<p>Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel rwy’n dweud, nid oedd y Canghellor wedi cwblhau ei ddatganiad pan ddeuthum yma. Rydym wedi hen ddysgu yn y Siambr hon i edrych ar brint mân yr hyn a ddywed yn y datganiadau hyn i weld lle y caiff arian ei dorri, rhywbeth nad yw’r Canghellor yn tueddu i’w bwysleisio, yn ogystal â ble y mae arian yn cael ei ddarparu.

Yn ôl yr hyn a ddeallwn pan adewais, nid oedd yr un geiniog o gyllid ychwanegol yn cael ei gynnig i’r gwasanaeth iechyd yn natganiad yr hydref, er gwaethaf y pwysau enfawr sydd i’w weld yn y GIG yn Lloegr. Bydd yr Aelod yn gwybod, o ganlyniad i’n cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, ein bod eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi cyfalaf ychwanegol sylweddol mewn offer diagnostig ar gyfer y GIG yng Nghymru y flwyddyn nesaf.