– Senedd Cymru am 6:17 pm ar 12 Hydref 2016.
Symudwn yn awr at y ddadl fer a gyflwynwyd yn enw Joyce Watson. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel, os gwelwch yn dda. Mae’n ddrwg gennyf, os oes Aelodau’n gadael, a allant wneud hynny’n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda? Diolch. Symudwn at y ddadl fer, a gyflwynwyd gan Joyce Watson ar bwnc y mae wedi’i ddewis, ‘Ymuno â’r achos: Menywod Cymru a’r Gymanwlad—rôl Seneddwragedd y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE’. Galwaf ar Joyce Watson i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Joyce.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heno, a diolch i’r Aelodau am fynegi diddordeb mewn cyfrannu at yr hyn a fydd, rwy’n siŵr, yn drafodaeth ddiddorol a gwerthfawr. Rwy’n caniatáu amser i Rhun ap Iorwerth, Rhianon Passmore, a Suzy Davies gyfrannu, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddynt.
Yn ystod dadl ynghylch mynediad Prydain i’r Farchnad Gyffredin yn Nhŷ’r Arglwyddi yn 1962, roedd Clement Attlee yn amheus, ac rwy’n dyfynnu o’r hyn a ddywedodd:
Mae’n newid gwirioneddol eithriadol. Arferem roi’r Gymanwlad yn gyntaf. Mae’n eithaf amlwg yn awr fod y Gymanwlad yn dod yn ail. Byddwn yn ffrindiau agosach â’r Almaenwyr, yr Eidalwyr a’r Ffrancwyr nag â’r Awstraliaid neu’r Canadiaid. Mae pobl yn sôn am yr hyn a fydd yn digwydd ymhen deng mlynedd ar hugain: ond... ugain mlynedd yn ôl ni fyddwn byth wedi dychmygu y byddem yn ystyried yr Almaenwyr yn ffrindiau agosach na’r Canadiaid, yr Awstraliaid, pobl Seland Newydd, yr Indiaid neu unrhyw un arall... Mae’n... chwyldroi safbwynt hanesyddol y wlad hon yn llwyr. Nid wyf yn awgrymu bod hen bethau o reidrwydd yn iawn... Mae’n bosibl eu bod yn iawn; ond peidiwch â chamgymryd: mae hwn yn newid enfawr.
Wel, 20 mlynedd yn ôl, ni fyddwn byth wedi dychmygu y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dyma ni. Roedd gan Attlee farn hefyd ar y mecanwaith sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon—refferenda—ond nid wyf am drafod hynny i gyd eto. Felly, wrth i ni baratoi i adael yr UE rydym yn wynebu newid aruthrol arall: chwyldro arall yn safbwynt hanesyddol y wlad hon, ond mae’n rhaid i ni beidio â gadael y cyfeillgarwch ar ôl yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, a dal ein gafael ar ein lle yn y Gymanwlad. Wedi’r cyfan, yn yr un modd, y tu allan i’r UE, mae’n rhaid i ni gadw ein lle yn Ewrop.
Rwy’n sicr yn cefnogi’r safbwynt mai her fawr ein hoes yw cynnal safle Prydain a Chymru yn y byd fel gwlad agored, oddefgar ac allblyg. Roedd araith gynhenidol Amber Rudd i’r blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf yn rhybudd yn hynny o beth. Diolch byth, mae hi wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i orfodi cwmnïau i ddatgelu faint o weithwyr tramor y maent yn eu cyflogi. Serch hynny, mae’n frawychus i mi fod Ysgrifennydd Cartref Prydain wedi awgrymu syniad o’r fath yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid i Gymru herio’r ffordd chwyrn newydd hon o edrych ar y byd. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni weithio i siapio’r trafodaethau ar adael yr UE a’u plygu er ein lles, ond rwyf hefyd yn credu bod cyfle mawr i ni o fewn y Gymanwlad yn awr.
Ym mis Mai, cefais fy ethol gan aelodau o ranbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad i gynrychioli eu grŵp ar Bwyllgor Rhyngwladol Seneddwragedd y Gymanwlad—gwn ei fod yn llond ceg, ond nid oes ffordd arall o’i ddweud. Dyma’r tro cyntaf i Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael y swydd hon, ac mae’n anrhydedd yn wir. Fel rwy’n dweud, yn ogystal ag adfywio cyfeillgarwch yn yr UE ar ôl gadael, dylem hefyd gadarnhau ac adnewyddu cysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad. Ond beth ydynt? Beth sydd gennym yn gyffredin? Wedi’i chreu o’r ymerodraeth, mae’r Gymanwlad heddiw yn deulu o genhedloedd. Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn cynnwys mwy na 180 o ganghennau o ddeddfwrfeydd yn Affrica, Asia, Awstralia, rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir, Canada, Môr y Caribî, yr Amerig, Môr yr Iwerydd, India, y Môr Tawel, a de-ddwyrain Asia. Mae’n gyfeillgarwch byd-eang sy’n seiliedig ar werthoedd beth bynnag fo’r rhyw, hil, crefydd na diwylliant. Cawn ein huno gan ein hymrwymiad i reolaeth y gyfraith, i hawliau a rhyddid unigolion, ac i ddelfrydau democratiaeth seneddol.
Wrth gwrs, ni allwn anwybyddu’r ffaith fod rhai arferion crefyddol a diwylliannol yng ngwledydd y Gymanwlad yn gormesu ac yn gwthio rhannau o’r boblogaeth i’r cyrion, yn benodol, lleiafrifoedd a menywod, ond dyna ble y mae Seneddwragedd y Gymanwlad yn ceisio dylanwadu. Fe’i sefydlwyd gan gynrychiolwyr benywaidd ym 1989, ac mae wedi ymdrechu ers hynny i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn seneddau, i sicrhau bod ystyriaeth o’r rhywiau’n cael ei phrif ffrydio yn holl weithgareddau a rhaglenni Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, i herio gwahaniaethu, a nodi a dilyn camau ymarferol i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i ddiogelu a grymuso menywod a merched. Yn 1991, ymgorfforodd y Gymanwlad yr amcanion hyn yn natganiad Harare.
Felly, dyna’r hanes yn gryno, ond beth rydym yn ei wneud? Wel, byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr i hyrwyddo tair thema: rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, menywod mewn arweinyddiaeth, a grymuso menywod yn economaidd. Mae nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn darparu fframwaith ar gyfer y gwaith hwnnw. Wrth edrych ar y drefn fyd-eang ar hyn o bryd, mae cynnydd wedi bod: mwy o gynrychiolaeth menywod mewn seneddau cenedlaethol, mwy o ferched wedi’u cofrestru mewn ysgolion, a newid yn hawliau menywod, ond os crafwn yr wyneb, mewn gwleidyddiaeth, ar draws y Gymanwlad, mae cynrychiolaeth seneddol i fenywod wedi aros ar yr un lefel. Ni cheir ond 22 y cant yn unig o seneddwragedd cenedlaethol. Mae gan y sefydliad hwn hanes balch o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, fel fy mhlaid fy hun. Ar hyn o bryd, yn ein plaid ni, mae un yn fwy na’n hanner yn fenywod, ond os edrychwn yn agos at adref, 29 y cant yn unig o Aelodau Tŷ’r Cyffredin sy’n fenywod. Fodd bynnag, cafwyd camau pwysig ymlaen yng ngwledydd y Gymanwlad dros y blynyddoedd diwethaf: cafodd y fenyw gyntaf ei hethol yn St Kitts; cyrhaeddodd Trinidad a Tobago darged o 30 y cant o ran cynrychiolaeth menywod; Prif Weinidog benywaidd cyntaf Namibia; Prif Weinidog Canada Justin Trudeau yn penodi Cabinet sy’n gytbwys rhwng y rhywiau; mae Rwanda yn parhau i arwain y byd gyda thros 60 y cant o’i Senedd yn fenywod; ac wrth gwrs, mae’r DU wedi cael ei hail Brif Weinidog benywaidd.
Ond nid yw hawl a enillwyd o reidrwydd yn hawl a fydd yn cael ei chadw. Felly, rôl Seneddwragedd y Gymanwlad yw datblygu a hyrwyddo mecanweithiau i gynnal a hybu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus. Ond nid yw hwnnw’n ben draw ynddo’i hun. Pan gawn ein hethol, rhaid i ni siapio polisi a deddfwriaeth. Yn y Cynulliad hwn, mae gan fy mhlaid, fel y dywedais, stori dda i’w hadrodd, ond ni allwn fforddio gorffwys ar ein bri. Bydd unrhyw un a fu’n ymwneud â’r rhestr fer i fenywod yn unig yn tystio pa mor galed oedd y brwydrau ac mae’n brofiad y gallwn ei rannu gyda’n cyfeillion yn rhyngwladol. Gadewch i ni beidio ag anghofio mai 9 y cant yn unig o Aelodau Seneddol benywaidd oedd gan y DU ym 1992. Mecanweithiau caled, nid rhethreg feddal sydd wedi dod â ni i’r sefyllfa hon.
Ym maes addysg, do, cafwyd gwelliant cyffredinol, eto i gyd bydd yn dal i fod dros 63 miliwn o ferched na fyddant yn yr ysgol heddiw. Yn ôl Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, ni fydd 16 miliwn o ferched rhwng 6 ac 11 oed byth yn cael cyfle i ddysgu sut i ddarllen neu ysgrifennu mewn ysgol gynradd—ddwywaith y nifer o fechgyn—ac mae addysg, fel rydym i gyd yn gwybod, yn arf trawsnewidiol sy’n lleihau tlodi ac anghydraddoldeb. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod cyfranogiad economaidd ac annibyniaeth yr un mor bwysig. O ran hynny, rwy’n credu bod angen i ni edrych ar ein record ein hunain. Fe wyddom mai menywod yn y DU sy’n cael eu taro galetaf gan galedi; gwyddom y bydd safonau byw mamau sengl a gweddwon yn gostwng 20 y cant erbyn 2020 yn ôl y Grŵp Cyllideb Menywod.
Mae’n rhaid i bob cymdeithas gydnabod eu rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol sy’n rhaid i fenywod eu hwynebu. Yn y rhanbarth o’r Gymanwlad rydym yn perthyn iddo, mae gennym gymunedau clòs—Ynysoedd y Sianel, Gibraltar, Malta, Ynys Manaw, St Helena a’r Falklands—lle mae dianc rhag trais yn anodd. Felly, gyda’n gilydd, rydym yn rhannu syniadau ynglŷn â sut i ddiogelu menywod a phlant yn yr amgylchiadau hynny. Mae Gibraltar wedi arwain y ffordd o ran hynny. Mae’n un o’r rhesymau rwyf wedi blaenoriaethu gweithio’n rhyngwladol ar ymgyrch y Rhuban Gwyn, sy’n cynnwys dynion yn y mudiad i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
Yn dilyn ein trafodaeth yn Fforwm cyntaf Menywod y Gymanwlad a gynhaliwyd y llynedd yng Nghyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad ym Malta, darganfûm mai ym Malta y mae Aelodau Seneddol gwrywaidd bellach yn cymryd rôl arweiniol yn yr ymgyrch honno. Darganfûm hefyd fod gan Sandra James, cyn-seneddwraig yn Guernsey, ymgyrch i ethol mwy o fenywod yn Guernsey ac mae’r ymgyrch honno wedi gweithio hefyd.
Yma, ddoe, bûm mewn digwyddiad NSPCC yn y Senedd, lle roeddent yn trafod eu hymgyrch ar y cyd â Bawso sy’n gweithio o fewn y gymuned Somali yng Nghaerdydd i frwydro yn erbyn anffurfio organau cenhedlu benywod, ac mae’r ymgyrch honno’n cael ei hyrwyddo gan Rebecca Kadaga, cadeirydd rhyngwladol Seneddwragedd y Gymanwlad yn Uganda. Mae hwnnw’n benderfyniad dewr iawn.
Rydym wedi gweld yr Alban yn datblygu deddfwriaeth i sicrhau gwarcheidiaethau i blant sy’n cyrraedd y wlad ar eu pen eu hunain. Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y DU yn arwain prosiect rhyngwladol ar drosolwg seneddol ar y nodau datblygu cynaliadwy newydd. Ychydig o enghreifftiau yn unig ydynt, a gallaf weld y cloc yn tician. Ond drwy waith rhyngwladol a thrwy ein dealltwriaeth a’n haddysg rydym yn datblygu. Rwy’n teimlo’n gryf iawn na allwn ac ni ddylwn byth leihau ein profiad rhyngwladol.
Fy natganiad diwethaf un yw ein bod ni yng Nghymru yn rhoi’r fantais honno i bobl ifanc o Gymru, ac rydym yn helpu disgyblion, drwy Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, i gael cyfle i gynrychioli Cymru mewn digwyddiadau rhyngwladol, a digwyddodd hynny ychydig o flynyddoedd yn ôl gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Aman. Drwy raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, anfonodd Coleg Sir Gâr fyfyrwyr i Uganda i helpu i adeiladu prosiectau yno. Mae’r profiadau hynny, sy’n gwneud i bobl ifanc Cymru edrych tuag allan, yn hytrach nag i mewn, yn gwbl hanfodol. Yn fy marn i, cyhyd â’n bod yn aelodau o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, mae’n rhaid i ni wneud yn fawr ohoni a rhannu’r profiadau hynny.
Yn fyr iawn, fel cadeirydd cangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwy’n falch iawn o allu talu teyrnged i Joyce Watson am y gwaith a wnaeth hi fel y cadeirydd yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Mi oedd hwnnw yn gyfnod, wrth gwrs, pan wnaeth y gangen gynnal cynhadledd rhanbarth ynysoedd Prydain a gwledydd Môr y Canoldir yma yn y Senedd yn 2014. Thema’r gynhadledd bryd hynny oedd mynediad teg i ddemocratiaeth, ac mi oedd hybu a sicrhau’r rôl bwysig oedd gan ferched yn benodol i’w chwarae yn rhan annatod o’r gynhadledd honno. Rwy’n gwybod y bydd Joyce yn dilyn yr agenda honno yn ei rôl hi rŵan fel cadeirydd seneddwragedd ein rhanbarth ni o’r Gymanwlad. Mi allwn ni ymfalchïo yn ei hetholiad hi i’r rôl honno.
Yn gynharach heddiw, mi fues i’n cadeirio cyfarfod cyntaf grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol. Mae annog cysylltiadau rhyngwladol newydd a meithrin a chryfhau cysylltiadau presennol yn mynd i fod yn gwbl hanfodol i ddyfodol Cymru—yn bwysicach nag erioed rŵan ar ôl y bleidlais ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Gymanwlad yn cynnig cysylltiadau hanfodol o’r math yna. Mi ddylem ni fod yn chwilio am bob cyfle i hyrwyddo’r cysylltiadau hynny.
Yn gyntaf oll, diolch i chi, Joyce Watson, am adael i mi gymryd rhan yn y ddadl fer hon. Yn gyntaf, er hynny, hoffwn longyfarch yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ei gwaith ardderchog yn cynrychioli seneddwragedd y Gymanwlad o ranbarth yr Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir ar bwyllgor llywio seneddol rhyngwladol y Gymanwlad—mae’n lond ceg. Mae’n wych gweld Cymraes yn y swydd hon sydd o bwys rhyngwladol, felly da iawn.
Ar adeg fel hon yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE, bydd fforwm Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a fydd yn cael ei gynnal yn San Steffan yr wythnos nesaf, yn gyfle i’w groesawu i seneddwyr o bob rhan o’r Gymanwlad ddod at ei gilydd i gael trafodaethau adeiladol a chytûn. Fel is-gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y Cynulliad, rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod ysbryd tebyg o gydweithredu a goddefgarwch yn parhau i ffynnu yng Nghymru, fel y mae wedi gwneud yn flaenorol.
Mae’r cyfnod yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE yn adeg arbennig o addas i gydnabod y rôl bwysig sydd gan fenywod yn gwthio materion lles a hawliau dynol i fyny’r agenda wleidyddol, ac mae gwaith pob un ohonom yma yn y Senedd, yn ddynion a menywod, yn brawf o hyn. Yn ddiweddar, cefais y fraint o gyfarfod â dirprwyaeth o Senedd Botswana y mis diwethaf, ac roedd esiampl seneddwragedd yn y Senedd yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnynt. Rydym yn falch, ac mae gennym le i fod yn falch, o’n record ardderchog yma mewn perthynas â chydbwysedd rhwng y rhywiau. Gadewch i ni barhau i gynnal yr esiampl hon i fenywod ledled Cymru ac wrth gwrs, yn Senedd San Steffan, y Gymanwlad a’r byd ehangach. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu fy llongyfarchiadau i Joyce hefyd? Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono, ond chi yn bennaf oll.
Mae trosglwyddo ieithoedd o un genhedlaeth i’r llall yn tueddu i fod yn gyfrifoldeb menywod—nid yn llwyr, wrth gwrs—ond rwy’n meddwl tybed a oes rhywbeth yma a allai fod yn fantais i’r DU ar ôl gadael yr UE o ran caffael ieithoedd tramor modern. Bydd y sgiliau hyn, sydd ond yn cael sylw bregus yn y cwricwlwm ysgolion ar hyn o bryd, yn fwy pwysig ar ôl gadael yr UE, pan fydd amlieithrwydd yn ein helpu i fod yn fwy deniadol fel partner masnachu, yn enwedig o ystyried y gallai goruchafiaeth y Saesneg fel lingua franca Ewrop newid, wrth gwrs. Ac wrth gwrs, rydym yn fwy ymwybodol fod ieithoedd gwledydd y Gymanwlad yn dod yn fwyfwy amlwg ar y llwyfan byd-eang hefyd.
Rwy’n credu bod y sefyllfa’n fwy cyfartal yn ddiweddar o bosibl, ond yn hanesyddol roedd mwy o ferched na bechgyn yn astudio ieithoedd tramor modern, ac o ganlyniad, efallai bod amlieithrwydd a chyfathrebu chwim yn gyffredinol wedi cal eu gosod yng nghategori sgiliau sy’n cael eu tanbrisio a gysylltir yn bennaf â menywod. Ond maent yn angenrheidiol, nid yn unig er mwyn masnachu, ond er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth, a dyna’r rhagofyniad i hybu cydraddoldeb a mynnu hawliau.
Roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn cytuno bod yna rôl i seneddwragedd godi statws caffael ieithoedd tramor modern, nid o reidrwydd drwy addysg ffurfiol, ond am y rhesymau a roesoch—nid oes cymaint o ferched ag o fechgyn yn astudio o gwbl—ac i ddefnyddio eu sgiliau eirioli eu hunain i hyrwyddo ieithoedd tramor modern fel cyfle i fenywod ledled y byd, ond yn enwedig yn ein perthynas ag Ewrop a’n cefndryd yn y Gymanwlad. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i ymateb i’r ddadl. Jane.
Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i ymateb i’r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei haraith agoriadol ac am y rôl arweiniol y mae hi wedi’i chwarae ac yn ei chwarae, fel yr amlygir yn ei hymrwymiad i sicrhau bod rôl a dylanwad seneddwragedd y Gymanwlad yn cael eu hymestyn a’u hehangu mewn gwirionedd. Mae cael Aelod Cynulliad sy’n Gymraes yn arwain y ffordd ac yn arwain hyn mor dda wedi cael ei gydnabod—wedi’i gydnabod gan Rhun ap Iorwerth, Rhianon Passmore a Suzy Davies heddiw. Felly, dyna’r man cychwyn pwysicaf.
Wrth gwrs, mae’r corff hwn rydych yn ymwneud cymaint ag ef ac yn cyflawni’r rôl arweiniol hon ynddo—ac yn wir, Rhun, o ran eich rôl chi, ac is-gadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Rhianon—mae’n allweddol i gynhyrchu trafodaeth ar y lefel uchaf ar y materion a’r rhwystrau niferus sy’n wynebu menywod ar draws y Gymanwlad, ac mewn digwyddiadau ar draws y byd. Yn eich cynhadledd ym mis Chwefror eleni ar ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth er mwyn grymuso menywod, roeddwn wrth fy modd yn gweld bod menywod Cymru wedi rhannu eu harbenigedd a’u profiad—Adele Baumgardt ar gyllidebu ar sail rhyw a Dr Alison Parken ar bolisïau cyflogaeth a chyflog cyfartal. Felly, roeddech yn galluogi menywod Cymru i rannu eu harbenigedd gyda seneddwragedd y Gymanwlad. Hefyd yn y gynhadledd honno, rhannodd Joyce wybodaeth—mae hi wedi siarad am hyn y prynhawn yma—am ein deddf arloesol, Deddf Trais erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a’r ffaith ein bod wedi penodi cynghorydd cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod.
Un o rolau allweddol seneddwragedd y Gymanwlad yw edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer y menywod mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Ar draws y DU ac yn wir, yma yng Nghymru, nid oes cynrychiolaeth ddigonol i fenywod o hyd yn ein strwythurau gwleidyddol a’n prosesau gwneud penderfyniadau. Mae diffyg menywod yn y broses o wneud penderfyniadau, diffyg ffocws ar faterion o bwys i fenywod a merched, a phrinder ffyrdd i gael eu barn wedi’i chlywed yn aml yn arwain at ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth a sylfaen wan ar gyfer creu deddfwriaeth a pholisïau effeithiol. Yng Nghymru, rydym yn parhau â’n hymrwymiad i gynyddu nifer y menywod mewn bywyd cyhoeddus a sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn safleoedd o rym. Rydym hefyd, drwy ein gwaith yn mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol i fenywod ar fyrddau sector cyhoeddus, yn ogystal â’n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth i hybu hynny, yn herio ac yn newid y status quo.
Rydym wedi ymrwymo i’r ymgyrch 50/50 erbyn 2020, ochr yn ochr â chyflogwyr a sefydliadau ym mhob sector yng Nghymru. Rydym wedi addunedu fel Llywodraeth Cymru i gyflawni cydbwysedd 50 y cant rhwng y rhywiau yn yr uwch wasanaeth sifil erbyn y flwyddyn 2020, ond rydym hefyd yn sicrhau bod arian ar gael i’r prosiect cydbwyso grym, Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth, sy’n addysgu ac yn grymuso menywod ledled Cymru i fagu sgiliau, hyder a meddylfryd i ddod yn arweinwyr yn eu cymunedau, ac yn bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel o fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Ar y pwynt hwn, hoffwn gydnabod ein comisiynwyr benywaidd yng Nghymru—Sophie Howe, comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn, Sally Holland, y comisiynydd plant, a Meri Huws, comisiynydd y Gymraeg. Mae’r rhain yn swyddi cyhoeddus pwysig. Maent yn arddangos y talent, y mentrau a’r camau rydym wedi’u cymryd yma yng Nghymru i wneud yn siŵr fod gennym y gorau, ein bod yn annog menywod i gamu ymlaen, ac yna cânt eu penodi i’r swyddi pwysig hyn. Rydym ni yng Nghymru, wrth gwrs, ar flaen y gad o ran dod â chydraddoldeb rhwng y rhywiau i fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth, gyda menywod yn chwarae rhan allweddol mewn nifer o feysydd.
Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod fod gennym stori dda i’w hadrodd yng Nghymru. Mae’n wybodaeth gyffredin mai ni oedd y Cynulliad neu Senedd ddatganoledig gyntaf i gyflawni cydbwysedd 50/50 rhwng y rhywiau. Rhwng 2000 a 2005, roedd dros hanner ein Gweinidogion Cabinet, a rhwng 2005 a 2007, dros hanner holl Aelodau’r Cynulliad, yn fenywod. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod ein bod wedi cymryd cam yn ôl o ran nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd, sydd bellach yn 42 y cant. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd i annog a chynorthwyo menywod i sefyll fel Aelodau Cynulliad yn y dyfodol, ac mae’r ddadl hon yn ein galluogi i wneud y pwynt hwnnw eto.
Mae tystiolaeth yn dangos yn glir fod cael cydbwysedd rhwng y rhywiau ar fyrddau, seneddau a thimau arwain yn well, nid yn unig i fenywod, ond i’r gymdeithas yn gyffredinol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod y ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Mae gennym, er enghraifft, y cynadleddau Merched yn Gwneud Gwahaniaeth, a gynhaliwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac a gyflwynai fodelau rôl mewn ystod o yrfaoedd gwahanol i ferched blynyddoedd 12 a 13. Roedd y siaradwyr yn ysbrydoli ac yn annog menywod ifanc i ystyried ystod eang o yrfaoedd anhraddodiadol.
Mae perygl y gallai ymdrechion i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal a chydraddoldeb rhwng y rhywiau gael eu tanseilio yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE, ac mae Joyce Watson wedi tynnu sylw at hyn, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth y prynhawn yma. Gallai menywod fynd yn llai gweladwy. Mae’n bosibl na fydd eu lleisiau yn cael eu clywed yn y trafodaethau sy’n penderfynu ar ein bywydau a’n dyfodol. Mae Suzy Davies yn gwneud pwynt pwysig am ieithoedd tramor modern, ac efallai y gallwn chwarae rôl o ran datblygu’r rheini a sicrhau y gall merched fod ar flaen y gad. Rydym am sicrhau na fyddwn yn colli’r cyfleoedd hyn ar ôl gadael yr UE, fod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a’n bod yn cadw ac yn cryfhau’r rhwydweithiau sydd gennym ar draws Ewrop, a bod yn rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod a merched o ran cyfleoedd arweinyddiaeth. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar y byd yn ehangach, fel rydych chi wedi’i wneud heddiw, Joyce, ac edrych, er enghraifft, ar ein hymrwymiad parhaus i raglen Cymru o Blaid Affrica. Ers 2006, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog miloedd o bobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau buddiol i’r ddwy ochr rhwng Cymru ac Affrica, gan gyfrannu at yr ymgyrch i roi terfyn ar dlodi, ac i gyflawni nodau datblygu’r mileniwm y Cenhedloedd Unedig. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru, cyfarfûm â menyw a oedd yn Weinidog yn Kenya a oedd wedi mynychu’r un ysgol â mi, ysgol y llywodraeth yn Eldoret, Kenya yn ystod fy mhlentyndod yn nwyrain Affrica. Daethom ein dwy yn Weinidogion mewn amgylchiadau gwahanol iawn. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael ei chyfarfod.
Addysg yw’r cyswllt hanfodol o hyd wrth helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yng ngeiriau Dr James Emmanuel Kwegyir Aggrey, addysgwr gwych o Ghana—gadewch i ni gofio hyn—os ydych yn addysgu dyn, rydych yn addysgu unigolyn, ond os ydych yn addysgu menyw, rydych yn addysgu teulu, cenedl. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn Affrica—mae Joyce wedi crybwyll hyn—o ran menywod yn cael swyddi mewn safleoedd o rym, ac ers 2015, mae nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ffocws i’n hymdrechion, gan gynnwys nod 5, sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod a merched. Fe wnaethom gryfhau ein hymrwymiad y llynedd drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym am adeiladu Cymru lewyrchus, ond rydym yn ystyried effaith fyd-eang ein penderfyniadau a’n gweithredoedd.
Yn olaf, rwyf am dynnu sylw at waith Sefydliad Safe yma yng Nghymru. Ar 24 Hydref, bydd 10 o bobl ifanc yn cynnwys pedair Cymraes ifanc—pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yw’r rhain—yn teithio i Uganda i weithio ar brosiect menter gymdeithasol. Byddant yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned leol a’i heconomi. Byddant yn adeiladu popty o glai ac yn cyflwyno gweithdai ar sut i wneud bara. I’r bobl ifanc o Gymru, nid oes gennyf amheuaeth—ac fe sonioch am Senedd Ieuenctid y Gymanwlad a’r gyfnewidfa honno—y bydd hwn yn brofiad a fydd yn newid eu bywydau. Bydd yn helpu i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau arweinyddiaeth, ac yn cydnabod bod ganddynt gymaint i’w gynnig. Ar yr un pryd, bydd y prosiect yn darparu manteision cynaliadwy gwirioneddol yn Affrica o ran incwm, maeth a sgiliau. Ac wrth gwrs, bydd yn gyfle i’r bobl ifanc hynny, fel rydych yn ei ddweud, Joyce Watson, edrych allan a chydnabod yr hyn y gallant ei rannu ar draws y byd.
Felly, rwy’n falch iawn o ymateb i’r ddadl heddiw. Unwaith eto, diolch i Joyce am ei holl waith yn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Cymru’n wlad lle y caiff menywod eu cynrychioli’n gyfartal ar bob lefel, a lle y ceir tegwch a chydraddoldeb i bawb, ac rydym eisiau rhannu hynny ar draws y byd.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.