1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth? OAQ(5)0057(EI)
Gwnaf. Bydd yr Aelodau’n gwybod mai cronfa yw’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth sy’n cefnogi’r diwydiant twristiaeth. Ers 2013, cyfanswm gwerth y cynigion yw £5.5 miliwn, ynghyd â £11.3 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau twristiaeth strategol, megis Profiad y Royal Mint a Syrffio Eryri. Mae’r gronfa wedi helpu i greu 1,087 o swyddi i gyd ac yn cynnwys £40 miliwn o fuddsoddiadau pellach a fydd yn cael eu denu i mewn.
Diolch yn fawr iawn am y diweddariad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—dylwn fod wedi dweud hynny’n gynharach. Ond yn 2012, rhoddodd y Llywodraeth £0.5 miliwn i Westy Castell Rhuthun, mwy na thair gwaith yn uwch nag unrhyw grant arall gan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth y flwyddyn honno, a £5,000 yn unig o hwn sydd wedi’i adennill i drethdalwyr Cymru ar ôl i’r cwmni fethu â bodloni meini prawf y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Rwy’n derbyn yn yr enghraifft benodol hon fod yna anawsterau i adennill arian am fod y cwmni wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ond mae hynny ynddo’i hun yn codi cwestiynau ynglŷn â’r trefniadau diogelu y mae Llywodraeth Cymru yn eu mynnu wrth roi’r grant Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Yr arian a gollwyd, dyna rywbeth y gallai busnesau eraill fod wedi ei ddefnyddio. Felly, a fyddwch yn ailbennu’r rheolau ar gyfer grantiau Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth er mwyn cael lledaeniad daearyddol ehangach ar gyfer creu swyddi, neu a ydych yn chwilio am ffyrdd gwahanol o leihau’r risg i drethdalwyr Cymru?
Gallaf gadarnhau’r pwynt diwethaf. Yn wir, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda diweddariad ar y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth, oherwydd bod y meini prawf ar gyfer cymorth wedi cael eu newid. Rwy’n credu fy mod wedi tynnu sylw at hyn mewn sesiwn flaenorol yma yn y Cyfarfod Llawn, neu mewn pwyllgor, ond newidiodd y meini prawf fel bod isafswm ad-daliad o 30 y cant yn cael ei bennu yn y broses ddyfarnu.
O ran Gwesty Castell Rhuthun, rwy’n credu yn gyntaf oll, ei bod yn hanfodol nad yw’r Aelodau’n bychanu’r gwesty arbennig hwnnw, gan ei fod yn dal ar agor, mae’n gweithredu’n llwyddiannus iawn ac mae’n darparu cyfleoedd gwaith i lawer o bobl. Ni fuaswn yn dymuno i’r Aelodau yn y Siambr hon roi’r argraff fod Gwesty Castell Rhuthun wedi cau neu ei fod mewn trafferth. Yn wir, cyfarfu fy swyddogion â’r perchnogion newydd yn ôl ym mis Ebrill eleni i drafod cynlluniau sydd gan y gwesty i ehangu. Mae’r gwesty hefyd wedi newid drwy wahanu rhai o’r asedau sydd â mwy o rwymedigaeth, felly sefydlwyd ymddiriedolaeth erbyn hyn i edrych ar ôl rhannau o’r amgylchedd hanesyddol yn y castell. O ran yr achos penodol hwnnw, rwy’n hapus i ysgrifennu at yr Aelodau gydag adroddiad llawn am yr hyn a ddigwyddodd a’r rheswm pam y bu i’r prosiect wynebu problemau. O ran y prosiect hwnnw, ie, tua £5,000 yn unig a gafodd ei adennill, ond mae’r gwesty’n dal i weithredu. Mae’n dal i gyflogi pobl ac mae’n dal i fod o safon pedair seren.
Byddaf yn hapus i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Aelodau o ran y newidiadau i’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, a darparaf gyfrif mwy manwl o’r hyn a ddigwyddodd gyda Gwesty Castell Rhuthun a’r broses diwydrwydd dyladwy y bu’n ddarostyngedig iddi. Gallaf gadarnhau, fel rhan o raglen y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gyfer 2017, y bydd dau brif atyniad yn cael eu cyflwyno: un yn y gogledd sef gwibgertio mynyddig, ac un yn y de, yn Sir Benfro, sef parc tonfyrddio, a fydd yn nodwedd allweddol o Flwyddyn y Môr yn 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil cyfraniadau blaenorol rwyf wedi’u gwneud ar y pwnc hwn, fe fyddwch yn gwybod am fy niddordeb personol mewn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol Merthyr Tudful, yn arbennig, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor yn trafod opsiynau ar gyfer datblygu’r rhain yn gyfleoedd twristiaeth arwyddocaol. Yn wir, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch i siarad yng nghynhadledd treftadaeth ac adfywio Merthyr, a chanolbwyntiais yn benodol ar yr hyn sydd gan Ferthyr i’w gynnig yn hynny o beth. Ar wahân i holi a ydym bob amser yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu neu adnewyddu safleoedd ac adeiladau sydd â stori arwyddocaol i’w hadrodd mewn perthynas â’n treftadaeth leol, siaradais yn benodol ynglŷn â sut y gallem ddysgu o lefydd fel Ironbridge i gyflwyno profiad tref gyfan. Awgrymais hefyd y posibilrwydd o ddatblygu llwybr Dic Penderyn, y gwn fy mod wedi siarad â chi yn ei gylch, ac a fuasai’n adrodd hanes pobl Merthyr adeg y gwrthryfel. Ymddengys bod y cyngor a nifer o’r gwirfoddolwyr treftadaeth yn y dref yn croesawu’r syniad hwnnw. Y rheswm rwy’n crybwyll hyn yw bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r sefydliadau treftadaeth uchelgais sylweddol ar gyfer y dref—nid oes amheuaeth am hynny—ond wrth gwrs, mae’r rhwystr i ddatblygu nifer o brosiectau yn un ariannol at ei gilydd. Nawr, rwy’n sylweddoli bod y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth—
Mae angen i chi ddod at y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn, rwy’n dod at y cwestiwn. Rwy’n sylweddoli bod y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn un sy’n seiliedig ar gyllidwr pan fetha popeth arall a, wyddoch chi, ar ôl dihysbyddu pob un arall, a gwn ei fod yn gyfyngedig i £0.5 miliwn yn unig a’i fod yn bennaf yn ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â llety, gweithgareddau a bwytai ac yn y blaen—
Y cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf a oes hyblygrwydd yn y rheolau sy’n llywodraethu’r cynllun a fuasai’n caniatáu mynediad at gyllid a allai helpu gydag ambell i brosiect treftadaeth bychan na allai ddenu unrhyw gyllid arall, ond a allai, pe baent yn cael eu datblygu, helpu i ddenu pobl i’r dref?
Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Mae nifer o Aelodau, dros yr wythnosau diwethaf, wedi gofyn cwestiynau i mi ynglŷn ag a allai’r Llywodraeth gefnogi prosiectau penodol a safleoedd penodol yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau. Gwn fod Neil McEvoy wedi gofyn yr un cwestiwn yn ddiweddar. Yr hyn rwy’n ymrwymo i’w wneud yw ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion am y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth—y meini prawf—ond hefyd, os caf, rwyf am gynnwys manylion rheolwyr cyrchfannau mewn rhannau perthnasol o ranbarthau Cymru, a’r manylion cyswllt, gan fy mod yn credu y byddai’n werthfawr i’r Aelodau allu cysylltu â hwy neu o leiaf, i allu cyfeirio grwpiau at y rheolwyr cyrchfannau oherwydd bydd ganddynt fanylion am ddwy raglen gyllido bwysig arall wedyn—y gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth ranbarthol, a allai fod yn berthnasol i’r pwynt y mae Dawn Bowden yn ei wneud, a hefyd y gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol. Yn ogystal â hynny, mae yna gyfleoedd cyllido a ddarperir drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Lywydd, os caf, fe geisiaf roi’r holl fanylion hyn mewn llythyr a’i ddosbarthu i’r Aelodau fel bod gan bawb y manylion perthnasol i allu rhoi cyngor ar unrhyw brosiectau y bydd etholwyr yn eu cyflwyno.