1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sicrhau bod dyddiaduron Gweinidogion ar gael i'w craffu gan y cyhoedd? OAQ(5)0235(FM)
Rydym ni wrthi’n cynnal adolygiad i ganfod y dull gorau o gyhoeddi manylion cyfarfodydd a dyddiaduron gweinidogol.
Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn derbyn cyngor gennyf i—ewch i mewn i Outlook a phwyswch argraffu, a dyna ni. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r argraff ofnadwy—ofnadwy—y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cyhoedd yng Nghymru, eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw ddatgan â phwy maen nhw’n cyfarfod ac at ba ddiben? Mae'n gwbl annerbyniol bod cais rhyddid gwybodaeth wedi ei wneud ac wedi ei wrthod. A wnewch chi sicrhau bod y dyddiaduron yn cael eu cyhoeddi?
Wel, os yw’n sôn am ei gais rhyddid gwybodaeth ei hun—ac mae'n nodio am hynny—gwnaeth gais ar gyfer pob un cyfarfod dros y pum mlynedd diwethaf. Ni ddylai synnu, felly, na chafodd ymateb ar gyfer hynny. Ond pe byddai’n gwneud cais mwy diffiniedig, wrth gwrs y gellir cyhoeddi’r cyfarfodydd hyn—nid ydynt yn gyfrinachol fel y cyfryw. Er hynny, gallaf ddweud wrtho ein bod yn edrych ar sut y gallwn gyhoeddi manylion cyfarfodydd yn ôl-weithredol—mae'n digwydd i raddau yn San Steffan, mae'n digwydd i raddau yn yr Alban, ac rwy'n awyddus ein bod ni’n cadw i fyny â'r arferion gorau. Nid oes amheuaeth ynghylch cyhoeddi apwyntiadau gweinidogol yn y dyfodol, ond ni welaf unrhyw reswm pam na allwn ni wneud hyn ar gyfer apwyntiadau sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a byddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd o wneud hynny.
Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r adolygiad? Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig eich bod chi’n edrych ar awdurdodaethau eraill, gan y dylem ni geisio dilyn yr arferion gorau. Os bydd hynny’n newid dulliau presennol, rwy’n credu bod hynny’n dangos i chi bod y Llywodraeth yn gwneud y peth iawn ac nad yw’n cydnabod bod arferion y gorffennol yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd. Mae safonau’n newid, mae technoleg yn newid, mae’r hyn sy’n bosibl yn newid, ac rwy'n credu ein bod ni eisiau bod ymhlith y goreuon ac nid bod ar ei hôl hi.
Na, rwy’n cytuno â hynny ac, fel y dywedais, mae’r adolygiad wrthi’n cael ei gynnal ar hyn o bryd i ganfod y ffordd orau o gyhoeddi gwybodaeth fel ei bod yn eglur pwy mae Gweinidogion yn cyfarfod â nhw. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i fwrw ymlaen ag ef cyn gynted â phosibl.