2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
2. Pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn ei gweld ar gyfer cynghorau o ran adeiladu tai cymdeithasol? OAQ(5)0187(FM)
Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol tuag at gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn, ac rydym ni’n awyddus i gefnogi eu gwaith i adeiladu tai cymdeithasol newydd o ansawdd uchel yn yr ardaloedd y maen nhw’n gyfrifol amdanynt.
Mae cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i adeiladu 600 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf, wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau ynni uchaf, ac mae hynny wedi creu 250 o swyddi ychwanegol. Mae hyn yn newyddion gwych, gan mai dyma'r tro cyntaf y mae cyngor Caerdydd wedi adeiladu cartrefi am genhedlaeth, ond mae angen gwneud mwy. Mae hyd yn oed y Torïaid yn cydnabod bod argyfwng tai. Mae pa un a fyddan nhw’n gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny yn fater arall.
Sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol, gan eu bod nhw bellach wedi cael eu hunain allan o'r cyfrif refeniw tai, yn mynd i allu defnyddio eu dylanwad i fenthyg ar delerau ardderchog er mwyn adeiladu llawer mwy o dai cyngor?
Er bod yr Aelod yn iawn i nodi bod awdurdodau lleol Cymru yn rhydd o ran yr hen system cymhorthdal cyfrif refeniw tai, ceir cap ar fenthyg y mae'n rhaid iddyn nhw gadw ato o hyd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni’n gweithio gyda’r awdurdodau hynny sy'n dymuno adeiladu tai cyngor newydd i sicrhau y defnyddir eu cap benthyg hyd ei eithaf er mwyn cynyddu'r cyflenwad tai, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud hynny.
Rwy’n croesawu’r ffaith bod cynghorau yn dechrau adeiladau tai cyngor eto, ond y prif gyfrwng, wrth gwrs, i greu tai cymdeithasol yw cymdeithasau tai, ac rwy’n datagan diddordeb fel aelod o gymdeithas tai. Mae gan benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i newid statws cymdeithasau tai yng Nghymru, i fod yn y sector gyhoeddus, oblygiadau difrifol i Lywodraeth Cymru o safwbynt y £2.5 biliwn o ddyled a fydd gyda’r Llywodraeth erbyn hyn. Pa gamau, felly, mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa yma, ac a ydych chi’n bwriadau deddfu yn glou i gywiro’r sefyllfa yma?
Mae hyn yn broblem. Rŷm ni yn ystyried ar hyn o bryd ffordd o ddatrys y broblem hyn drwy ddeddfwriaeth, a gallaf i ddweud y dylai cymdeithasau tai fod yn hyderus y bydd hyn yn cael ei ddatrys mor gynted ag sy’n bosib.
Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno efallai mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i fod yn alluogwyr trwy ryddhau tir, neu, fodel sy'n cael ei ffafrio mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yw cynorthwyo grwpiau cymdogaeth a chymunedol sydd eisiau dod at ei gilydd i adeiladu eu cynlluniau eu hunain? Rwy'n gweld hon fel ffordd ymlaen i lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn sydd wedi eu hallgau o dai teuluol ddod at ei gilydd a chytuno ar y modelau hyn, pan eu bod yn fach ac yn ddichonadwy ar gyfer y dyfodol.
Fyddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud mai dim ond galluogwyr y gall awdurdodau lleol fod; maen nhw’n adeiladwyr tai pwysig hefyd. Ond nid dyma'r unig fodel, ac rydym ni’n deall hynny. Rydym ni’n gwybod y bydd cymdeithasau tai yn parhau i fod yn bwysig yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, ac, wrth gwrs, atebion newydd arloesol. Rydym ni wedi sôn yn y gorffennol am ymddiriedolaethau tir cymunedol, cynlluniau rhannu ecwiti. Mae cynlluniau tai cydweithredol, rwy’n credu, yn sicr yn fodelau y gellir eu harchwilio'n llawn yn y dyfodol, a byddem yn ceisio darparu unrhyw gymorth y gallwn er mwyn bwrw ymlaen â’r modelau hynny.
Brif Weinidog, ceir tir llwyd sylweddol mewn ardaloedd ledled Cymru y gellid ei ddefnyddio i adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy. Fodd bynnag, mae safleoedd tir llwyd yn aml yn amwys, ac os byddwn yn ychwanegu at y gymysgedd y potensial ar rai safleoedd o halogiad gan asbestos, plwm a sylweddau eraill, mae'n hawdd gweld pam mae datblygwyr yn aml yn amharod i gymryd y risg o ddatblygu safle tir llwyd. Mae hyn yn rhoi mwy fyth o bwysau ar awdurdodau lleol i ganiatáu adeiladu ar fannau gwyrdd agored, neu nid yw tai y mae gwir angen amdanynt yn cael eu hadeiladu. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w cymryd i gymell datblygwyr i adeiladu ar safleoedd tir llwyd yn hytrach na safleoedd tir glas, a pha gymorth mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w roi i ddatblygwyr i'w cynorthwyo i ddadhalogi safleoedd tir llwyd?
Wel, ceir enghreifftiau o safleoedd tir llwyd yr adeiladir arnynt ledled Cymru. Nid nepell o’r fan hon, mae hen safle melin Trelái yn cael ei ailddatblygu. Mae’r Aelod yn iawn i nodi bod gennym etifeddiaeth lle, yn y dyddiau pan oedd rheoliadau amgylcheddol yn llawer llacach nag y maen nhw nawr, lle nad yw gweithredwyr safleoedd yn bodoli fel cwmnïau mwyach, ac felly mae'r cyfrifoldeb ar y trethdalwr. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn mynd i’r afael ag ef gyda rhai o'r safleoedd glo brig mwy, er enghraifft, o ran pwy ddylai fod yn atebol yn y pen draw, o ystyried y caniatâd a roddwyd iddynt ar ddechrau’r 1990au. Ein nod fydd gweithio gyda datblygwyr, wrth gwrs, er mwyn gwneud yn siŵr bod y tir hwnnw’n cael ei roi ar gael yn y dyfodol. Ond mae'n wir dweud bod rhai safleoedd o hyd lle byddai angen swm sylweddol o arian er mwyn adfer y safleoedd hynny i'r safon sydd ei hangen ar gyfer tai.