Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy’n ymwybodol iawn o’r mater cyffredinol y mae’r Aelod yn ei godi oherwydd bod therapyddion galwedigaethol yn un o’r grwpiau sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol at eu dibenion hwy a chan y gwasanaeth iechyd. Mae hynny’n golygu bod gwahanol delerau ac amodau’n berthnasol i’r gweithleoedd gwahanol ac fel y dywed yr Aelod, mae’n golygu weithiau bod cyfleoedd hyfforddi gwahanol ar gael yn dibynnu ar y sector rydych yn gweithio ynddo. Yn y pen draw, materion i gyflogwyr eu datrys yw’r rhain, ond rwy’n sicr eu bod yn ymwybodol iawn o’r mater y mae’r Aelod wedi’i godi.