<p>Grantiau Prawf Modd</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP

5. Beth fydd y gost o roi grantiau prawf modd i fyfyrwyr sydd newydd gymhwyso o gartrefi sy'n ennill rhwng £50,020 ac £81,000? OAQ(5)0219(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:59, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod braidd yn gynnar, oherwydd, wrth gwrs, nid yw'r Llywodraeth wedi rhoi ymateb llawn i adolygiad Diamond eto. Mae’r ymateb hwnnw’n cael ei ystyried a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP

(Cyfieithwyd)

Os yw meddwl y Llywodraeth yn dal i fod yn agored ar y mater hwn, a wnaiff y Prif Weinidog nodi bod cyfranogiad prifysgolion ar y lefel incwm hon eisoes yn uchel? Bydd Mark Drakeford yn nodi yn ddiweddarach y pwysau ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu a, dim ond wrth ymateb i gyd-aelodau o fy mhlaid yn gynharach, dywedasoch nad oeddech yn gallu hyd yn oed amcangyfrif dyddiad cychwyn ar gyfer adeiladu ar y metro, a chlywsoch fod gennym ni’r nifer isaf o feddygon teulu o blith holl wledydd a rhanbarthau’r DU. Yng ngoleuni hynny, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried a yw darparu grantiau prawf modd i'r grŵp hwn yn gymaint o flaenoriaeth â hynny?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn siŵr bod meddygon teulu a'r metro yn gysylltiedig, ond o ran y metro, mae hynny oherwydd, wrth gwrs, na fydd y fasnachfraint yn cael ei throsglwyddo tan hydref y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n anodd rhoi dyddiad cychwyn ar gyfer cam 2. Mae cam 1 y metro wedi cychwyn eisoes, wrth gwrs. Cychwynnodd hwnnw y llynedd. Mae hyn yn ymwneud â cham 2 a'r ffordd y mae'r fasnachfraint, y cytundeb ar y fasnachfraint, a'r map a fydd yn bwysig o ran penderfynu pryd y bydd cam nesaf y metro yn cychwyn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi nodi’r egwyddorion bras y byddwn yn eu dilyn mewn ymateb i adolygiad Diamond, a byddwn yn ceisio cael yr ateb tecaf i holl fyfyrwyr Cymru.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Wrth gwrs, wrth inni symud o’r model sydd wedi cael ei ddisgrifio yn anghynaladwy presennol i’r model a fydd, mae rhywun yn tybio, yn seiliedig ar Diamond, a allwch chi gadarnhau a ydyw hi’n fwriad gan eich Llywodraeth chi i geisio gwireddu unrhyw arbedion ariannol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 18 Hydref 2016

Wel, rŷm ni yn moyn, wrth gwrs, sicrhau bod system mewn lle sydd yn deg, sydd yn defnyddio’r cyllid sydd yna, wrth gwrs, ac sydd yn dilyn yr egwyddorion rŷm ni wedi eu dodi lawr yn barod, sef ein bod ni’n cadw’r egwyddor bod pawb yn rhan o’r system, yn sicrhau bod yna ffordd sydd yn deg a hefyd sydd yn gyson ynglŷn â delio â myfyrwyr, os ydyn nhw’n rhan amser neu’n llawn amser, yn sicrhau bod yna fuddsoddiad gan yr unigolyn ond hefyd gan Lywodraeth, a hefyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mwy o fynediad i addysg uwch. Dyna’r egwyddorion y mae’r Ysgrifennydd wedi datgan lan hyd nawr, a dyna’r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, roedd gennych chi gyfle yn y fan yna, mewn ymateb i Llyr Gruffydd, i ailymrwymo eich hun i’r ymrwymiad i chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei wneud wrth ffurfio eich Llywodraeth glymblaid, sef na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch o ganlyniad i roi unrhyw newidiadau ar waith. A wnewch chi achub ar y cyfle i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw, ac a ydych chi’n cydnabod bod yr Athro Diamond ei hun wedi awgrymu y bydd gwerth £48.25 miliwn o arbedion bob blwyddyn os rhoddir yr argymhellion hyn ar waith heddiw? Mae hwnnw’n arbediad sylweddol. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud gyda'r arian ychwanegol hwnnw?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ein nod fydd buddsoddi yn y sefydliadau, yn y prifysgolion, wrth gwrs. Nid yw'n ddiamod. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein prifysgolion yn darparu, wrth gwrs. Felly, nid wyf eisiau rhoi'r argraff bod hwn yn arian y byddai prifysgolion yn ei gael heb ddisgwyliad eu bod yn parhau i ddarparu’n well, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod buddsoddiad yn parhau i gynyddu yn ein sefydliadau addysg uwch gan, ar yr un pryd, gynnig bargen deg i fyfyrwyr.