Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Oherwydd ein bod wedi gwneud yn union hynny, yng Nghymru, rydym wedi cael y trefniadau cyllid arloesol rwyf wedi’u harchwilio eisoes. Dyna pam fod gennym Cyllid Cymru yma yn darparu ffynhonnell o gyllid i fusnesau yng Nghymru na fuasai wedi bod ar gael iddynt fel arall yn bendant. Dyna pam, yn wir, fod gennym ddiddordeb mewn archwilio syniadau eraill o fewn ein cymhwysedd a’n gallu deddfwriaethol i adeiladu hyd yn oed ymhellach ar yr hyn a wnaed eisoes.