4. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:20, 28 Medi 2016

Rŷm ni’n gwybod beth yw effaith ddinistriol y diciâu yn economaidd ar deuluoedd a busnesau fferm, ar gymunedau, ac yn emosiynol hefyd ar unigolion, gan chwalu cenedlaethau o waith a gofal yn datblygu stoc o linach ac o ansawdd. Nid oes angen i mi baentio’r darlun yna, ond rydw i yn poeni weithiau ein bod ni’n cael ein dad-sensiteiddio, yn enwedig efallai os nad ŷm ni fel gwleidyddion yn agos at rai o’r cymunedau a’r unigolion yma sy’n cael eu heffeithio.

Fel rhywun sy’n byw ar fferm deuluol—ac mae’n angenrheidiol i mi ddatgan diddordeb, wrth gwrs, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm—mae gweld ffermydd ffrindiau a chymdogion yn mynd lawr â TB—mae’r un mor erchyll o brofiad iddyn nhw heddiw ag y mae wedi bod erioed. Mae methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i daclo’r haint yn effeithiol yn golygu, wrth gwrs, bod y gwewyr a’r torcalon yna yn mynd i barhau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Nid yw yr ystadegau diweddaraf, a bod yn onest, yn ddim cysur i mi. Do, rŷm ni wedi gweld gostyngiad yn yr achosion o fuchesi sy’n cael eu heintio, ond, wrth gwrs, mae yna 30 y cant yn llai o fuchesi yn bodoli nawr o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, ac mae hynny yn dweud stori yn ei hun, yn fy marn i. Mae 5.6 y cant o fuchesi o dan gyfyngiadau heddiw o’i gymharu, fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, â 3.8 y cant yn 2006. Ac, wrth gwrs, y cynnydd sylweddol yma rŷm ni wedi glywed amdano yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu lladd—43 y cant yn genedlaethol dros gyfnod o 12 mis. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at Clwyd, yr ardal rwy’n byw ynddi—cynnydd o 129 y cant o’r gwartheg sy’n cael eu difa. Wrth gwrs, fe fydd pobl yn dweud, ‘Wel, rŷm ni’n profi mwy’. Ydym, fe rŷm ni—5 y cant yn fwy o brofion yng Nghlwyd; 129 y cant yn fwy o wartheg yn cael eu difa.

Mae’r prawf croen sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod TB wedi bod yn llwyddo i helpu i reoli a dileu’r haint o nifer o wledydd dros y 50 mlynedd diwethaf. Ac, yn ddiddorol, nid yw ond yn methu lle mae’r haint yn bodoli mewn bywyd gwyllt. Ym Mhrydain, mi oedd y prawf yn llwyddiannus iawn yn y 1950au a’r 1960au, heblaw am mewn ardaloedd â nifer uchel o foch daear.

Rŷm ni’n gwybod am y sefyllfa yn Lloegr—roedd yna gwymp o 53 y cant yn yr achosion newydd o fuchesi wedi eu heintio yn y chwe mis ar ôl cwblhau treialon difa moch daear ‘proactive’ yn Lloegr. Mae yna gwymp o rhwng 60 y cant a 96 y cant wedi bod yn y raddfa yr oedd buchesi yn cael eu cadarnhau i fod â chyfyngiadau arnyn nhw yn dilyn difa moch daear yng Ngweriniaeth yr Iwerddon.

Rŷm ni wedi clywed am gonsyrn ynglŷn â pherthynas masnachu Cymru â gweddill y byd. Wel, mi aeth Awstralia a Seland Newydd ati i ddileu TB yn llwyddiannus oherwydd y bygythiad penodol o gyfyngiadau masnachol ar eu cynnyrch amaethyddol nhw achos bod lefelau uchel o heintio. Yn ganolog, wrth gwrs, i’r llwyddiant hwnnw oedd rheoli’r clefyd mewn bywyd gwyllt.

Mae’n rhaid i mi ddweud bod clywed Carwyn Jones yn y Siambr yma wythnos diwethaf yn dweud mewn rhyw arddull reit ffwrdd-â-hi nad oedd bygythiad mewn gwirionedd i fasnachu ac allforio o Gymru oherwydd TB—mi oedd hynny yn destun gofid i mi, a dylai fod yn destun gofid i bob un ohonom ni. Peidiwch chi â disgwyl i wledydd eraill i’w gwneud hi’n hawdd i ni; mae’r ‘stakes’ yn uwch nawr nag y maen nhw wedi bod erioed, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ddefnyddio pob arf posibl i daclo TB yn fwy effeithiol.

A beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud? Rŷm ni fel gwleidyddion yn licio dweud yn aml iawn, ‘Pan fyddem ni’n trafod polisi iechyd, mae’n bwysig i ni wrando ar lais y doctoriaid a’r nyrsys; pan fyddem ni’n trafod polisi addysg, mae’n bwysig i ni wrando ar yr athrawon.’ Mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg hynny ryw awr a hanner yn ôl pan oeddem yn sôn am leihau maint dosbarthiadau, er bod yr OECD, academyddion a chyrff ymchwil yn dweud yn wahanol—’O, na, mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar lais yr athrawon a rhieni’. Ie, ocê, efallai mai fel yna y dylai hi fod. Beth felly mae’r gweithwyr sydd yn y rheng flaen yn y frwydr yna yn erbyn diciâu mewn gwartheg yn ei ddweud wrthym ni? Gofynnwch i’r milfeddygon. Gofynnwch i’r BVA, cymdeithas milfeddygon Prydain. Maen nhw o blaid difa moch daear fel rhan o strategaeth gynhwysfawr i daclo diciâu, a dyna yn union sydd ei angen yn fy marn i hefyd. Mae’r amser wedi dod i’r Llywodraeth yma fod yn ddewr ac i wynebu y realiti unwaith ac am byth. Mae angen cynllun difa moch daear fel rhan o’r ateb i’r diciâu yng Nghymru ac mae ei angen ef nawr.