2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2016.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau dulliau atal salwch yng Nghymru? OAQ(5)0040(HWS)
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ffyrdd iach a gweithgar o fyw er mwyn atal salwch ac annog lles yn gyffredinol drwy gydol ein bywydau. Bydd y rhaglen lywodraethu’n adeiladu ar y cynnydd hyd yma gyda mesurau megis Bil iechyd y cyhoedd, Rhaglen Plant Iach Cymru a bond lles newydd i Gymru.
Weinidog, diolch i’r drefn, mae’r cyfraddau ysmygu yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o flynyddoedd, ond yn anffodus, mae ysmygu yn dal i effeithio’n enbyd ar iechyd yng Nghymru. Credaf fod polisi cyhoeddus a’r cyfyngiadau ar ysmygu wedi chwarae rôl arwyddocaol, fodd bynnag, yn lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu. Roedd arolwg eleni gan Action on Smoking and Health ac YouGov yn dangos bod cefnogaeth gyhoeddus gref i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu fel y mae’n gymwys i fannau cyhoeddus yng Nghymru. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant cyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn gywir i dynnu sylw at y llwyddiant a gawsom yn y blynyddoedd diwethaf wrth weithio tuag at ein targed o 16 y cant o bobl yn ysmygu erbyn 2020. Rydym ar 19 y cant ar hyn o bryd, felly rwy’n credu ein bod yn sicr ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed hwnnw. Ymysg plant a phobl ifanc y gwelwyd peth o’r llwyddiant gwirioneddol rydym wedi’i gael. Er enghraifft, yn 1998, roedd 29 y cant o ferched 16 oed yn ysmygu unwaith yr wythnos, ond mae’r ganran honno bellach wedi gostwng i 9 y cant. Y ffigurau ar gyfer y bechgyn yw 22 y cant a 7 y cant. Credaf ei bod yn gadarnhaol iawn fod ysmygu’n lleihau ymysg pobl ifanc, yn enwedig, ond hefyd mae nifer y bobl ifanc nad ydynt erioed wedi ysmygu yn cynyddu a chredaf y dylid croesawu hynny hefyd.
Mae’r cyfyngiadau a grybwyllwyd gennych yn sicr yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Ddydd Sadwrn diwethaf, cawsom gyfle i ddathlu pen blwydd cyntaf y rheoliadau ar wahardd ysmygu mewn ceir. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi gweld lefel uchel o gydymffurfiaeth â hynny, ac rydym yn gweld newid mewn ymddygiad a newid mewn diwylliant yn hynny o beth. Felly, wrth edrych ymlaen, byddwn yn ailgyflwyno Bil iechyd y cyhoedd, fel yr oedd yng Nghyfnod 3, gyda’r adrannau ar e-sigaréts wedi’u dileu. Mae Bil iechyd y cyhoedd yn cynnwys darpariaethau i gynnwys ysmygu ar dir ysgolion, ar dir ysbytai a chaeau chwarae cyhoeddus. Mae hefyd yn sicrhau y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ychwanegu mannau ychwanegol, gan ddefnyddio’r rheoliadau, ac y byddai rheoliadau o’r fath yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol. Felly, byddai lle i ymestyn hynny yn y dyfodol hefyd.
Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol wedi honni y gallai mwy o wasanaethau i helpu i wneud diagnosis o’r cyflwr hwn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Maent yn dweud mai hanner ysbytai Cymru yn unig sy’n darparu gwasanaethau cyswllt torri esgyrn i gleifion allanol ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gwasanaethau a allai helpu i wneud diagnosis ac atal osteoporosis yng Nghymru?
Wel, rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed eich sylwadau, ac mae hwn yn fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin ag ef. O ran fy nghyfrifoldebau i, rwy’n awyddus iawn i weld gwaith atal cwympiadau yn cael ei wella yng Nghymru, a byddai hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy’n dioddef o osteoporosis hefyd, o ran sicrhau nad ydynt yn cael cwymp sy’n eu gwanychu’n fawr, a allai gael effaith ddrwg iawn ar eu canlyniadau personol, eu lles ac yn y blaen. Felly, mae’n ymwneud â’r effaith honno. Mae gennym ein rhaglen iechyd cyhoeddus, y rhaglen Gwella 1000 o Fywydau, ac mae honno’n cynnwys gwaith penodol ar atal cwympiadau, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig yn enwedig ar gyfer pobl sy’n dioddef o osteoporosis.