Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Tachwedd 2016.
A gaf fi ei annog i fynd gam ymhellach? Gwelsom, mewn gwirionedd, fod banc seilwaith cenedlaethol wedi cael ei gyhoeddi gan ei gydweithiwr, canghellor yr wrthblaid, mewn araith ar 27 Medi. Cafodd ei ailadrodd dri diwrnod yn ddiweddarach gan arweinydd y Blaid Lafur—mae’n dda gweld bod rhywfaint o alinio polisi yn digwydd yno. Yn hytrach na dim ond mynegi ein siom â San Steffan drwy’r amser, a mynegi ein teimladau, ac ymdopi â phyliau emosiynol o edifeirwch, ‘does bosibl nad pwrpas creu’r sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yw ein bod, mewn gwirionedd, yn gwneud rhywbeth. Mae’r ysgogiad hwn wedi cael ei gyhoeddi fel polisi gan ei blaid ei hun ar lefel y DU—a rhwydwaith o fanciau rhanbarthol. Wel, mae yna Lywodraeth y mae ei blaid yn ei rhedeg yn y DU: Llywodraeth Cymru. Yn sicr, yn hytrach na chyhoeddi datganiadau o edifeirwch a datganiadau i’r wasg ynglŷn â’r hyn y gallai Llywodraeth Lafur ddamcaniaethol yn y dyfodol ei wneud yn San Steffan, ‘does bosibl na ddylem gymryd rheolaeth ar ein tynged ein hunain mewn gwirioned a chreu banc seilwaith i Gymru.