Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n mynd i gyfeirio at rif 3 yn y cynnig, sef pwysigrwydd y gyfundrefn addysg yn ei chyfanrwydd, felly, er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n mynd i drafod addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r cymhwyster ail iaith fel y cyfryw. Rwyf yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn yr ymgynghoriad sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd ynglŷn â chynyddu i filiwn y siaradwyr Cymraeg, yn nodi fel hyn, o dan y pwynt ynglŷn ag addysg:
‘Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr.’
Felly, yn amlwg, mae addysg yn allweddol i chi fel Llywodraeth hefyd yn y maes yma.
Heddiw, mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad Cymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf a chyn hynny wedi bod yn dysgu’r Gymraeg gartref—gwybodaeth ydy hyn sy’n dod o adroddiad Comisiynydd y Gymraeg. Ac un o’r prif resymau am y newid yma ydy nad ydy trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw ag yr oedd yn y gorffennol. Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo’r Gymraeg; nid dyna ydy’r broblem, ond bod yna llai o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad yr iaith. Felly, os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n hanfodol bod nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Yn amlwg, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg. Ond, yn anffodus, fel yr ydym ni wedi ei glywed yn barod, nid ydy’r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Roedd canran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014-15 nag yr oedd hi yn 2010-11. Ac nid ydy nifer y plant sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ymddangos i fod yn cynyddu ryw lawer chwaith. Felly, mae’n hollol amlwg bod rhaid inni fod llawer iawn mwy uchelgeisiol.
Mae’n rhaid inni gael gwared ar yr anghysondeb yma sydd ar draws Cymru lle mae gennych chi sefyllfa lle, yng Nghaerdydd, allan o 124 o ysgolion yn yr awdurdod, dim ond 19 sydd yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwy ffrwd. Ym Merthyr Tudful, allan o 28 o ysgolion yn yr awdurdod, dim ond tair sydd yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwy ffrwd. Mewn gwrthwynebiad llwyr, yng Ngwynedd a Cheredigion, mae bron pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg neu’n ddwyieithog—cyfanswm o 167 o ysgolion.
Mae’r cynlluniau strategol addysg Gymraeg felly yn allweddol, a dyna pam yr oeddwn i’n codi’r cwestiwn yn gynharach efo Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, achos nid oes yna ddim targedau yn y rheini ar hyn o bryd, ac felly nid oes modd eu dal nhw i gyfrif, ac felly, sut ydym ni’n mynd i symud ymlaen i wneud cynnydd sylweddol? Rydym ni’n gorfod cael targedau realistig ac amserlenni realistig. Nid fi sydd wedi dweud hynna, ond Alun Davies a ddywedodd hynna’r bore yma mewn pwyllgor, lle yr oeddwn i. Mae o’n cytuno, sydd yn wych.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol mynd yn ôl at argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Cynulliad diwethaf—17 o argymhellion pwysig iawn sy’n cynnig ffordd ymlaen o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, rhif 13:
‘Dylai’r Gweinidog ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddo o dan ddeddfwriaeth bresennol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu Cynlluniau Strategol.’
Dim ond un argymhelliad ydy hwnnw; mae yna rai eraill da iawn yn y fan hyn.
Felly, yn sicr, mae angen codi’r gêm ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, neu nid ydym ni byth yn mynd i gyrraedd at y targed clodwiw iawn o filiwn o siaradwyr. Mae yna lot fawr o waith i’w wneud yma, ac mae angen drilio reit i lawr er mwyn gwneud yn siŵr bod yna weithredu’n digwydd. Diolch.