Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 28 Medi 2016.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon yma heddiw. Methais fynychu’r cyfarfod briffio gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, anfonais gynrychiolydd ac rwyf wedi darllen y nodiadau’n ofalus iawn. Fel y byddwch i gyd yn gwybod, rwyf bob amser wedi ystyried y pwnc o safbwynt sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwyf am symud ymlaen yn syth at fater moch daear. Mae’n wir fod moch daear yn dod i gysylltiad â gwartheg sydd wedi’u heintio â TB buchol, ac fel arall. Mae wedi ei brofi, ar rai achlysuron, fod rhywfaint o gyswllt a rhyngweithio rhwng y ddwy rywogaeth.
Ond hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith fod corff gwyddonol annibynnol wedi cyhoeddi adroddiad Krebs ym 1997. Daeth hwnnw i’r casgliad fod yna ddiffyg tystiolaeth y byddai difa moch daear yn helpu i reoli lledaeniad bTB mewn gwirionedd. Felly, trefnodd Llywodraeth San Steffan gyfres o dreialon i geisio dod o hyd i ateb, ac fe’u galwyd yn Hap-dreialon Difa Moch Daear—RBCT. Glynent at egwyddorion gwyddonol manwl a pharhau am bron i ddegawd. Daethant i’r casgliad na allai difa moch daear, a dyfynnaf, wneud unrhyw gyfraniad ystyrlon i reoli TB gwartheg ym Mhrydain.
Pam felly? Un o’r pethau cyntaf y darganfu’r treial oedd bod cyfraddau TB mewn ardaloedd o ddifa adweithiol—hynny yw, difa ar ôl achos o TB gwartheg—yn uwch nag mewn ardaloedd heb unrhyw ddifa. Roedd yn 20 y cant yn uwch mewn gwirionedd. Cynyddodd hynny ein dealltwriaeth o aflonyddu a gwasgaru, pan fo moch daear â’r clefyd yn gwasgaru ac yn lledaenu’r clefyd hyd yn oed ymhellach. Yn hytrach, er mwyn cael gostyngiad bychan, hyd yn oed, mewn TB buchol, mae’n rhaid difa 70 y cant o boblogaeth moch daear mewn ardal heb fod yn llai na 150 cilomedr sgwâr. Mae’n rhaid gwneud hyn dros gyfnod byr iawn o oddeutu chwe wythnos bob blwyddyn. Wrth gwrs, os ydych yn lladd gormod o foch daear, rydych mewn perygl o ddiddymu’r rhywogaeth yn lleol, sydd eisoes wedi digwydd yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Mae papur Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn argymell difa yng Nghymru ar y sail hon, ar yr amod ei fod wedi’i dargedu, yn effeithiol ac yn ddi-boen. Cyfeiria ‘di-boen’ at y dull o drapio mewn cewyll a saethu, fel y’i defnyddir gan RBCT. Mae hynny’n cynyddu’r trothwy cost a budd yn sylweddol, sy’n ein harwain at yr hyn sy’n digwydd dros y ffin. Yn Lloegr, mae unrhyw esgus o ddefnydd neu ddiben gwyddonol wedi ei hen anghofio. Mae’r difa sy’n ehangu o hyd yn anwybyddu tystiolaeth Krebs yn llwyr. Mae’n drychineb digamsyniol ac yn dwll du ariannol. Ac mae’n ddigon posibl ei fod yn gwneud y broblem ddifrifol iawn i ffermwyr yn llawer gwaeth.
Yma yng Nghymru, fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd y cyn-Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd y byddai’n rhaid atal brechu moch daear dros dro yn yr ardal dan reolaeth oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG. Ar y pryd, roeddem bedair blynedd i mewn i brosiect pum mlynedd yn yr ardal triniaeth ddwys honno, sydd yn fy rhanbarth. Rwy’n deall ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailasesu ein strategaeth yn unol â hynny. Ond wrth wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i lynu at y wyddoniaeth. Fel y dywedodd yr Arglwydd Krebs yn ddiweddar am—nid wyf am ddweud ‘treialon’, rwyf am ddweud y ‘difa yn Lloegr’:
Mae difa moch daear yn fater eilradd. Yr unig ffordd effeithiol o atal TB yw atal y lledaeniad o fuwch i fuwch drwy gynnal mwy o brofion a phrawf llawer gwell.
Ac mae hynny hefyd, gyda llaw, yn egluro’r cynnydd, fel yr amlinellwyd yn gynharach, o 50 y cant yn nifer y buchesi y nodwyd eu bod wedi’u heintio, gan ein bod mewn gwirionedd wedi eu sgrinio’n amlach ac yn fwy rheolaidd.