– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Symudwn yn awr at eitem 3, sef y datganiadau 90 eiliad, a daw’r cyntaf y prynhawn yma gan David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe roedd hi’n bymtheg mlynedd ers y ffrwydrad erchyll yn ffwrnais chwyth rhif 5 yng ngwaith dur Port Talbot. Digwyddodd y ffrwydrad am 5:15 yr hwyr ar 8 Tachwedd 2001, a daeth llawer o drigolion ym Mhort Talbot yn ymwybodol o’r digwyddiad yn gyflym ar ôl clywed bang uchel y ffrwydrad.
Collodd tri o weithwyr dur eu bywydau y diwrnod hwnnw—Andrew Hutin, 20 oed, Stephen Galsworthy, 25 oed, y ddau o Bort Talbot, a Len Radford, 53 oed, o Faesteg. Anafwyd nifer o weithwyr dur eraill, a dioddefodd rhai ohonynt anafiadau sy’n newid bywyd.
Ymatebodd y gwasanaethau brys yn gyflym, yn fewnol yn y gwaith dur ac yn allanol, a mynd ar y safle. Bu’n rhaid iddynt wynebu golygfeydd erchyll. Cludwyd y rhai a anafwyd, a llawer ohonynt â llosgiadau difrifol, i’r gwahanol ysbytai yn yr ardal, a chawsant ofal rhagorol gan y GIG. Heddiw, rwyf am gofio’r rhai a fu farw, y rhai a anafwyd, a’r rhai a ddioddefodd, ac sy’n dal i ddioddef o anhwylder straen wedi trawma, o ganlyniad i fod yn y digwyddiad hwnnw. A gadewch i ni beidio ag anghofio eu teuluoedd chwaith. Rwyf hefyd yn awyddus i ddiolch, unwaith eto, i’r holl staff argyfwng, a staff y GIG, a ymatebodd i’r digwyddiad hwn.
Wrth i ni geisio sicrhau dyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y peryglon y mae gweithwyr dur yn eu hwynebu bob tro y byddant yn dechrau eu sifftiau yn ein gweithfeydd dur, ac wrth wneud hynny, mae gweithwyr dur yn cyflawni ar gyfer y DU. Mae’n bwysig ein bod yn awr yn sicrhau diwydiant cryf a diogel ar eu cyfer.
Diolch yn fawr iawn. Huw Irranca-Davies.
Diolch. Rwyf fi a Llyr Gruffydd, a llawer o bobl eraill ar draws y wlad, ar hyn o bryd yn tyfu blew wyneb ar yr union eiliad hon, y Movember hwn, i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at ymchwil canser y prostad, ac agweddau ehangach ar iechyd dynion hefyd, gan gynnwys iechyd meddwl a chanser y ceilliau.
Pam y mwstashis? Oherwydd bydd pobl yn gofyn i ni beth y mae’n ei olygu: a ydym yn ei wneud er mwyn ennill bet, neu waeth? Ac yna gallwn ddweud wrthynt, oherwydd erbyn hyn rydym yn siarad, rhywbeth nad yw dynion yn tueddu i’w wneud yn dda iawn ar y materion hyn. Mae’n dipyn o hwyl, gyda phwrpas difrifol.
Mae’r sefydliad Movember yn elusen iechyd dynion fyd-eang, sy’n codi arian i ddarparu ymchwil blaengar ac arloesol sy’n galluogi dynion i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach. Mae miliynau wedi ymuno â’r mudiad, gan godi dros £440 miliwn, ac ariannu mwy na 1,200 o brosiectau, gan ganolbwyntio ar ganser y prostad, canser y ceilliau, ac atal hunanladdiad. Mae’r sefydliad yn annog dynion i aros yn iach ym mhob agwedd ar eu bywydau, gyda’r ffocws ar fod yn fwy agored i drafod eu hiechyd ac adegau arwyddocaol yn eu bywydau.
Felly, dyma sôn yn gyflym am bawb sy’n ymwneud â gwaith ymchwil arloesol megis Prostad Cymru a Prostate UK, a’r rhai sy’n ymwneud â mudiad Sied y Dynion, a ddechreuodd yng Nghymru, yn Nhon-du, ac i bawb arall sy’n ceisio gwella iechyd meddwl a chorfforol dynion. Diolch i’r Llywydd am adael i ni dynnu sylw at y materion pwysig hyn ynglŷn ag iechyd dynion yma yn ein Cynulliad, a thrwy wneud hynny, i siarad â Chymru. Mae angen i ni i gyd siarad mwy am hyn, ac mae angen i ni weithredu, a gobeithio y gall ein mwstashis bach helpu. Movember hapus.
Ac yn olaf, Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Tua blwyddyn yn ôl, cyfarfûm ag Elly Neville o Sir Benfro, ac roedd Elly wedi ennill cystadleuaeth i ddylunio collage baner Sir Benfro yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro fel rhan o’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn yr ysgol. Yna aeth Elly a’i theulu â’r faner o amgylch Sir Benfro i godi arian ar gyfer y gwaith o adnewyddu ac uwchraddio ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, i’w gwneud yn ward ganser benodedig unwaith eto. Roedd ei thad, Lyn, wedi bod yn glaf cemotherapi ar ward 10 ei hun ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn.
Mae apêl baner ward 10 Elly wedi tyfu a thyfu. Yn awr, mae’n rhan swyddogol o elusennau iechyd Hywel Dda. Hyd yn hyn, mae’r ymgyrch wedi codi dros £52,000, ac wedi prynu ei offer cyntaf ar gyfer y ward. Y cam nesaf yw cael cymeradwyaeth i’r achos busnes llawn ar gyfer adnewyddu ward 10, a oedd wedi rhoi’r staff ymroddedig a’r cyfleusterau ar gyfer adferiad ei thad. Ond bydd hyd yn oed campau aruthrol Elly angen cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith adnewyddu o’r fath ar y ward.
Efallai y dylwn fod wedi crybwyll mai chwech oed yw Elly. Mae ei chyfraniad eisoes wedi bod yn wych, ac mae hi’n glod i’w theulu, ei hysgol a’i chymuned. Derbyniodd wobr Dinesydd Prydeinig Ifanc y mis diwethaf yn Nhŷ’r Arglwyddi. Cymeradwyaf ei gwaith a’r elusen i’r Cynulliad. Diolch yn fawr, Elly.
Diolch yn fawr iawn.