<p>Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:39, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi arian ychwanegol heddiw ar gyfer grant bloc Cymru yn sgil datganiad yr hydref. O ystyried yr heriau a amlinellir yng nghynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru, yn benodol y prinder offer sy’n llesteirio diagnosis cynharach o ganser a chyfraddau goroesi yn sgil hynny, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymrwymo i wario cyfran fawr o’r arian ychwanegol ar wella gwasanaethau diagnostig yng Nghymru?