Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Medi 2016.
Rwy’n canmol Simon Thomas am gyflwyno’r ddadl hon ac am y modd difrifol y mae wedi dadlau ei achos, yn enwedig ei gasgliad, gan mai dyna sut yr oeddwn yn bwriadu dechrau fy araith, beth bynnag, er mwyn tynnu sylw at y difa gwartheg sylweddol sydd wedi digwydd—heb unrhyw ymgynghori. Ers 1996, mae bron i 120,000 o wartheg wedi cael eu lladd yn rhan o’r broses o reoli twbercwlosis mewn gwartheg. Felly, mae’n rhaid ystyried y ddadl hon, sy’n digwydd mor aml yng nghyd-destun y rhaglen ddifa moch daear, mewn cyd-destun llawer ehangach, gan fod rhywogaethau eraill hefyd wedi cael eu difa yn naturiol yn sgil y cynnydd afreolus yn nifer y moch daear yng nghefn gwlad—draenogod, llyffantod, nadroedd, nadroedd defaid, ac yn y blaen. Felly, gall natur gignoeth fod yn annymunol iawn, gwaetha’r modd, ond dyna yw realiti bywyd gwyllt.
Mae’r problemau yng Nghymru yn arbennig o ddifrifol. Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2015, lladdwyd 9,500 o wartheg, sy’n gynnydd o 43 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’n broblem arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Yn Sir Benfro, bu cynnydd o 55 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd hyd at fis Mehefin 2015. Yn Sir Gaerfyrddin, bu cynnydd o 89 y cant. Cyfeiriodd Simon at y problemau penodol yng Nghlwyd, lle bu cynnydd o 129 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd. Mae’r rhain yn ffigurau ofnadwy ac mae pob un yn drasiedi i’r fferm yr effeithiwyd arni a’r teulu sy’n ei ffermio.
Felly, nid yw hon yn broblem sy’n mynd i gael ei datrys yn fuan iawn. Y drasiedi ar hyn o bryd, yn sgil y diffyg brechlyn, yw nad oes gan y Llywodraeth unrhyw bolisi i bob pwrpas. Mae canran y buchesi yng Nghymru sydd o dan gyfyngiad ar hyn o bryd wedi codi o bron 4 y cant yn 2006 i bron 6 y cant yn 2015, ac mae hynny wedi arwain hefyd at gostau ac anawsterau sylweddol i’r ffermydd unigol dan sylw. Heb os, mae brechu’n rhan o’r ateb i’r broblem, ond ni fydd gennym frechlyn ar gael yn gyffredinol tan o leiaf 2023, yn ôl y diwydiant.
Hyd yn oed pe bai gennym bolisi brechu, rhaid i ni gofio na fyddai hynny’n creu imiwnedd mewn moch daear sydd eisoes wedi’u heintio, er y byddai’n helpu i atal moch daear eraill rhag cael eu heintio. Fodd bynnag, dywedir ei bod yn bosibl nad yw effeithiolrwydd y brechiad ei hun yn fwy na 70 y cant neu 80 y cant. Felly, hyd yn oed pe bai gennym bolisi brechu priodol, ni fyddai hynny’n ateb 100 y cant.
Mae cost y polisi presennol yn sylweddol—neu’r polisi a oedd gennym tan i’r brechlyn ddiflannu, hynny yw. Yn 2015, gwariwyd £922,000 ar 1,118 o foch daear—sef £825 am bob mochyn daear. Ni wn sut y gallwn ddod i’r casgliad fod hwn yn bolisi y gallwn ei fforddio, os yw’n mynd i gael ei roi ar waith i gyflawni’r lefelau yr hoffem eu gweld o ran cael gwared â’r haint.
Mae gwell gwyliadwriaeth a bioddiogelwch yn bwysig hefyd, a heb amheuaeth, maent wedi cael effaith ar y ffigurau. Maent wedi lleihau nifer y digwyddiadau newydd—mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny—o 1,112 yn 2012 i lawr i 854 yn 2014, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. Ond mewn gwirionedd, mae nifer y gwartheg a laddwyd wedi codi wrth i nifer y buchesi a heintiwyd bob blwyddyn ostwng. Yn 2014, lladdwyd 8,103 o wartheg, o gymharu â 6,102 yn 2012.
Mae’n rhaid i ni gofio bod twbercwlosis yn glefyd ofnadwy, a bod y moch daear a heintiwyd yn dioddef hefyd. Felly, bydd unrhyw ddull y gallwn ei ddefnyddio a fydd yn arwain at y budd hirdymor o leihau nifer yr achosion o TB mewn moch daear yn dda i’r moch daear eu hunain. Mewn gwirionedd, mae’n greulon cael polisi nad yw’n gweithio. Felly credaf, efallai, y dylem fod yn llai cysetlyd ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’r mater hwn.
Nid oes amheuaeth fod moch daear yn lledaenu twbercwlosis i wartheg—mae hynny wedi ei brofi’n wyddonol. Mae wedi ei brofi hefyd fod difa moch daear yn lleihau’r achosion o TB mewn buchesi. Clywais yr hyn a ddywedodd Joyce Watson ynglŷn ag adroddiad Krebs, ond mae adroddiad Krebs wedi cael ei feirniadu am lawer o resymau oherwydd y gwendidau a’r anomaleddau yn ei strategaethau. Nid oes amser gennym i drafod hynny heddiw. Ond cytunaf â’i chasgliad o’r adroddiad a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain y bydd yn rhaid i bolisi difa di-boen ac effeithiol wedi’i dargedu fod yn rhan o bolisi difa hirdymor. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd di-boen. Nid yw saethu gyda reifflau o bell yn ffordd ddi-boen nac effeithiol o wneud hynny—nid yw’n rhywbeth y byddwn yn ei gefnogi. Ond ceir dulliau mwy di-boen o drapio a nwyo mewn brochfeydd â charbon deuocsid, ac nid yw hynny’n angheuol i foch daear, ac eithrio mewn rhai dosau, felly os nad yw’n cael ei wneud yn iawn, nid ydynt yn teimlo unrhyw effaith wael.
Felly, ofnaf y bydd y difa’n parhau—nid difa moch daear, fodd bynnag, ond difa gwartheg, gyda’r holl gostau. Credaf fod Simon Thomas yn llygad ei le yn cyfeirio at y costau emosiynol sydd ynghlwm wrth hyn, yn ogystal â’r costau ariannol. Yn y pen draw, o ran ein trafodaethau gyda’r UE, cytunaf gydag ef a Huw Irranca-Davies y gallai hwn fod yn rhwystr y bydd yn rhaid i ni ei oresgyn. Mae’n hynod bwysig, felly, fod gan Lywodraeth Cymru safbwynt cadarn ar hyn, a chredaf fod Huw Irranca-Davies wedi dangos y ffordd ymlaen—o dan y drefn bresennol sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, nid oes unrhyw esgus o gwbl dros ddefnyddio hyn, fel y gwnaeth Ffrainc mewn perthynas â BSE, i geisio rhwystro allforion cynhyrchion cig o Gymru neu’r Deyrnas Unedig.
Felly, er nad oes gennym ateb cyflawn, efallai, o ran y problemau mewn perthynas â TB buchol, efallai ein bod heddiw, mewn dadl drawsbleidiol, wedi dechrau archwilio’r atebion y bydd y Llywodraeth, yn anochel, yn gorfod eu hwynebu yn y pen draw.