– Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, rwyf wedi ychwanegu datganiadau llafar y prynhawn yma ar ‘Ymyrraeth Erthygl 50’ a ‘Band Eang Cyflym Iawn—Y Camau Nesaf’. Mae’r amseroedd a neilltuwyd i eitemau eraill ar yr agenda wedi eu newid o’r herwydd, ac, yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio, os gwelwch yn dda, ynglŷn â hawliau datblygu a ganiateir? Rhai blynyddoedd yn ôl, pan mai’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am gynllunio, gwnaethpwyd datganiad gan y Llywodraeth yn dweud bod y Llywodraeth ar y pryd yn mynd i geisio gwneud yr hawliau yn fwy hyblyg ac yn haws eu defnyddio i ddatblygwyr a phobl sy'n ceisio caniatâd cynllunio a datblygu, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig. Fel y gwelsom yn y ddadl yr wythnos diwethaf, ymddengys nad oes gan y Llywodraeth bresennol unrhyw gynigion i wireddu geiriau’r Gweinidog cynllunio hwnnw, a chreu system fwy hyblyg ar gyfer hawliau datblygu y caniateir eu defnyddio yng Nghymru i helpu i greu cyfleoedd economaidd ym maes adeiladu ac adfywio. Felly, byddwn i’n ddiolchgar am eglurhad ynghylch beth yn union yw meddylfryd y Llywodraeth bresennol o ran gwneud defnydd llawer gwell o hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer datblygwyr, a fyddai'n gwella'r system gynllunio yn helaeth yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae Andrew RT Davies yn gwybod, ac wedi cymryd rhan mewn, datblygu deddfwriaeth flaengar iawn o ran cynllunio, ond, wrth gwrs, nodaf ei bwynt, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb os gofynnir cwestiwn ar yr adeg briodol.
Roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad yn amser y Llywodraeth ar ymateb eich Llywodraeth i’r ffaith na fydd Theresa May yn cwrdd ag arweinwyr Tata yn India pan fydd yn ymweld yno. Dywedodd nad oedd yn bosibl iddi drefnu cyfarfod, ac rwy’n bryderus iawn am hyn, o ystyried y ffaith bod y gweithrediadau yn y DU yn hynod bwysig i'n heconomi, fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon. Oherwydd y newid mewn arweinyddiaeth yn Tata, mae angen i ni sicrhau mai hyn yw prif bwyslais y drafodaeth ynglŷn â'n datblygiad economaidd ag India yn y dyfodol. Felly, yn rhan o'r datganiad hwnnw, a gaf i hefyd ofyn a allwch chi ddweud wrthyf a yw'r Prif Weinidog, neu Weinidog arall o Lywodraeth Cymru, yn fodlon mynd yn lle Theresa May? Os nad yw hi'n ystyried bod hyn yn ddigon pwysig iddi hi ei wneud, a wnewch chi fel Llywodraeth anfon rhywun yn ei lle?
Mae Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig. Cafodd ei godi, mi wn, ddoe yn y pwyllgor materion allanol. Gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb i'r pwynt a wnaed am y ffaith bod Theresa May wedi methu â chyflawni’r cyfarfod cyswllt hollbwysig hwn â Tata Steel yn ystod ei hymweliad ag India. Mae David Rees yn sicr wedi ei godi hefyd. Dywedodd y Prif Weinidog fod hyn yn anffodus—byddwn yn dweud ei fod yn anffodus i Brif Weinidog y DU, yn methu â chyflawni ei chyfrifoldeb, ond mae'n sicr yn anffodus ac yn achos pryder o ran y gweithlu ym Mhort Talbot. Ond credaf y gallwch chi fod yn sicr, fel y gwn y byddwch chi, o’r camau yr ydym yn eu cymryd, nid yn unig o ran ymgysylltu yn gyson â Tata—ac, yn wir, mae’r Prif Weinidog, yn ogystal â Gweinidogion eraill, wedi ymweld—ond wrth sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i’r diwydiant dur. Wrth gwrs, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at bob AC ar 20 Hydref i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am weithgareddau sy'n ymwneud â Tata Steel, ac mae ystod o gymorth posibl sy'n cael ei hystyried i sicrhau bod y busnes yn cael ei roi ar sail fwy cadarn. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno eich diweddaru am hynny.
Yn gyntaf, bu lansiad ardderchog o Peas Please yng nghanol dinas Caerdydd ddoe, a lansiwyd gan y Food Foundation, i geisio cael mwy o bobl I fwyta mwy o lysiau, ac i dynnu sylw at y ffaith nad yw pobl, er gwaethaf yr ymgyrch pump y dydd, yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, a bod hyd at 20,000 o bobl yn y DU yn marw o ganlyniad i hynny. Cymerodd oddeutu 30 o sefydliadau ran, gan gynnwys ffermwyr, garddwyr cymunedol, archfarchnadoedd, ac arbenigwyr TG, gan gynrychioli pawb o’r tyfwr lleol i arbenigwr y gadwyn gyflenwi. Felly, byddai'n wych pe byddem yn cael dadl ar hyn ac ymateb Llywodraeth Cymru i sut y gallwn dyfu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru, o gofio bod pris llysiau yn debygol o gynyddu o ganlyniad i'r ffaith bod y rhan fwyaf o'n llysiau yn cael eu mewnforio ar hyn o bryd, ac, yn sgil y gostyngiad yng ngwerth y bunt, yn amlwg, bydd pris llysiau yn cynyddu. Dyna un peth.
Y peth arall yw, yn ychwanegol at fater Bashir Naderi, a godais gyda chi yr wythnos diwethaf, rwy'n gobeithio trefnu ymgyrch rhuban glas yfory, ar risiau'r Senedd am un o'r gloch fel y gall pob un ohonom ddangos ein cefnogaeth, yn ogystal â llofnodi'r datganiad barn yn mynnu nad yw Bashir Naderi yn cael ei hel o Gymru, lle y mae'n gwneud cyfraniad gwerthfawr, ac nid oes unrhyw reswm pam y dylai gael ei anfon yn ôl i Affganistan.
Mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn codi dau bwynt pwysig iawn. Mae'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â sut y gallwn ni annog cynnydd mewn cyflenwi a bwyta llysiau a ffrwythau. Mae hyn i gyd yn rhan o'r ymagwedd cadwyn gyflenwi integredig sydd gan Lywodraeth Cymru gyda chynhyrchwyr, gan weithio gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr, a'r sector gwasanaethau bwyd. Ond mae hyn hefyd yn cysylltu â'n rhaglen datblygu gwledig, ac yn cysylltu â’n hagenda rheoli tir cynaliadwy. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol i’n plant a'n pobl ifanc, a'r maeth y maent ei angen ac sy’n ofynnol iddynt ac y gallant ei gael. Ac mae Peas Please, wrth gwrs, yn un ffordd o gyflawni hynny.
Credaf fod eich ail bwynt, wrth gwrs, wedi ei wneud yn dda iawn, o ran y gefnogaeth a fynegwyd ar draws y Siambr hon dros Bashir, a'r gwaith yr ydych chi, ac, yn wir, Jo Stevens AS, wedi’i wneud. Fe wnaeth ffoi o Afghanistan pan oedd yn 10 oed, fel y dywedwch, ar ôl i’w dad gael ei ladd. Mae’n fater sy’n golygu ei bod yn bwysig ein bod yn mynegi ein barn yn y Cynulliad hwn, a gwn fod pobl eisiau gwybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynegi’r gefnogaeth honno yn fwy ystyrlon. Gobeithiaf yn fawr, fel yr wyf yn sicr yr ydym i gyd yn ei wneud, y bydd y sefyllfa yn cael ei datrys yn foddhaol maes o law.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr ymrwymiad i gynlluniau prentisiaeth y sector cyhoeddus? Mae cyngor Caerffili wedi tynnu arian yn ôl o gynllun a oedd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth i bobl ifanc, i'w helpu i mewn i waith. Roedd y cynllun wedi llwyddo i greu 18 o swyddi parhaol, ond tynnodd y cyngor y cyllid yn ôl yn 2015-16, ac nid yw wedi ariannu unrhyw brentisiaethau eleni. Rwy’n pryderu y gallai hyn fod yn rhan o batrwm ehangach o golli cynlluniau prentisiaeth awdurdodau lleol, ac efallai ei fod yn groes hyd yn oed i’r uchelgeisiau polisi yr ydych chi wedi eu mynegi o ran prentisiaethau fel Llywodraeth. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater pwysig iawn hwn?
Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac yn wir, rydych chi wedi dangos pa mor llwyddiannus y bu o ran y prentisiaethau sector cyhoeddus hynny mewn un awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, gellir adlewyrchu hyn ledled Cymru. Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw sut y maen nhw’n rheoli yr hyn sy’n gyfnod anodd iawn o ran cyni, ond, wrth gwrs, wrth i ni symud ymlaen â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, rydym yn gweld setliad gwell nag a ragwelwyd gan lywodraeth leol, yn sgil rheolaeth ariannol ofalus. Felly, byddwn i’n gobeithio y byddai hynny'n galluogi'r awdurdod i edrych ar hyn o ran canlyniadau cadarnhaol y cynllun prentisiaeth hwnnw.
A gaf i fynegi fy nghefnogaeth i sylwadau Jenny Rathbone ynglŷn â Bashir Naderi? Gwn ei bod wedi codi hyn yn y Siambr yr wythnos diwethaf hefyd. Ac mae nifer o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd sy'n ffrindiau i Bashir, wedi cysylltu â mi, yn gofyn i minnau hefyd siarad yn y Cynulliad, yn ei gefnogi, ac mae ei fam faeth, a roddodd iddo gartref yma yng Nghaerdydd pan oedd yn 10 oed wedi cysylltu hefyd ac mae hi’n daer eisiau helpu ei bachgen rhag cael ei alltudio. Credaf ei bod yn sefyllfa hynod drist bod rhywun sydd â chymaint i'w gyfrannu ac sydd wedi elwa ar y gwasanaethau yr ydym wedi gallu eu cynnig yng Nghymru, bellach yn cael ei drin yn y modd cwbl annynol hwn, ac wedi ei gludo i ganolfan gadw yn ddisymwth ac yn greulon lle nad oes ganddo ond pythefnos i wneud achos dros gael aros yn y lle a fu’n gartref iddo. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n cefnogi Jenny Rathbone ac yn gofyn a oes unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud.
Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn yna, gan ychwanegu ei chefnogaeth i Bashir Nadir a hefyd am gydnabod y codwyd hyn yr wythnos diwethaf yn y Siambr. Roeddwn i’n gallu mynegi ein pryderon. Mae hwn yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond rydym yn gyfrifol am y bobl sy'n byw yn ein cymunedau ac yn pryderu amdanynt ac rydym yn barod iawn i groesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, ac yn defnyddio'r pwerau sydd gennym i gefnogi'r rhai sy’n agored i niwed a'r rhai y gwyddom eisoes, fel y disgrifiwyd mor glir, eu bod wedi byw yn ein cymunedau ac wedi eu cefnogi gan gynifer o bobl. Credaf eto ei bod yn galonogol iawn clywed yr Aelodau yn mynegi eu cefnogaeth i Bashir yn y Cyfarfod Llawn heddiw eto.
Yn olaf, David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf i adleisio sylwadau Bethan Jenkins. 15 mlynedd yn ôl i heddiw digwyddodd y ddamwain erchyll yn ffwrnais chwyth Rhif 5 pryd y collodd tri gweithiwr eu bywydau, dau o fy etholaeth i ac un o Faesteg, a chafodd llawer eu hanafu? Roedd y sylwadau ddoe gan Brif Weinidog y DU, neu'r adlewyrchiad ar y Prif Weinidog oherwydd na wnaeth hi, mewn gwirionedd, lwyddo i ddod o hyd i amser yn ei hamserlen i wneud yr ymdrech i fynd i weld Tata—rwy'n credu bod hynny’n warthus a chredaf ei bod yn bwysig bod Gweinidogion Cymru yn mynegi’r safbwyntiau yn glir i Lywodraeth y DU o ran ein teimladau ynglŷn â hyn a sut, yn y bôn, y mae hi’n siomi cymunedau a gweithlu y diwydiannau hynny. Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn goroesi. Mae'n hollbwysig, felly, bod Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan bwysig, oherwydd ei bod yn rheoli llawer o brosesau y dylai eu rhoi ar waith yn hytrach nag eistedd yn ôl, ac mae'n bwysig felly bod Gweinidogion Cymru yn gwneud y sylwadau hynny ar ein rhan.
O ran ail bwynt, a gaf i hefyd ofyn cwestiwn ynglŷn â’r berthynas rhwng y GIG a phartneriaethau preifat a’r canllawiau a roddir iddynt? Ar hyn o bryd, rwyf ar ddeall bod trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ysbyty HMT Sancta Maria ynglŷn â'r posibilrwydd o brynu tir ar gyfer gwaith datblygu, ac mae’n bwysig cael arweiniad clir ar safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â’r bartneriaeth rhwng darparwyr preifat a darparwyr y GIG, a’r berthynas waith sy'n bodoli rhyngddyn nhw, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gofal diogel i’n cymunedau, ond gofal hefyd, i’r graddau sy’n bosibl, yn sector y GIG ei hun.
Credaf fod David Rees unwaith eto yn codi pwynt pwysig iawn i’w gofio heddiw, a'r ffaith mai ar 8 Tachwedd 2001 y ffrwydrodd ffwrnais chwyth Rhif 5 Corus UK Limited ym Mhort Talbot, gyda chanlyniadau trasig a bu farw tri o weithwyr Corus. Credaf mai effaith y digwyddiadau trasig hynny y dymuna pob un ohonom eu cofio heddiw. Unwaith eto, ni wnaeth Prif Weinidog y DU—ni wnaeth unrhyw gysylltiad. Yn ystod yr wythnos hon, o bob wythnos, gallai fod wedi gwneud y cysylltiad hwnnw. Felly, rydych wedi dweud, ac rwy'n siŵr, unwaith eto, y rhennir y farn hon ar draws y Siambr hon, fod hyn yn warthus, y diffyg ymateb hwnnw—y diffyg parch yn ogystal, oherwydd, hefyd, yr ansicrwydd, fel y dywedwch, yn eich etholaeth ynglŷn â dyfodol y gweithlu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yma gyda mi yn y Siambr heddiw. Mae wedi clywed y pwyntiau yna. Mae wedi gwneud y cysylltiad hwnnw eto ac, wrth gwrs, wedi clywed gan Bethan Jenkins yn gynharach. Felly, credaf fod hyn yn bwynt y byddwn yn dymuno gwneud ein safbwynt arno yn glir iawn.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ. Diolch.