tollau mewnforio ar nwyddau a gwasanaethau’r DU o ganlyniad i drafodaethau carbwl dros ymadawiad y DU. Llywodraethau olynol y DU a wthiodd y farchnad sengl yn ei blaen am yr union reswm ein bod yn cydnabod y gellid defnyddio rhwystrau di-dariff, megis gwahanol safonau technegol, i rwystro masnach rydd wirioneddol rhyngom ni ac aelod-wladwriaethau eraill a niweidio cystadleurwydd busnesau Cymru a Phrydain. Rydym wedi clywed am fodel Norwy, model y Swistir ac eraill hefyd. Ond, beth bynnag yw’r model, prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau mynediad llawn di-dor parhaus i farchnad Ewrop ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ni allwn gytuno i ddim llai.
Gadewch imi fod yn glir, Lywydd, am y math o wlad yw Cymru bellach trwy ddatganoli a chymryd rhan yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hi’n wlad sydd â'r nod o feithrin ffyniant tra'n parchu gwerthoedd megis cynhwysiant, cynaliadwyedd, cydraddoldeb a hawliau unigol a chyfunol. Yn sicr, nid oes unrhyw un yn y Cynulliad hwn eisiau byw mewn gwlad a ddiffinnir gan gyflogau isel, rhagolygon gwael, safonau amgylcheddol sy’n gostwng, ansicrwydd a gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau. Bydd unrhyw un sy'n ystyried bod gadael yr UE yn gyfle i ymwreiddio braint, i wrthdroi’r cynnydd yr ydym wedi ei wneud tuag at fyw'n gynaliadwy, i breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus, i danseilio hawliau cyflogaeth neu i hyrwyddo annhegwch, yn wynebu gwrthwynebiad penderfynol gan y Llywodraeth hon yn ogystal, rwy’n gobeithio, â'r Cynulliad hwn. Gadewch i mi ddweud, heb betruso, mai ein safbwynt yw y dylai Llywodraeth y DU roi gwarantau diamod i wladolion yr UE sydd eisoes yn byw yn y wlad hon nad oes ganddynt unrhyw beth i'w ofni o ran eu hawliau i fyw a gweithio yma yn y dyfodol, heb unrhyw wahaniaethu.
Mae'r Prif Weinidog yn glir iawn y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei dderbyn, er bod brys cynyddol iddynt roi rhagor o eglurder ynghylch sut y maent yn gobeithio cyflawni'r nod hwnnw. Rydym ni fel Llywodraeth yn glir, yr un modd, nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael Ewrop—llai fyth y bydd Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop. Mae Cymru, a bydd yn parhau i fod, yn rhan o Ewrop. Mae'n fater o fuddiant masnachol, yn sicr, ond hefyd yn fater o werthoedd, gweledigaeth, diwylliant ac uchelgais a rennir. Bydd ein cyfeillion a’n cymdogion yn Ewrop yn parhau i fod yn ffrindiau ac yn gymdogion i ni yn Ewrop a byddwn yn dod o hyd i ffyrdd eraill o weithio gyda nhw.
Lywydd, mae llawer o gymhlethdodau yn gysylltiedig ag ymadawiad y DU o'r UE. Ymhlith y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw yw uchelgais Llywodraeth yr Alban i aros yn yr UE a'r cwestiwn am y ffin ar ynys Iwerddon. Mae'r rhain ymysg yr amryfal gwestiynau nad yw’r atebion iddynt yn amlwg eto, a dweud y gwir. Un peth yr wyf yn sicr amdano yw na all y DU droi'r cloc yn ôl i 1973. Wrth i ni ystyried perthynas sydd wedi’i newid gyda'n cymdogion yn Ewrop, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried perthynas sydd wedi’i newid yma yn y DU. Mae hwn yn fater o anghenraid, yn ogystal â dewis. Mae datganoli wedi gweithredu yng nghyd-destun yr UE yn unig hyd yn hyn. Mae ymadawiad y DU o'r UE yn awgrymu perthynas sylfaenol wahanol rhwng y Llywodraethau datganoledig a’r DU. Mae angen i ni gadw dychymyg a meddwl agored i ddatblygu DU newydd, ddeinamig a chadarn.
Lywydd, roedd ymgyrch refferendwm yr UE yn un a achosodd rwyg, ac roedd y canlyniad yn drawmatig i rai. Ond ni ellir ac ni ddylid anwybyddu’r canlyniad, fel yr wyf wedi ei gydnabod o'r diwrnod cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am arwain buddiannau Cymru wrth i'r trafodaethau ddatblygu. Ond rydym yn sôn am ddyfodol hirdymor ein gwlad, ac mae'r materion a godwyd yn mynd ymhell y tu hwnt i fuddiannau unrhyw Lywodraeth benodol neu, yn wir, unrhyw blaid wleidyddol benodol. Yr wyf i’n gobeithio yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod y byddwn yn cael dadl gynhwysol ac eang am y ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru a pha fath o wlad yr ydym am i Gymru fod.
O’r datganiad heddiw, eich prif araith yn Chicago, a'r datganiad ysgrifenedig blaenorol a gyhoeddwyd yn ystod mis Awst, mae'n ymddangos bod peirianwaith y Llywodraeth wedi symud yn araf i weithredu dros yr haf. O'r cychwyn cyntaf, ym marn llawer o sefydliadau, busnesau a rhanddeiliaid eraill, mae ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit wedi bod yn araf. Fy nghwestiwn cyntaf yw: a yw'n wir eich bod wedi galw uwchgynhadledd frys—? Mae'n ddrwg gennyf. Mae yn wir eich bod wedi galw uwchgynhadledd frys o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac mae hwnnw'n fforwm pwysig, ond, yn dilyn yr uwchgynhadledd honno, i'r rhai hynny sy'n edrych i mewn o'r tu allan, mae'n ymddangos nad oedd unrhyw ymyraethau penodol gennych tan araith yr wythnos ddiwethaf yn yr Unol Daleithiau. Nawr, ar yr ochr dechnegol, bydd yna Grŵp Cynghori ar Ewrop yn awr, a bydd Plaid Cymru yn cyfrannu at hwnnw trwy ein ASE, Jill Evans, a bydd y grŵp hwn yn darparu swyddogaeth dechnegol hanfodol.
Fy nghwestiwn cyntaf yw: a yw'n wir nad yw’r grŵp hwn wedi cyfarfod eto, a pham y gwnaeth gymryd cymaint o amser i sefydlu’r pwyllgor hwn? O ran gallu’r gwasanaeth sifil, yr uned yr ydych wedi ei sefydlu ar gyfer y trefniadau pontio, a gaf ofyn a fydd yr uned honno yn cael yr adnoddau angenrheidiol i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau ar Brexit? A yw'n wir bod llawer o'r arbenigedd angenrheidiol sydd gennych ynghlwm â Bil Cymru, a bod hyn yn broblem, ni waeth pa mor effeithiol neu fel arall ydych chi wedi bod i gael cefnogaeth eich Aelodau Seneddol ar gyfer y gwaith hwnnw?
Gan droi at fater cronfeydd yr UE, a’ch ymrwymiad i sicrhau nad yw Cymru'n colli’r un geiniog, roedd y gwaith a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon, ac roedd eu hadroddiad yn gynharach eleni yn ei gwneud yn glir nad oedd ganddynt ddata llawn. Felly, a ydych chi wedi gofyn i’ch swyddogion gyfrifo gwerth llawn cronfeydd yr UE, er mwyn inni wybod gwir faint yr addewid a wnaed i'n cymunedau gan yr ymgyrch 'gadael'?
Mae'n rhaid i mi ddod yn ôl at fy nghwestiwn cynharach i chi, Brif Weinidog, am aelodaeth Cymru o'r farchnad sengl. I ddechrau, wrth ateb fy nghwestiwn, roedd yn ymddangos eich bod yn cael gwared ar y dryswch, cyn mynd ymlaen wedyn i ychwanegu ato. Yn gynharach, gofynnais i chi, Brif Weinidog, am y gwahaniaethau rhwng mynediad at y farchnad sengl ac aelodaeth ohoni. Nawr, yn eich ateb, roeddech yn cytuno eich bod yn cefnogi aelodaeth, ond yna aethoch ymlaen i siarad am y diffiniad aneglur hwn o fynediad.
Nawr, nid yw eich datganiad heddiw yn ymrwymo i fodel penodol o fynediad i farchnad Ewrop. Nid ydym yn gwybod beth yw eich barn. Rydym yn gwybod bod pedwar model posibl. Oni fyddai'n well i chi gynnig model masnach gwirioneddol, megis Ardal Economaidd Ewropeaidd neu aelodaeth o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop, model sy'n well gennych, fel bod rhywfaint o sicrwydd, o leiaf, ynghylch pa opsiwn y mae'r Llywodraeth yn mynd ar ei drywydd? Gallai hynny fod yn ffordd dda o roi terfyn ar y dryswch o ran eich safbwynt ar hyn. Rydych wedi pwysleisio’r angen am sicrwydd. A wnewch chi gymryd y cyfle i roi hynny nawr?
O ran y sylwadau a wnaethoch ar drefniadau pontio yr UE yn eich araith yn Chicago, beth fyddwch chi’n ei wneud i gael cefnogaeth ar gyfer eich nod o gael DU fwy ffederal yn eich plaid eich hun? Ac a allwch chi ddweud wrthym pa bosibiliadau a welwch ar gyfer Cymru yn y sefyllfa gyfansoddiadol newydd? Ac, os nad oes gennych weledigaeth ar gyfer Brexit, a allwch ddweud wrthym ble yr hoffech chi weld Cymru yn gyfansoddiadol—beth yw'r cam olaf, o'ch safbwynt chi, i Gymru mewn DU ffederal?
Yn olaf, a wnewch chi yn awr ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod y DU yn mabwysiadu dull pedair cenedl i'r trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd? A wnewch chi sicrhau bod Cymru yn cymryd rhan uniongyrchol mewn unrhyw drafodaethau o'r fath, ac a wnewch chi ymrwymo i ni heddiw i wneud yn siŵr nad yw Cymru'n cael ei rhoi i’r naill ochr ar hyn?
Mae nifer o gwestiynau yno gan arweinydd yr wrthblaid. Ie, fy ngalwad i oedd y dylai'r BIC gyfarfod ymlaen llaw—galwais am hyn cyn y refferendwm ei hun, pan gyfarfu'r BIC yn Glasgow, y dylem gynnal BIC brys cyn gynted ag y bo modd, cyn gynted ag a oedd yn ymarferol bosibl, ar ôl canlyniad y refferendwm, a dyna'n union a ddigwyddodd. Mae gwahanol Lywodraethau mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae Ynys Manaw, er enghraifft, mewn sefyllfa lle mae ganddynt undeb tollau gyda’r DU, a, thrwy hynny, undeb tollau gyda'r UE. Byddant yn colli yr undeb tollau hwnnw gyda'r UE, ond nid ydynt yn gallu trafod yn uniongyrchol gyda'r UE, felly mae'n golygu eu bod yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, o bosibl, i drafod cytundeb gwahanol ar ei chyfer o'i gymharu â'r DU. Dyna un cymhlethdod a nodwyd ar yr adeg honno.
O ran y grŵp cynghori, mae cael y llythyrau gwahodd allan a'r bobl yn eu lle yn ystod mis Awst yn anodd—mae pobl i ffwrdd. Ond bydd y grŵp ei hun yn cyfarfod, fel y dywedais, y mis hwn. Rwy'n hyderus bod gennym y bobl iawn yn eu lle. Nid yr un bobl â’r rhai sy'n ymwneud â Bil Cymru ydynt, mae llawer o’r rhai hynny yn gyfreithwyr. Mae gennym nifer o staff uwch sydd â phrofiad o weithio ym Mrwsel, ac mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi cael y dasg o sicrhau bod gennym dîm cadarn a phrofiadol yn eu lle.
Mae'r un her yn wynebu Llywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw brofiad o drafod pan ddaw i gytundebau masnach rydd neu faterion trafod fel hyn gyda'r UE. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun yn chwilio am bobl a all ddatblygu’r arbenigedd hwn yn y dyfodol.
O ran y gwerth y bu cronfeydd yr UE i ni: yn fras, cyfanswm o £650 miliwn y flwyddyn. Rydym yn gwybod bod cymorthdaliadau ffermio eu hunain yn £260 miliwn. Nawr, gellir dadlau, am wn i, y byddai’r cyllid hwnnw wedi lleihau yn y dyfodol pe na fyddem yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gronfeydd strwythurol, ond, serch hynny, rydym yn colli swm sylweddol o arian. Os edrychwn ar gymorthdaliadau ffermio, nid yw cymorthdaliadau ffermio yn dod dan fformiwla Barnett. Y canlyniad gwaethaf y gallem ei ddychmygu ar gyfer Cymru byddai i gymorthdaliadau ffermio gael eu talu ar sail Barnett. Byddai hynny'n doriad sylweddol yn y swm o arian a oedd ar gael i ffermwyr.
Materion fel ffermio a physgodfeydd sy'n dangos pam y mae angen agwedd wahanol tuag at bensaernïaeth gyfansoddiadol y DU. Mae angen cytuno, er enghraifft, ar gyfundrefnau iechyd anifeiliaid. Ni allwch gael pedair gwahanol gyfundrefn iechyd anifeiliaid. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae angen cytuno ar hynny. Mae angen cytuno ar sut y gallai cymorthdaliadau ffermio weithio ledled y DU. A oes sail ar gyfer nifer penodol o reolau cyffredin er bod y systemau yn wahanol iawn ledled y DU? Pan ddaw i bysgodfeydd, a fyddai dull cyffredin o reoli pysgodfeydd? Mae hynny i gyd wedi’i ddatganoli. Ac wrth gwrs, mae’r mater sylfaenol, sef na ddylai cymhwysedd yr UE, o dan unrhyw amgylchiadau, mewn maes sydd wedi’i ddatganoli, fynd yn y pen draw at Lywodraeth y DU. Dylai drosglwyddo yn syth at y Llywodraethau datganoledig. Rydym wedi gwneud y pwynt hwnnw yn glir iawn, iawn.
Mae Llywodraeth yr Alban yn yr un sefyllfa ag yr ydym ni. Hyd nes y byddwn yn gwybod safbwynt y DU mae'n anodd rhoi eglurder llwyr ar y ffordd ymlaen. Ond mae hi yn gofyn y cwestiwn ‘Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mynediad at y farchnad sengl ac aelodaeth o’r farchnad sengl?’ Yn ymarferol, nid wyf yn siŵr bod llawer o wahaniaeth, ond mae aelodaeth o’r farchnad sengl yn awgrymu talu i mewn iddo. Mae'n awgrymu bod yn rhwym i reolau’r farchnad sengl a bod yn rhwym gan gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd. Dyna’r model Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond mae hynny hefyd yn cynnwys symudiad rhydd o bobl, ac fe fydd hi’n gwybod, gystal â fi, bod hwnnw wedi bod yn fater arbennig o ddadleuol yn ymgyrch y refferendwm ei hun. Ar hyn o bryd, mewn theori, mae'n cyfeirio at gytundeb yn arddull masnach rydd, ond eto ni chaiff y pethau hyn eu gwneud o fewn dwy flynedd. Mae gan Canada gytundeb gyda'r UE sy'n rhoi mynediad—mynediad o bron i 100 y cant: 98 y cant o fynediad—at nwyddau a gwasanaethau o’r farchnad Ewropeaidd. Nid yw hi’n rhwym i gyfarwyddebau Ewrop. Nid yw hi’n rhwym i ddyfarniadau Llys Ewrop, ond, wrth gwrs, fel unrhyw un sy'n dymuno allforio i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhwym i reolau'r Undeb Ewropeaidd os yw'n dymuno allforio yno. Nid oes modd osgoi hynny. Felly, i mi, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai’r model cytundeb masnach rydd, oherwydd mater y symudiad rhydd o bobl, yw'r un a allai darparu ffordd ymlaen, er nad yw hynny'n hawdd ei drafod. O ystyried y ffaith mai ychydig iawn o amser sydd i wneud hyn, ac nad oes gan y DU yr arbenigedd, mae'n haws mewn theori nag y mae yn ymarferol. O dan yr amgylchiadau hynny mae’n rhaid i ni wedyn ystyried materion megis a yw model Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn fwy priodol i ni yn hytrach na'r model Ardal Economaidd Ewropeaidd, yr wyf yn amau y byddai’n groes i farn llawer o bleidleiswyr yng Nghymru.
O ran yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru a'i pherthynas â Llywodraethau eraill yn y DU, yr wyf wedi rhoi’r enghreifftiau ffermio a physgodfeydd, lle y mae angen pensaernïaeth newydd, ond, ar ddiwedd y dydd, byddwn ar ein colled o oddeutu £650 miliwn. Mae'r arian hwnnw yn eistedd gyda'r Trysorlys. Nid yw'r Trysorlys yn adnabyddus am ei haelioni cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Maent wedi gwrthod diwygio fformiwla Barnett ers 37 mlynedd, ac rydym yn gwybod nad yw hwnnw'n gwneud unrhyw ffafrau â Chymru. Rwy’n poeni am ddau beth: yn gyntaf, y byddant yn ceisio rhoi swm o arian i ni, er enghraifft ar gyfer cymorthdaliadau ffermio, sy'n adlewyrchu Barnett—nid yw hynny’n ddigon da—a hefyd y gallent geisio ymyrryd yn y ffordd y mae cronfeydd yn cael eu gwario yng Nghymru yn y dyfodol, ac ni fyddai’r naill na'r llall o'r rhain yn dderbyniol. Pam ei bod yn dal yn wir yn y DU, er enghraifft, mai’r Trysorlys yw’r barnwr a’r rheithgor pan fydd anghydfod ariannol rhwng gweinyddiaeth ddatganoledig a Llywodraeth y DU? Mae'r broses datrys anghydfod—. Os oes anghydfod rhyngom ni a'r Trysorlys, y broses o ddatrys hwnnw yn y pen draw yw bod y Trysorlys yn gwneud y penderfyniad. Nawr, mae gan Awstralia gomisiwn grantiau, sy'n datrys y broblem hon. Mae angen inni edrych ar ffyrdd o greu mwy o degwch a chonsensws pan ddaw i ariannu cenhedloedd cyfansoddol y DU ac nid ‘beth bynnag y mae’r Trysorlys yn ei ddweud sy’n cael ei weithredu’. Mae’n rhaid i hynny gael ei ddileu yn y dyfodol—ac mae hyn yn arbennig o bwysig, wrth gwrs, gyda Brexit.
O fy safbwynt i, rwy'n fwy na hapus â'r tîm gwasanaeth sifil sydd wedi ei sefydlu, y bensaernïaeth sydd wedi ei sefydlu, a hefyd y safbwyntiau yr ydym eisoes wedi cyflwyno am yr hyn sy’n hynod bwysig i Gymru mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni gael dealltwriaeth yn awr ar safbwynt Llywodraeth y DU. A yw Llywodraeth y DU yn ddibryder ynghylch tariffau, fel y mae David Davis? Dywedodd nad oedd ots am y tariffau oherwydd y byddai £2 biliwn yn cael ei godi mewn trethi—a delir gan y defnyddiwr wrth gwrs, oherwydd y defnyddiwr sy'n talu'r tariff, nid y busnes—ac nid oedd yn ymddangos yn arbennig o bryderus am yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Mae rhai, ar begwn eithaf y maes economeg, sydd o’r farn na ddylai fod gennym unrhyw rwystrau tariffau o gwbl, ni waeth beth y mae unrhyw farchnad arall yn ei wneud, ond eto, nid wyf yn credu y byddai’r rhan fwyaf o'n pobl ni yn ffafrio hynny.
Felly mae'r rhain i gyd yn faterion y bydd angen eu harchwilio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ond mae'n amlwg i mi, cyn y Nadolig, bod angen i ni gael dealltwriaeth gan Lywodraeth y DU ar ei safbwynt ar fater y cyllido, ac yn enwedig ar fater y mynediad i’r farchnad. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol i ni—cewch ei alw’n aelodaeth neu’n fynediad—yw bod ein busnesau yn gallu gwerthu eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhydd, heb dariffau, ym marchnad sengl Ewrop. Dyna, i ni, yn bendant yw hanfod y peth.
Diolch i chi am eich datganiad. Mae fy mhlaid i, y Ceidwadwyr Cymreig, o’r farn bod yn rhaid i Gymru elwa ar gymaint o arian, o leiaf, wrth i ni fynd ymlaen a byddwn yn parhau i nodi’r sylwadau hynny yn ein trafodaethau yma ac mewn mannau eraill.
Rydych yn dweud eich bod yn falch bod y Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd y cyllid polisi amaethyddol cyffredin colofn 1 i ffermwyr wedi cael ei gytuno tan 2020 ond yn ychwanegu, cyn belled ag y mae CAP colofn 2 a chronfeydd strwythurol yn y cwestiwn, y bydd y Trysorlys ond yn gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n cael eu cytuno'n ffurfiol cyn datganiad yr hydref. Fodd bynnag, roedd y briff a ddarparwyd i aelodau'r pwyllgor materion allanol ar gyfer y cyfarfod yr oeddech yn bresennol ynddo ddoe yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol y bydd y Trysorlys hefyd yn rhoi trefniadau ar waith ar gyfer asesu pa un a gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau cronfeydd strwythurol a buddsoddi penodol a allai gael eu cadarnhau ar ôl datganiad yr hydref ond tra ein bod yn parhau i fod yn aelod o'r UE, a rhagor o fanylion i'w darparu cyn datganiad yr hydref. O ystyried pwysigrwydd y datganiad hwnnw a'r cyfeiriad dro ar ôl tro at y sefyllfa gennych chi yma ac mewn mannau eraill, a wnewch chi ein sicrhau ni, a rhoi tystiolaeth i ni, o ba drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda'r Trysorlys cyn datganiad yr hydref ynghylch yr ymrwymiad hwnnw a wnaed?
Ddoe, unwaith eto, gofynnwyd i chi yn y pwyllgor materion allanol am y grŵp cynghori allanol. Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud wrth fy nghydweithiwr, Suzy Davies, y byddech yn ceisio cynnwys pob parti ac amryw o asiantaethau eraill yn hynny. A wnewch chi ddarparu rhagor o fanylion ynglŷn â phryd y bydd hynny’n digwydd ac ar ba sail yr ydych yn bwriadu i hynny barhau? Rydych chi wedi cyfeirio at eich ymweliad â'r Unol Daleithiau gan ddweud y byddwch yn gwneud popeth i ddatblygu hyder yng Nghymru a thramor. Yn amlwg, yn eich araith ddydd Gwener diwethaf, dywedasoch fod Cymru ar agor ar gyfer busnes, ond soniasoch hefyd fod risg o niwed economaidd diangen i’n gwlad a’n dinasyddion. Cywirwch fi os ydw i'n anghywir, ond, fy nealltwriaeth yw eich bod ar ymgyrch werthu. Rwy'n gwybod o fy ngyrfa flaenorol fod pobl ar ymgyrch werthu—gwerthwyr—yn gwerthu'r buddion, gan esbonio mewn modd hyderus, galluog pam y bydd Cymru ar ôl Brexit yn parhau i fod yn lle gwych i wneud busnes. Rwy’n gwybod eich bod chi wedi cael rhywfaint o brofiad busnes o'r blaen, efallai llai o brofiad gwerthu o'r blaen, ond a ydych chi’n deall yr egwyddor sylfaenol honno o werthu a marchnata ac yn cadw hynny mewn cof wrth i chi fwrw ymlaen â thrafodaethau yn y dyfodol?
Rydych yn iawn i sôn am bwysigrwydd mynediad dilyffethair, parhaus at farchnad sengl a masnach rydd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ddoe, pan ofynnais i chi am gymryd rhan mewn trafodaethau cyn masnachu—o ystyried ein bod yn gwybod bod trafodaethau archwilio rhwng Prif Weinidog Awstralia a Llywodraeth y DU wedi eu cynnal yr wythnos ddiwethaf a bod gwledydd fel India, Mecsico, De Korea a Singapore wedi dweud wrth Lywodraeth y DU eu bod am gymryd rhan mewn trafodaethau am fasnach â’r Llywodraeth—onid yw hi ychydig bach yn rhy hwyr i aros i Lywodraeth y DU, ar ôl Brexit, ddechrau trafodaethau masnach ffurfiol? Oni ddylech chi fod yn ceisio cymryd rhan uniongyrchol yn y trafodaethau hynny, o gofio pwysigrwydd y materion i Gymru, fel y trafodwyd ddoe, megis tariffau cig oen Seland Newydd?
Gwnaethoch gyfeirio ddoe, ac rydych wedi gwneud hynny eto heddiw, at drafodwyr masnach. Fy nealltwriaeth i yw bod gan y DU tua 120 o drafodwyr masnach, yn rhan o dîm Comisiwn yr UE yn gweithio ym Mrwsel ar hyn o bryd, sy'n dychwelyd—credaf fod cytundeb wedi ei gyrraedd y byddant yn gweithio ar hyn gyda Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn recriwtio sawl cant yn fwy yn fewnol yn y gwasanaeth sifil, gyda phrofiad perthnasol a hyfforddiant ychwanegol. Pa ymdrech yr ydych chi wedi'i wneud, neu y byddwch chi’n ei wneud, i geisio penodi rhai o'r trafodwyr hynny i fod mewn sefyllfa i gynghori, ymgysylltu a chynrychioli Llywodraeth Cymru yn rhan o dîm y DU? Y gobaith yw y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb yn gadarnhaol i'r awgrym y gallai trafodwr o'r fath yn y sefyllfa honno fod o fudd i bawb.
Rydych chi’n iawn, ac rydym yn cytuno, nad oes unrhyw un yn y Cynulliad hwn yn dymuno byw mewn gwlad a ddiffinnir gan gyflogau isel neu ragolygon gwael. Pan rydych chi’n dweud nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael Ewrop ac yn llai fyth fod Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop—mae Cymru, a bydd yn parhau i fod, yn rhan o Ewrop—mae hynny, wrth gwrs, yn cyd-fynd â sylwadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Tramor, rwy’n meddwl, wrth gyfarfod â’r Comisiwn ym Mrwsel yn eithaf diweddar. Felly, rydym yn croesawu hynny. Rydym ni hefyd, fel chi, yn rhoi gwerth uchel ar fynediad at farchnad sengl yr UE, ond rydym yn cydnabod bod mynediad at farchnadoedd yn broses ddwy ffordd, a bod llawer o genhedloedd yr UE, yn enwedig y rhai mwy o faint, yn dibynnu'n drwm ar y farchnad yng Nghymru a'r DU. A ydych chi felly'n cydnabod ei bod yn broses ddwy ffordd, a bod hyn, ar hyn o bryd, yn gêm gynnar, a'r ddwy ochr yn ceisio lleoli eu hunain a bod yn rhaid i ni ddefnyddio ein cryfderau, fel y bydd ein ffrindiau a'n partneriaid yn Ewrop yn ei wneud, er mwyn arwain at sefyllfa na fydd yn gwneud unrhyw niwed, gobeithio, i’r naill ochr neu’r llall, gan weithredu er budd pawb? Os byddwn yn cadw siarad am hyn fel dim ond ymbilwyr wrth fwrdd yr ymerawdwr, dyna’n union sut y cawn ein trin.
Yn amlwg, yn y pen draw, ein nod ni hefyd fydd cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gwledydd Ewrop. Mae'n eironig bod mynediad i Gymru at rai o ffrydiau cyllid yr UE, yn enwedig cyllid strwythurol, yn sgil y ffaith bod bwlch ffyniant Cymru gyda'r UE a gweddill y DU mewn gwirionedd yn ehangu ers derbyn y cronfeydd. Felly, sut fyddwch chi’n ceisio defnyddio’r trafodaethau a’r gwaith o ad-drefnu polisïau ar ôl y trafodaethau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i droi’r bwlch hwnnw yn y gwerth ychwanegol gros a’r bwlch ffyniant sydd wedi lledu yn fwlch culach sy’n cyrraedd y cymunedau hynny, i raddau helaeth, a bleidleisiodd o blaid Brexit? Unwaith eto, yr oedd hwn yn rhywbeth y cyfeiriwyd ato yn y pwyllgor ddoe.
Gwnaethoch sôn yn fyr am Lywodraeth yr Alban a’ch barn ei bod yn annhebygol y byddai yna gytundeb annibynnol oherwydd y sensitifrwydd yn Sbaen ac mewn mannau eraill. A ydych chi’n cytuno â mi, pe byddai’r Alban yn trafod fel cenedl annibynnol, y byddai'n ofynnol iddynt fynd i mewn i ardal yr ewro fel cenedl ardal yr ewro, sy'n rhan o reolau aelodaeth y clwb ar hyn o bryd?
Yn olaf, byddaf yn cyfeirio’n gyflym at amaethyddiaeth—rhywbeth sy'n hanfodol bwysig ond nad wyf wedi cyfeirio ato hyd yn hyn. Yn sioe Dinbych a’r Fflint, roedd panel Undeb Amaethwyr Cymru yn unfrydol yn eu penderfyniad y dylid ystyried y penderfyniad i adael yr UE yn gyfle i lunio dyfodol sy'n addas i ffermwyr Cymru, nid dim ond y rhai hynny ar draws y Sianel. Ar ôl y trafodaethau, dywedodd eu rheolwr gyfarwyddwr ‘Does dim pwynt edrych yn ôl, mae'n rhaid i ni yn awr ganolbwyntio ar y dyfodol a chydnabod y cyfle gwych i ni lunio ein dyfodol ein hunain, un sy'n gweddu amaethyddiaeth Cymru a phobl Prydain.’ Dywedwyd hefyd, os na fyddwn yn newid ein polisi ynglŷn â rheoli TB mewn gwartheg mewn bywyd gwyllt, bod ein hallforion i'r Undeb Ewropeaidd mewn byd ôl-Brexit dan fygythiad sylweddol. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi neu eich Llywodraeth wedi'u cael, neu y byddwch chi’n eu cael, gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ynglŷn â dechrau trafodaethau ar y sail gadarnhaol honno ac adlewyrchu’r pryderon a’r rhwystrau gwirioneddol y maent wedi eu nodi?
Cafwyd sawl cwestiwn gan yr Aelod. Yn gyntaf oll, o ran cyhoeddiad y Trysorlys, yr hyn y maent wedi'i ddweud yw y byddant yn ariannu unrhyw brosiect sy’n cael ei gymeradwyo cyn y datganiad. Mae dadl yn parhau ar hyn o bryd o ran yr hyn y mae 'cadarnhau' yn ei olygu. Felly, nid yw'n hynod o glir beth yw’r dyddiad cau, er bod yr ymrwymiad yn amlwg. Pan mae'n sôn am golofn 2 a phrosiectau sy'n cael eu cymeradwyo ar ôl i ddatganiad yr hydref gael ei asesu, ffordd y Trysorlys o ddweud ‘Bydd yn rhaid i chi ymbil arnom am yr arian’ yw hynny. Beth mae'n ei olygu yw na fyddwn yn derbyn unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd arian a fyddai wedi dod i Gymru fel hawl yn flaenorol yn dod i Gymru o gwbl, gan y bydd y Trysorlys yn ei reoli, yn ôl y rheolau y mae'r Trysorlys ei hun yn eu pennu, a heb unrhyw fath o esboniad. Dyna beth y maent yn ei olygu wrth hynny. Felly, ni allwn roi unrhyw sicrwydd o gwbl y byddwn yn cael ceiniog ar ôl i’r cyfnod cymeradwyo fynd heibio. Bydd ar sail achos unigol, yn ôl y Trysorlys, a byddant yn penderfynu a fydd arian a ddaeth yn awtomatig ar un adeg yn dod o gwbl yn y dyfodol.
O ran y Grŵp Cynghori ar Ewrop, rwy’n ymwybodol nad yw’n gallu cynnwys pobl a oedd ar un ochr ymgyrch y refferendwm yn unig. Felly, bydd angen sicrhau bod y bobl yn y Grŵp yn adlewyrchu’r gwahaniaeth barn, nid dim ond un farn unigol ynghylch y dyfodol. O ran magu hyder, wel, mae'n sôn wrthyf i am ‘ddawn gwerthu’ yn ei eiriau ef, heb ddweud y byddai Brexit wedi bod yr hyn sy'n cyfateb i rywun yn gofyn i mi ‘Wel, faint yw eich cynnyrch?’ a fi yn dweud 'ni allaf ddweud hynny wrthych’ gan fod pob busnes unigol yn dymuno gwybod beth oedd yn digwydd ar ôl Brexit. Byddai pob busnes unigol eisiau gwybod beth yw fy marn i ar fynediad at y farchnad sengl a minnau’n dweud 'Wel, ni allaf ddweud hynny, nid wyf am ddweud wrthych' wedi ymddangos, wel, gallwch ddychmygu sut y byddai hynny’n ymddangos. Felly, roedd yn hynod o bwysig i ddweud wrth gynulleidfa yn yr Unol Daleithiau bod Llywodraeth Cymru yn credu bod mynediad dilyffethair at y farchnad sengl yn bwysig dros ben. Dywedodd pob busnes y siaradais ag ef hynny, oherwydd, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, bod eu busnesau yn weithrediadau Ewropeaidd nid yn weithrediadau yn y DU. Os oes rhwystr rhwng y DU a'r gweithrediadau llawer mwy sydd ganddynt yn Ewrop, y DU fydd yn dioddef o ganlyniad i hynny. Mae angen i ni osgoi hynny ar bob cyfrif.
O ran y materion eraill a gododd, ar drafodaethau cyn masnachu, mae llawer o adroddiadau wedi bod yn y papurau am wledydd yn dod at y DU. Gwlad yr Iâ oedd y cyntaf. Rwyf wedi gweld llawer iawn o rai eraill. Y gwir amdani yw nad oes unrhyw beth wedi digwydd eto a byddem yn disgwyl, wrth gwrs, i fod yn rhan o unrhyw drafodaethau ar gytundebau masnach rydd. Maent yn cymryd blynyddoedd i’w trafod—10 mlynedd, fel arfer, i gytuno arnynt. Mae'r awgrym y gallai'r DU ail-drafod tua 50 o gytundebau masnach rydd mewn dwy flynedd—ni allaf ddychmygu y byddai hynny'n bosibl, yn enwedig yn erbyn gwledydd sy'n drafodwyr masnach profiadol. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cydbwyso yr hyn sy'n angenrheidiol gyda’r hyn sy’n wirionedd bosibl. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn dal i fod yng nghanol y broses o lunio tîm trafod. Mae'n bell iawn o fod mewn sefyllfa i allu trafod cytundeb masnach rydd gyda bloc masnachu neu wlad arall, a dyna pam y mae damcaniaeth yr hyn y soniais amdano yn gynharach wrth arweinydd yr wrthblaid yn iawn, ond yn ymarferol mae’n llawer mwy anodd ar hyn o bryd.
O ran y farchnad sengl, ie, mae'n rhaid iddo fod y ddwy ffordd ac mae'n dibynnu pwy ydych chi. Os mai Aston Martin neu Jaguar Land Rover ydych chi, mewn gwirionedd efallai na fydd tariffau yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth i chi. Os mai BMW ydych chi, mewn gwirionedd—bydd pobl yn dal i brynu ceir BMW, tariff neu beidio, os ydynt yn dod o'r Almaen. Ond, os ydych chi’n wneuthurwr ceir fel Nissan neu Ford, mae'n gwneud gwahaniaeth mawr oherwydd y mae hynny o bosibl yn ychwanegu’n fawr at gost y ceir yr ydych yn eu gwerthu, ac yr ydych yn eu gwerthu fel swmp. Felly, y cynhyrchwyr ceir swmp a fyddai’n dioddef fwyaf gyda thariffau, tra byddai ceir crand—i siarad yn blaen, os gallwch chi fforddio prynu Aston Martin, efallai nad yw 10 y cant ychwanegol yn mynd i fod yn anodd i chi. Ond, byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr os ydych chi’n gobeithio prynu Ford yn y DU o'i gymharu â Ford ar gyfandir Ewrop. Felly, nid oes angen tariffau arnom ni. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad oes tariffau ar waith ac nid wyf yn meddwl bod neb yn dadlau’n rhagweithiol dros dariffau beth bynnag. Cofiwch ar gyfer 60 miliwn y DU, ar y pwynt hwnnw bydd yr UE yn 440 miliwn. Nid ydym yn sôn am ddau floc cyfartal yma. Rydym ni’n sôn am sicrhau ein bod yn cael cymaint o gydraddoldeb â phosibl, ond nid yw fel petai ein bod ni yr un maint.
O ran y materion eraill y crybwyllodd, ydy, mae mynediad at y farchnad yn hynod bwysig i ffermwyr ac, ydy, mae cyfle i ail-lunio polisi amaethyddol, ond mae angen yr arian arnom. Os nad oes gennym dimau goch i dalu ffermwyr ar ôl 2020, gallai fod gennym y system gymorth amaethyddol orau yn y byd, ond dim ceiniog i dalu amdano. Felly, y mae'n rhaid datrys hynny ar draws y DU gan y pedair Llywodraeth yn y DU. Y peth olaf y mae ein ffermwyr ei eisiau—ein cynhyrchwyr cig oen yn arbennig—yw tariff 15 y cant ar gig oen sy’n cael ei werthu i’r Undeb Ewropeaidd. Ydy, mae'n gynnyrch o fri ond bydd yn dal i gael effaith ar y gwerthiant yn ein marchnad fwyaf ar gyfer cig oen. Felly, mae dyfodol ffermio yn dibynnu ar osgoi tariffau, fel y mae ym maes gweithgynhyrchu ac unrhyw sector arall o'r economi, ac mae’n rhaid i hynny fod y llinell sylfaen. Os ydym yn mynd i sefyllfa lle mae'r DU yn ei chanfod ei hun yn ddarostyngedig i reolau Sefydliad Masnach y Byd, bydd hynny yn ei gwneud yn fwy anodd i ddenu buddsoddiad. Pam fyddai buddsoddwyr yn ystyried y farchnad Ewropeaidd ac yn buddsoddi yn y DU yn hytrach nag yn yr Undeb Ewropeaidd lle gallant symud eu nwyddau a’u gwasanaethau o gwmpas heb unrhyw fath o rwystrau tariff? Dyna beth y mae’n rhaid i ni ei osgoi yn y dyfodol ac, fel y dywedais, nid wyf i’n credu bod unrhyw un wedi dadlau’n rhagweithiol dros dariffau beth bynnag. Gadewch i ni eu hosgoi.
Yr wyf i’n croesawu'r datganiad ac rwyf yn croesawu atebion y Prif Weinidog hyd yn oed mwy, a oedd, yn fy marn i, yn ystyriol iawn, i arweinydd yr wrthblaid, yn enwedig ei awgrym mai’r model masnach sy'n cynnig y cwmpas gorau ar gyfer ffyniant Cymru yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn croesawu ei ddatganiad na ellir anwybyddu canlyniad y refferendwm ac na ddylid gwneud hynny, ac rwyf yn casglu bod hynny’n golygu nad oes troi’n ôl ar ganlyniad y refferendwm, sy'n ei wahaniaethu ef, ar unrhyw gyfrif, o arweinydd Plaid Cymru, sydd wedi bod yn sôn am ei ail-gynnal, ac, yn wir, arweinydd tybiedig ei blaid ei hun, ar ffurf Owen Smith, sydd yn gyson yn sôn am ail-gynnal y refferendwm. Felly, rwy’n gobeithio ei fod yn mynd i bleidleisio dros y dyn cywir yng nghystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yr ydym i gyd yn fy mhlaid i yn ei gefnogi i'r carn, oherwydd ei fod ef ar unrhyw gyfrif—. [Torri ar draws.] Ei fod ef ar unrhyw gyfrif wedi derbyn bod canlyniad y refferendwm yn un sy’n rhwymo.
Rwyf yn cytuno hefyd â'r Prif Weinidog pan ddywed y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fagu hyder yng Nghymru, ond mae gen i ofn nad yw’r cwynion a glywn yn rhy aml gan Brif Weinidog Cymru, megis y ffordd y cafodd ei araith yn Chicago ei adrodd, mewn gwirionedd, yn gwneud unrhyw beth i helpu i fagu hyder yng Nghymru. Fel yr oedd Mark Isherwood yn dweud, pan rydych chi’n werthwr rydych chi’n mynd allan yno ac yn gwerthu eich cynnyrch—nid ydych yn sôn am yr anfanteision nac yn pwysleisio’r anawsterau. Oes, mae yna heriau o ran Brexit, wrth gwrs—mae bywyd yn llawn ansicrwydd, o ran a ydym yn aros y tu mewn i'r UE neu a ydym y tu allan iddo—ond mae yna gyfleoedd hefyd. Beth am ganolbwyntio ar y cyfleoedd yn ogystal? Mae cymaint o ddeddfwriaeth Ewropeaidd y mae’n ofynnol i ni ei gweithredu a glynu ati, fel y gyfarwyddeb ynni adnewyddadwy, y gyfarwyddeb tirlenwi, ar ardrethi busnes a rheoliadau cymorth gwladol, ac yn y blaen. Mae gennym gymaint mwy o hyblygrwydd y tu allan i'r UE i leihau costau busnes a lleihau'r rhwystrau sy’n bodoli i greu cyfoeth yng Nghymru. Felly, beth am siarad ychydig mwy am y cyfleoedd ac ychydig yn llai am yr heriau?
O ran y Grŵp Cynghori ar Ewrop, daeth datganiad y Prif Weinidog i ben ar nodyn uchel, lle mae'n dweud
‘ac mae'r materion a godwyd hyd yn hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i fuddiannau unrhyw Lywodraeth benodol.’
Mae'n hollol gywir yn hynny. Ac mae'n syndod, felly, er ei fod wedi dod i ryw gytundeb bach cysurus â Phlaid Cymru i roi mynediad ffafriol iddynt i'r farchnad syniadau benodol hon, mae arweinydd y blaid Geidwadol a minnau sydd wir yn credu yn y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yn y refferendwm hwn, wrth gwrs, wedi ein heithrio. Nid wyf yn dweud hyn o ganlyniad i unrhyw awydd ar fy rhan i i ychwanegu beichiau pwyllgor ychwanegol at fy mywyd, ond mae'n hanfodol bwysig bod y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cynnwys pobl sy'n eiriolwyr effeithiol o blaid y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto, ac sy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Felly, hoffwn ddweud, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran Andrew Davies, yn ogystal, ein bod yn sicrhau ein bod ar gael i’r Prif Weinidog, yn hyn o beth os nad yn unrhyw beth arall.
O ran y gwahanol fodelau—
Rwy’n meddwl y dylwn i ymyrryd. [Chwerthin.]
O ran y gwahanol fodelau o’r dyfodol y cyfeiriodd y Prif Weinidog atynt, mae bob amser yn beryglus pan fo dynion canol oed, wrth gwrs, yn ymhél â modelau—mae fel arfer yn dod i ddiwedd gwael. [Torri ar draws.]
Roeddech yn gwneud mor dda. [Chwerthin.]
Ond cefais fy annog gan yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb i arweinydd yr wrthblaid, oherwydd nid oes angen i ni fabwysiadu unrhyw fodelau sydd eisoes yn bodoli. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ateb sydd wedi ei gynllunio gan Brydain ar gyfer y dyfodol.
Na, rydym am gael un Cymreig.
Neu un Cymreig o ran hynny, ie, ond nid yw eich plaid chi eich hun hyd yn oed yn credu mewn annibyniaeth bellach, felly nid yw hynny'n cael ei gynnig. Felly, y cyfle y mae hyn yn ei roi i ni, wrth gwrs, yw i wneud bargen masnach rydd â’r UE, a hefyd cytundebau masnach rydd â gweddill y byd, ac maent yn awyddus i wneud y cytundebau hyn â ni. Ni allaf ddeall pesimistiaeth y Prif Weinidog o ran yr amser y mae hyn yn mynd i’w gymryd. Felly, yr hyn yr wyf yn gofyn iddo ei wneud yw rhoi mwy o gefnogaeth i’r syniad o ateb masnach rydd yn y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt yn awr.
O ran y pethau negyddol eraill a ddywedodd, pam ei fod yn dal i roi sylw i'r syniad ei bod yn bosibl i ni wahaniaethu yn erbyn dinasyddion yr UE ar ôl Brexit, pan ei fod yn gwybod bod hawliau dinasyddion yr UE wedi eu gwarchod yn llawn dan gytundeb 1969 Fienna ar hawliau gwladolion aelodau sydd wedi cytuno iddo? Nid oes troi’n ôl ar hynny ac mae Llywodraeth y DU, rwy’n credu, eisoes wedi gwneud y sefyllfa honno yn glir.
Ac o ran dyfodol tariffau o fewn yr UE, ni allaf ddeall pam y mae’n meddwl bod tariffau ar fewnforion ac allforion rhwng Prydain a'r UE mewn gwirionedd yn fygythiad difrifol i ni. Os edrychwn ar yr Almaen fel enghraifft, rydym yn allforio gwerth £29 biliwn o nwyddau iddynt bob blwyddyn, ond maent yn allforio dwywaith hynny i ni—£57 biliwn. Felly, mae ef wedi bod yn siarad am ei drafodaethau â Llywodraeth y DU, ond beth am sefydlu rhai trefniadau i siarad â Llywodraeth yr Almaen a Llywodraethau eraill sy'n ffafrio ateb masnach rydd ar gyfer eu hunain yn ogystal ag ar gyfer y DU o fewn i'r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt? Pa gamau y mae wedi eu cymryd i gychwyn trafodaethau â Llywodraeth yr Almaen, oherwydd y flwyddyn nesaf ceir etholiad yn yr Almaen ac nid wyf yn credu y bydd Canghellor yr Almaen am ddechrau'r etholiad hwnnw yn dweud bod posibilrwydd y bydd tariff o 10 y cant neu 15 y cant ar allforion BMW, Mercedes, Volkswagen ac ati i'r UE. Felly, yr hyn yr wyf yn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw i fod yn fwy cadarnhaol, i ganolbwyntio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau fel y gallwn fanteisio i’r eithaf ar ganlyniad y refferendwm.
Wel, ie, rwy’n derbyn y pwynt am ystyried y cyfleoedd. Mae cyfleoedd o ran cymorth y wladwriaeth, o bosibl, er enghraifft. Os nad ydym yn rhan o'r strwythur presennol, yna, wrth gwrs, nid yw’r cyfyngiadau sydd yno ar hyn o bryd yno bellach—mae hynny’n wir—ond ni allwn anwybyddu'r peryglon a meddwl y byddant yn diflannu’n rhwydd. Soniodd am rai o'r cyfarwyddebau sy'n dod i ni, a'r gyfarwyddeb tirlenwi fyddai’r un olaf y byddwn i wedi ei dewis yn ôl pob tebyg, oherwydd bod y gyfarwyddeb tirlenwi wedi gwneud yn siŵr nad ydym wedi gweld ein gwlad wedi’i gorchuddio â safleoedd tirlenwi. Os yw'n dymuno gweld mwy ohonynt a’i fod yn fodlon ac yn fwy na pharod i wneud yr achos hwnnw ar gyfer pobl Cymru—. Nid yw’n opsiwn di-boen. Un o'r materion a oedd yn fy mhoeni yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd yr awgrym, rywsut, fod hyn i gyd yn ddi-boen ac y bydd popeth yn iawn yn y diwedd ac nad oes yn rhaid i ni boeni. Wel, mae llawer o waith i'w wneud yn y cyfamser. Oes, mae gwledydd yn awyddus, efallai, i chwilio am gytundebau masnach rydd â'r DU, ac yn naturiol byddent yn gwneud hynny, gan y bydd y DU y tu allan i'r UE; nid yw’n syndod y byddent yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn gwybod bod y DU yn agored i niwed, gan nad oes ganddi unrhyw brofiad o drafod cytundebau masnach rydd ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni amddiffyn ein hunain yn erbyn gwledydd eraill a allai fanteisio efallai ar y DU ei hun.
Mae'n sôn am yr Almaen. Y realiti yw bod marchnad allforio’r Almaen yn enfawr. Mae ei allforion i’r UE, mae'n wir, yn fwy o ran y maint a gaiff ei allforio i’r DU na’r hyn yr ydym ni’n ei allforio iddynt hwy, ond mae canran uwch o allforion y DU yn mynd i'r UE na'r ffordd arall o gwmpas, felly mae'n gwbl hanfodol i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael mynediad at y farchnad allforio. Ni fydd yr Almaen yn siarad â'r DU ar ei phen ei hun; ni fydd yr Almaen ond yn siarad â'r Undeb Ewropeaidd—maent yn rhan ohoni. Mae’n rhaid i unrhyw gytundeb gael ei gytuno gan y 27 o aelod-wladwriaethau sy'n weddill, yn ogystal â Senedd Ewrop, felly gadewch i ni beidio â diystyru pa mor anodd y gallai hyn fod.
Nawr, mae'n ymddangos i mi nad oes neb am gael tariffau yn yr un modd ag nad oes neb un am weld ffin galed yn cael ei chodi rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, ond, mewn gwirionedd, nid oes neb yn gwybod sut i osgoi ei hail-sefydlu, oherwydd byddai dwy ran o ynys â gwahanol bolisïau mewnfudo—un â symudiad rhydd ac un heb, yn ôl pob tebyg. Bydd rheoliadau gwahanol ar y ddwy ochr i’r ffin. Byddai mynediad at bysgodfeydd yn cael ei gyfyngu. Byddai gwahanol dollau yn ddyledus. Dywedodd pobl wrthyf ar garreg y drws, ‘Rydym am reoli ein ffiniau. ’ Ni ellir gwneud hynny oni bai eich bod yn rheoli'r ffin â’r Weriniaeth. Felly, mae nifer o faterion y mae'n rhaid eu datrys yn Iwerddon, hyd yn oed os nad oes neb am weld y ffin yn dod yn ôl. Yr hyn yr wyf i am ei osgoi yw, er nad yw neb am weld y tariffau yn dod yn eu holau, bod hynny’n digwydd beth bynnag, gan nad oes neb wedi gwneud gwaith i'w hatal rhag dod yn ôl. Mae hynny'n golygu bod llawer iawn o waith eto i'w wneud; nid yw mor hawdd â hynny. Mae llawer iawn o waith eto i'w wneud er mwyn osgoi unrhyw fath o dariffau yn y dyfodol.
Mae holl lefarwyr y gwrthbleidiau wedi siarad erbyn hyn ac rydym wedi cael cyfraniadau eithaf hir gan y rhan fwyaf ohonynt. Mae gen i lawer o bobl sydd yn dal yn awyddus i ofyn cwestiynau yn y datganiad hwn. Mae’r amser bron â bod ar ben yn barod, felly os gallaf gael cwestiynau cryno, byr iawn gan rai ohonoch, byddaf yn galw arnoch, ac ymatebion byr gan y Prif Weinidog yn ogystal, ond ni fyddaf yn gallu galw pob un ohonoch a fynegodd diddordeb yn y datganiad hwn y prynhawn yma. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Byddaf yn wir yn cadw fy sylwadau'n fyr iawn. Gwnaeth un foment benodol yn y datganiad fy nharo i a rhai pobl eraill ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac roedd tua diwedd y datganiad, pan ddywedodd y Prif Weinidog:
‘Wrth i ni ystyried perthynas sydd wedi’i newid gyda'n cymdogion yn Ewrop, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried perthynas sydd wedi’i newid yma yn y DU.’
Mae'n mynd ymlaen ar ddiwedd y paragraff hwnnw i ddweud:
‘Mae angen i ni gadw dychymyg a meddwl agored i ddatblygu DU newydd, ddeinamig a chadarn.’
A yw o’r farn bod yna feddwl agored yn hyn o beth, ac os nad oes, sut ydym ni’n agor meddyliau pobl?
Nid wyf yn siŵr eu bod yn agored yn fwriadol. Rwy'n credu eu bod yn cael eu cadw ar agor oherwydd y sefyllfa yn yr Alban, ond yr wyf i yn sicr yn gobeithio y byddant yn parhau i fod yn agored am gyhyd ag y bo modd.
Yr oeddwn yn gobeithio y byddai safbwynt Llywodraeth Cymru yn cael ei egluro, ond rwy'n fwy dryslyd nawr nag erioed o’r blaen. Roedd yn ymddangos bod y Prif Weinidog yn mabwysiadu polisi cyfan UKIP, gan lamu dros y Ceidwadwyr a chyhoeddi ei fod o blaid cytundeb masnach rydd, oherwydd byddai aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gofyn am ryddid i symud. Nid yw hynny'n swnio fel arweinyddiaeth; mae hynny'n swnio fel ildio i mi. Felly, os ydw i'n anghywir, efallai y gall y Prif Weinidog egluro'r sefyllfa.
Yn benodol o ran y dull pedair cenedl, a yw’n diystyru’r posibilrwydd o Brexit anghymesur, os dymunwch chi? Clywsom am flynyddoedd lawer am optio allan o reolau Ewrop. A allem gael sefyllfa lle, os byddai budd cenedlaethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol, bod gennym drefniadau optio i mewn i reoliadau amgylcheddol, i hawliau gweithwyr, a pherthynas wahanol â’r sefydliadau Ewropeaidd a allai o bosibl gael eu dewis ar gyfer Lloegr? Ac yn olaf, er mwyn caniatáu trafodaeth lawn ac eang, lle y gallai’r buddiannau cenedlaethol dargyfeiriol hynny gael eu mynegi yn y cyfnod sy’n arwain at weithredu erthygl 50, ond hefyd yn bwysicaf fyth yn y trafodaethau ar ôl hynny, ai nawr yw’r amser i adolygu'r concordat ar faterion yr UE rhwng y deddfwrfeydd datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn, mewn gwirionedd, i’r gwahanol safbwyntiau hynny gael eu mynegi yn gyhoeddus ond hefyd mewn trafodaethau â sefydliadau'r UE?
Nid oes unrhyw rwystr i fynegi gwahanol safbwyntiau; rwyf i wedi gwneud hynny eisoes lawer, lawer gwaith, felly gallaf sicrhau'r Aelod bod hynny’n wir. O ran y pedair gwlad, nid yw'n bosibl—yn sicr mae’r arwyddion yn dangos hynny—bod unrhyw ffordd, er enghraifft, y gall yr Alban gael perthynas wahanol â’r UE tra'i bod y tu allan iddo o'i gymharu â'r DU cyfan. Barn Llywodraeth yr Alban yw bod annibyniaeth yn dal i fod yn bosibl. Mae dadl dros ddweud, pe byddai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth o fewn y cyfnod o ddwy flynedd yn dilyn sbarduno erthygl 50, y byddai’r Alban, yn syml, yn parhau i fod yn aelod o’r DU. Ni fyddai’n rhaid iddi ailymgeisio nac ymuno ag ardal yr ewro. Byddaf yn gadael hynny i gyfreithwyr cyfansoddiadol, yr wyf wedi mwynhau eu cwmni yn fawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ond cyn gynted ag y bydd yr Alban yn gadael, byddai ei hail-fynediad i'r UE, pe byddai’r Alban yn wladwriaeth annibynnol, yn golygu ei bod yn ymuno ag ardal yr ewro—nid oes unrhyw eithriadau wedi bod.
O ran i ble yr ydym yn mynd nesaf, fel fi, y mae’n rhaid iddo dderbyn canlyniad y refferendwm. Nid oes unrhyw bwynt esgus bod y bleidlais wedi bod yn wahanol, ac rwyf i, fel yntau, yn gwbl ymwybodol bod llawer o bobl wedi dweud ar garreg y drws, ‘Nid ydym yn hoffi symudiad rhydd pobl’, ac felly mae'n rhaid i ni dderbyn mai dyna'r ffordd y mae pobl yn teimlo ar hyn o bryd. Yn yr un modd, nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol i ni fod mewn sefyllfa lle yr oedd yn rhaid i ni weithredu cyfarwyddebau'r UE heb unrhyw fath o hawl i gyfrannu atynt, sy'n ei gwneud yn anodd, gan edrych ar y model Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae nifer o fodelau y mae angen inni eu harchwilio. Mae'n rhaid i ni gadw mewn cof yr hyn a ddywedodd pobl wrthym mewn gwirionedd, nid yr hyn y byddai ef a minnau wedi gobeithio eu bod wedi ei ddweud, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd sefyllfa sydd er budd busnesau Cymru.
Byddaf yn ei gadw’n eithaf byr, gan ein bod yn brin o amser. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno ag ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth eich plaid a’r AS dros Bontypridd, Owen Smith, y dylem wrthod ewyllys democrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig ac ailymuno â'r UE, mabwysiadu'r ewro a chael ffiniau agored drwy'r parth Schengen?
Nac ydw, dim mwy nag yr wyf yn credu y dylai fod refferendwm arall ar ddatganoli.
Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf ofyn am eglurder, os gwelwch yn dda, ar un maes allweddol? Rydych chi’n cytuno i, ac rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno i symudiad mor rhydd â phosibl o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod masnach yn dda ar gyfer unrhyw wlad, a'r mwyaf o rwystrau y byddwch yn eu rhoi ar waith, y lleiaf o gyfleoedd gwaith a’r lleiaf o ffyniant yr ydych chi’n ei greu. Yn sgil y refferendwm, rhoesoch ddatganiad clir iawn—yn wir, yr oedd yn y trydydd pwynt o chwech y gwnaethoch ddweud ei bod yn hanfodol ein bod hefyd yn cadw symudiad rhydd o bobl yn yr amod. Dywedwyd hynny ar 24 Mehefin yn rhan o’r chwe phwynt y dywedasoch chi oedd yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i mi ddweud, ers hynny, ac yn arbennig ar ôl eich cynhadledd i'r wasg ddiwedd mis Awst, rydych chi wedi dweud mai safbwynt Llywodraeth Cymru yn awr yw peidio â gwneud yr un gofynion o system Ewrop o ran rhyddid i symud. Mae’n awyddus i gadw nwyddau a gwasanaethau, ond nid oedd symudiad rhydd o bobl, ac rwyf yn dyfynnu hyn o erthygl, bellach yr un o’r gofynion yr oeddech yn eu disgwyl o'r ail-drafod. Felly, mae yna newid sylweddol yn safbwynt Llywodraeth Cymru o’r hyn a nodwyd gennych yn y chwe phwynt allweddol a amlinellwyd gennych yn y dechrau, ar ddiwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf, i safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd. A allwch chi gadarnhau bod hyn yn wir, os gwelwch yn dda?
Rwy'n credu ei bod yn anochel bod symudiad rhydd o bobl yn fater dadleuol. Rwy'n credu y byddai'n anodd awgrymu bod pobl wedi pleidleisio o blaid symudiad rhydd o bobl—o ystyried fy mod wedi clywed hynny gymaint o weithiau ar garreg y drws—gan iddynt bleidleisio i adael yr UE. Rhan o'r broblem yw na allwn gael rhestr lawn o’r rhesymau pam fod pobl wedi penderfynu gadael yr UE. Rwy’n clywed yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud, ond mae’n rhaid i chi dderbyn yr hyn a ddywedodd y refferendwm, ac mae'n rhaid i ni geisio deall yr hyn y mae ar bobl Cymru ei eisiau a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen y bydd y mwyafrif o bobl Cymru mewn gwirionedd yn awyddus i’w chefnogi. I mi, yr hyn sy’n hynod bwysig yw symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau a mynediad at y farchnad sengl. Mae’n sicr, heb hynny, na all busnesau Cymru ac economi Cymru ffynnu. Tu hwnt i hynny, wrth gwrs, mae nifer o bwyntiau trafod na ellir eu datrys yr wythnos hon na’r mis nesaf, na’r mis ar ôl hynny, ond bydd angen eu datrys yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn dilyn sbarduno erthygl 50.
Byddwn yn cytuno â'r Prif Weinidog bod angen i Gymru gael effaith ar y trafodaethau Brexit—ni ddylid eu gadael i gyd i'r Llywodraeth yn San Steffan—ond mae anfon unrhyw un o'r Ewrop-garwyr sy'n llenwi Llywodraeth Cymru i gynrychioli Cymru yn y trafodaethau Brexit fel gofyn i lwynog i warchod y cwt ieir. Ni fyddech yn anfon gwerthwr heb unrhyw ffydd yn ei gynnyrch i drafod â chwsmer allweddol; ni fyddech yn caniatáu i werthwr a oedd wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn sôn am anfanteision eich cynnyrch a chanolbwyntio ar ei wendidau i drafod prisiau â chwsmer allweddol; ni fyddech ychwaith yn anfon gwerthwr sy'n argyhoeddedig mai’r cwsmer hwnnw oedd yr unig gwsmer yn y byd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos dro ar ôl tro yn y Siambr hon nad oes gennych unrhyw ffydd yng Nghymru y tu allan i'r UE a’ch bod yn llwyr ddibynnol ar yr UE i wneud eich deddfau fel y gallwch weithredu fel pwyllgor rheoli. Nid oes angen cynrychiolwyr arnom sy'n gallu canu cân o ddibyniaeth ar yr UE yn eu cwsg ac nad oes ganddynt unrhyw gred yn eu gallu eu hunain i lywodraethu er budd pobl Cymru nac ysbryd entrepreneuraidd pobl Cymru.
Mae arnom angen pobl sy'n deall ein grym bargeinio fel pumed economi fwyaf y byd ac un o gwsmeriaid mwyaf yr UE. Nid ydym yn mynd i ddod o hyd i’r bobl hynny yn Llywodraeth Cymru.
Rwy'n credu bod yn rhaid i’r Aelod dderbyn na enillodd ei phlaid yr etholiad. Maent eisoes wedi colli un Aelod mewn dim o dro. A dweud y gwir, nid wyf am gael fy narlithio gan blaid nad yw pob un o’i haelodau yn byw yng Nghymru—yn siarad am ymrwymiad i'n gwlad. Mae pobl nad ydynt yn byw yn ein gwlad, ac eto yn dal yn awyddus, mae'n debyg, i gael eu talu i orfod gwneud hynny. Mae hynny’n gwbl hurt.
O'n safbwynt ni, mae'n rhaid i ni barchu yr hyn y dywedodd y Cymry. Mae'n rhaid i ni geisio dehongli, hyd eithaf ein gallu, yr hyn a ddywedwyd ganddynt, oherwydd nid oes eglurder, ar wahân i'r ffaith eu bod wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, yr hyn nad ydynt ei eisiau yw bod mewn sefyllfa lle maent yn canfod eu hunain mewn sefyllfa waeth yn economaidd. Rwy’n gwybod, cyn belled ag y mae UKIP yn y cwestiwn, bod y byd yn lle syml lle y gall pethau syml gael eu gwneud mewn cyfnod byr o amser. Nid dyna'r ffordd y mae'r byd mewn gwirionedd. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn awyddus i barchu barn pobl Cymru. Am flynyddoedd, nid oedd ei phlaid am i’r lle hwn fodoli. Nawr, maent yma; iawn, maent wedi derbyn realiti democratiaeth. Rydym ni wedi gwneud yr un peth ac, fel mae ei phlaid hi yn honni ei bod wedi ei wneud, byddwn ni’n gwneud yr un peth.
Yn olaf, Mark Reckless.
Hyd yn hyn, fodd bynnag, mae amaethyddiaeth wedi ei ddatganoli yn gyfreithiol i Gymru, ond, yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n digwydd yn y maes hwnnw wedi ei osod ar lefel yr UE. Mae’r Prif Weinidog yn gywir ddigon i nodi y bydd gwahaniaeth enfawr rhwng cyfran fformiwla Barnett o wariant ar amaethyddiaeth a'r hyn a gawsom o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. O ystyried hynny, a yw'n ddoeth iddo osod ei hun yn erbyn polisi tebyg i Bolisi Amaethyddol Cyffredin ar lefel y DU, dim ond oherwydd y byddai'n golygu ymyrryd â’r maes hwnnw sydd wedi ei ddatganoli yn gyfreithiol?
Mae bellach yn dweud nad yw am ymyrraeth o Frwsel, ond y dylai fod ymyrraeth o Lundain. Lle mae hynny'n gadael ffermwyr Cymru? Y realiti yw bod gennym system hollol wahanol o dalu a system gyfrifiadurol wahanol. Ceisio dod â phedair system ynghyd—pob lwc â hynny. Rydym ni, am gyfnod hir, wedi dweud y byddwn yn teilwra ein polisïau er lles ffermwyr Cymru. Yr hyn y mae ei angen arnom yw gwarant o'r arian—yr arian hwnnw a oedd yn dod i ffermwyr Cymru o Ewrop: £260 miliwn o gymorthdaliadau ffermio. Dywedodd ef, a dywedodd ei blaid, na fyddai ceiniog o hwnnw’n cael ei golli. Os oes gennym yr arian hwnnw, gallem weithredu polisi ffermio sy'n ennyn cefnogaeth y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru, yn hytrach na cheisio defnyddio hyn fel esgus i gymryd pwerau oddi wrth gorff etholedig pobl Cymru. Rwyf yn dweud yn awr wrtho ef a phobl eraill yn y Siambr hon: os yw hyn yn mynd i gael ei ddefnyddio fel esgus i ganoli grym yn y DU i ffwrdd o bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd yn gweld gwrthwynebiad cryf yn y Siambr hon a thu allan iddi.
Diolch, Brif Weinidog.