Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 23 Tachwedd 2016.
A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y dyraniadau i fferyllfeydd cymunedol? Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd am ei ddyhead i ehangu rôl fferyllfeydd cymunedol, er mwyn lleihau’r pwysau ar ofal sylfaenol ac i integreiddio TG rhwng ysbytai, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cyfle i leddfu pwysau ar ofal eilaidd mewn perthynas â’r oedi wrth ryddhau o’r ysbyty os gellir integreiddio cofnodion fferyllfeydd cymunedol a chofnodion ysbyty. A fuasai’n gallu rhoi sylwadau ar y dyraniadau i fferyllfeydd cymunedol yn y cyd-destun hwnnw?