Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Er nad yw dyslecsia yn golygu bod disgyblion yn anllythrennog, gallai nifer ohonynt yn hawdd fod, yn enwedig y rhai sydd wedi eu colli neu eu hanghofio gan y system. Byddwn i gyd wedi clywed am oedolion yn dweud na chawsant ddiagnosis tan yn llawer hwyrach mewn bywyd, ac yn siarad am yr effaith a gafodd arnynt. Mae astudiaeth gan KPMG yn canfod fod pob person anllythrennog, erbyn iddynt gyrraedd 37 oed, wedi costio £45,000 i £55,000 ychwanegol i’r trethdalwr os ychwanegwch y costau ychwanegol sy’n ymwneud ag addysg, cymorth diweithdra ac yn aml iawn, cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i helpu’r rhai sydd â dyslecsia, ond i’r gymdeithas ehangach yn ogystal.
Nawr, gadewch i ni fod yn glir: nid yw cael dyslecsia yn beth drwg. Mae llawer o bobl â dyslecsia yn hynod o lwyddiannus ac yn fodelau rôl gwych sy’n dangos i’r ieuenctid hyn beth y gallant ei wneud. Entrepreneuriaid fel Syr Richard Branson a Syr Alan Sugar, cewri’r diwydiant adloniant, Steven Spielberg ac Anthony Hopkins, sêr chwaraeon, gan gynnwys Scott Quinell ac—efallai na ddylwn sôn amdano, mewn gwirionedd, ond—cyn reolwr Lloegr Sam Allardyce, a ffigurau hanesyddol fel Leonardo da Vinci a Galileo: pob un â dyslecsia.
Mae’n ymwneud â chael y cymorth a’r gefnogaeth gywir a sicrhau bod strategaethau yn eu lle ar gyfer ymdopi. Os nad ydynt yn eu lle, mae bywyd yn mynd yn anhygoel o anodd i bobl â dyslecsia. Felly, hoffwn i chi glywed yr hyn sydd gan Hannah i’w ddweud—a’i geiriau hi yw’r rhain:
Anhwylder ar yr ymennydd yw dyslecsia sy’n effeithio ar y ffordd y mae’r ymennydd yn deall geiriau.
Gyda llaw, 15 oed yw Hannah.
Dengys ymchwil fod 3 genyn yn gyfrifol am yr anhwylder ac oherwydd hyn, mae’n golygu ei fod yn etifeddol. Gall rhywun fod â dyslecsia hyd yn oed os ydynt yn glyfar iawn ac wedi cael addysg dda er gwaethaf y stereoteip eu bod yn dwp a’u bod yn wael am sillafu ac felly mae’n rhaid eu bod yn wael yn Saesneg, ond yn hytrach, mae’n fwy o broblem cof.
Gall fod yn anodd darllen a deall, maent yn ei chael yn anodd cyfleu syniadau a phwyntiau, gall geiriau symud o gwmpas ar y dudalen neu yn y pen, ysgrifennu araf, gall effeithio ar bethau bob dydd fel talu am fwyd a siarad gyda ffrindiau a gall fod yn anhwylder sy’n effeithio’n wirioneddol ar fywyd.
Mae dyslecsia’n amrywio o berson i berson. Er enghraifft gall fod yn ysgafn yn achos un person a bydd yn ddyslecsia difrifol yn achos rhywun arall. Mae pobl sydd â dyslecsia difrifol yn sensitif i synau uchel hyd yn oed, efallai y byddant yn cael trafferthion wrth siarad, yn methu canolbwyntio, ac mae 60% o bobl sy’n cael diagnosis hefyd yn cael diagnosis o ADHD. Mae pob un o’r pwyntiau rwyf newydd eu dweud yn berthnasol i mi. Cefais ddiagnosis gan yr ysgol ym mlwyddyn 8 pan ddylwn fod wedi cael diagnosis yn gynt mewn gwirionedd, yn yr ysgol gynradd. Pe bawn i wedi, efallai na fyddwn yn cael cymaint o drafferth â rwy’n ei gael yn awr yn yr ysgol. Roedd fy mam am i mi gael profion pan oeddwn yn iau, ond roedd fy athro’n dweud "na" o hyd am "fy mod yn rhy glyfar i fod â dyslecsia." Y rheswm pam roedd hi eisiau i mi gael profion oedd oherwydd bod fy nhad â dyslecsia ac fel y dywedais, mae’n etifeddol.
Gall yr effeithiau yn nes ymlaen mewn bywyd, ac yn arbennig adeg TGAU fod yn niweidiol, nid yn unig oherwydd y straen ond oherwydd bod y rhan fwyaf o’r cwestiynau’n seiliedig ar eiriau. Gall hyd yn oed mathemateg fod yn anodd i bobl ddyslecsig yn enwedig rhifedd. Gall hyn oll arwain—
Rwy’n ei ddarllen fel y mae Hannah wedi’i ysgrifennu:
Gall hyn oll arwain at lawer o fyfyrwyr dyslecsig yn methu cael y canlyniadau y maent eu heisiau, sy’n gallu arwain at bobl yn methu mynd i chweched dosbarth ac yna efallai i brifysgol hyd yn oed. Mae athrawon yn dweud bod ein TGAU mor bwysig. Wel, os ydynt mor bwysig, gadewch i ni gael y gydnabyddiaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnom. Mae myfyrwyr sy’n gwybod am y risgiau yn gofidio’n fawr nad ydynt yn gallu cael eu gwaith i safon ddigon da. Gall achosi pryder mawr iddynt a gallai arwain at iselder hyd yn oed.
A wyddoch chi fod myfyrwyr yn colli marciau am sillafu gwael mewn arholiadau, hyd yn oed os ydych yn ddyslecsig ac nad yw’n deg o gwbl? Dywedodd Albert Einstein unwaith "Mae pawb yn athrylith, ond pan fyddwch yn beirniadu pysgodyn yn ôl y ffordd y mae’n dringo coeden, bydd yn byw ar hyd ei oes yn meddwl ei fod yn dwp." Nid oes unrhyw ysgol yng Nghymru sy’n arbenigo ar ddyslecsia. Uned fach yn unig ar gyfer dyslecsia sydd yn fy ysgol i ac nid yw ond yn ein helpu nes blwyddyn 9. Wedi hynny cawn ein gadael i ymdopi ar ein pen ein hunain a bydd disgwyl i ni weithio a dysgu yr un fath â phawb arall. I rai pobl mae’n helpu’n fawr, ond i bobl eraill nid yw’n ddigon ac mae angen i ni ofyn am help yn ein hamser rhydd. Mae’r ffaith nad yw rhai athrawon hyd yn oed yn ymwybodol fod rhai disgyblion â dyslecsia yn helpu chwaith. Nid oedd 74% o athrawon yn teimlo’n hapus gyda’u hyfforddiant i roi’r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu plant dyslecsig. Roedd dwy ran o dair o rieni yn teimlo nad oedd dyslecsia yn cael ei gydnabod ar draws y system ysgolion. Ond nid oes angen i chi fod yn rhiant i wybod hynny.
Nid yw Cymru ar ei hôl hi er hynny. O’r hyn rwyf wedi ei ganfod, mae methu cael digon o gymorth dyslecsia mewn ysgolion yn broblem ledled y byd, ond i helpu Cymru, anfonais lythyr at y Gweinidog addysg— nid yr un yma, carwn ychwanegu.
[Yn parhau.]—a’r ymateb oedd na allent wneud dim am y peth ac roedd y tu hwnt i’w rheolaeth (mater i awdurdodau lleol oedd hyn). Rwy’n meddwl y dylai fod cymaint mwy o help ar gyfer y rhai sy’n dioddef. Dylai disgyblion gael yr hawl i barhau yn y gwersi dyslecsia yr holl ffordd at flwyddyn 11 os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Nawr, ni allwch lai na chael eich cyffwrdd gan y llythyr hwn, ac ni ddylai fod angen i blentyn, er mor ddeallus yw hi, roi arweiniad call i ni ar y ffordd ymlaen. Daw’r ail gyfraniad, sy’n llawer byrrach, gan oedolyn a ysgrifennodd ataf ddiwedd yr wythnos diwethaf pan welodd fy mod wedi cyflwyno’r ddadl hon. Dywedodd hyn:
Rwyf bob amser yn credu bod dyslecsia yn rhywbeth y gall unrhyw un ei oresgyn gyda chymorth a dulliau. Yn fy mhrofiad i, yr agwedd anoddaf ynglŷn â bod â dyslecsia oedd, yn gyntaf, y gydnabyddiaeth gan yr athrawon. Ni fyddai fy ysgol gyntaf yn derbyn ei fod arnaf, roeddent yn meddwl fy mod yn ddysgwr araf a dyna’i gyd. Bu’n rhaid i fy rhieni fynnu ac yn y pen draw cefais fy symud i ysgol arall a chefais asesiad seicolegol preifat. Yr ail agwedd yw’r stigma sydd ynghlwm wrth bobl sydd â dyslecsia. Rwy’n credu y gallai hyn fod oherwydd yr ystod eang o achosion ar sbectrwm; gyda rhai yn waeth nag eraill—mae’n newid bywydau rhai, ac nid yw pobl yn deall hynny.
Mae’r ddau lythyr hwn, Weinidog, yn tynnu sylw at rai pwyntiau perthnasol iawn. Mae’n anfaddeuol yn yr oes hon mai drwy gael rhieni ymwthgar yn unig y mae pethau’n cael eu gwneud. Nid oes unrhyw ffordd, fel y nododd Hannah, y dylai mwy na dwy ran o dair o rieni fod yn teimlo nad yw dyslecsia yn cael ei gydnabod ar draws y system.
Mae athrawon hefyd yn teimlo nad yw’r hyfforddiant a gânt i ymdrin â disgyblion dyslecsig yn ddigon da. Os meddyliwch y bydd dau neu dri disgybl â dyslecsia ym mhob dosbarth, mae’n dod yn hyd yn oed yn fwy hanfodol fod athrawon yn gwybod beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r problemau hynny. Dywedodd 74 y cant o athrawon a holwyd yn ddiweddar nad oeddent yn teimlo bod eu hyfforddiant wedi rhoi’r sgiliau y maent eu hangen i adnabod a dysgu plant â dyslecsia. Felly, a yw’n unrhyw syndod, pan fydd y gweithwyr proffesiynol yn teimlo bod eu hyfforddiant wedi bod mor annigonol, fod cymaint o ddisgyblion yn llithro drwy’r rhwyd heb gael diagnosis?
Rhaid sgrinio ar gyfer dyslecsia yn gyson ac mewn modd teg. Ar hyn o bryd mae’n dal i ymddangos bod gan awdurdodau addysg lleol wahanol sgoriau trothwy, a all arwain at ddisgyblion yn cael yr un sgoriau mewn siroedd cyffiniol, ond eu bod yn dilyn llwybrau hollol wahanol o ran cael cymorth. Mae cyfrifiad ysgolion Ionawr 2016 yn tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau mawr rhwng awdurdodau. Er enghraifft, mae gan Sir Benfro 460 o ddisgyblion o dan gynlluniau gweithredu gan yr ysgol o gymharu â dim ond 45 yng Nghastell-nedd Port Talbot; mae gan Gaerffili 296 o ddisgyblion dan gynlluniau gweithredu gan yr ysgol a mwy, o gymharu â dim ond 35 yn Sir y Fflint; mae gan Gaerdydd 65 o ddisgyblion â datganiad yn asesu eu bod â dyslecsia difrifol, ac mae gan 10 cyngor rhwng dim un a phump o unigolion sydd â datganiad o ddyslecsia. O ystyried yr uchod, mae’n ymddangos bod yna lawer iawn o oddrychedd ar waith wrth asesu anghenion rhywun dyslecsig ac rwy’n pryderu bod yna anghysondebau anferth yn y ffigurau hyn. Mae’n ymddangos i mi fod pob awdurdod addysg lleol, a phob clwstwr o ysgolion o bosibl, â dull ychydig yn wahanol o asesu a dosbarthu. Os nodir bod y disgyblion hynny â dyslecsia, a’u bod yn methu cael y lefel gywir o gymorth, yna, Weinidog, mae’n rhaid i’r Llywodraeth geisio gwneud rhagor i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Dywedodd y Gweinidog addysg ar y pryd yn ôl ym mis Tachwedd 2014,
‘Mae angen mabwysiadu dulliau gweithredu ar gyfer dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol sy’n adeiladu ar ein polisïau addysg cyfredol, fel bod gennym drefniadau cyson a chadarn ledled Cymru’.
Weinidog, tybed a allwch ddweud wrthyf sut y mae hyn yn dod yn ei flaen ar ôl cyhoeddi’r fframwaith anawsterau dysgu penodol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015.
Trwy fy ymchwil ac ystod fy nghyfnod fel llefarydd addysg yr wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf wedi dod ar draws rhai syniadau ychwanegol yr hoffwn dynnu sylw’r Gweinidog atynt. Gwnaed gwaith o’r fath gan Simon Leyshon o Moon Hall College, ysgol sy’n uchel ei pharch ar gyfer rhai â dyslecsia yn Reigate, Surrey. Mae ef o’r farn fod y system bresennol o arholiadau cyhoeddus yn ei gwneud yn anodd iawn i rai â dyslecsia mwy difrifol i lwyddo mewn system arholi sydd wedi’i hanelu tuag at brofion sy’n seiliedig ar y cof. I fynd i’r afael â hyn, mae angen i dri ymyriad addysgol allweddol ddigwydd, ochr yn ochr â chynlluniau dysgu unigol: rhaid newid meddylfryd y plentyn dyslecsig yn feddylfryd tuag at ddysgu cadarnhaol—’gallaf wneud’ yn hytrach na ‘ni allaf’; ffocws clir ar Saesneg a mathemateg yn nysgu dyddiol y plentyn; a datblygu cwricwlwm gweithredol, sef diwrnod addysgiadol strwythuredig gyda ffocws ar hyfforddi a dysgu annibynnol, wedi’i rannu’n flociau amrywiol o amser, gyda sesiynau ailffocysu a chyfleoedd i archwilio astudiaethau sydd o ddiddordeb i’r dysgwr.
Mae pecyn adnoddau Saesneg a mathemateg yn hanfodol i hyder a datblygiad cyffredinol y dysgwr dyslecsig. Ac mae hyn yn cyd-fynd â llawer o’r hyn a glywais gan rieni a gofalwyr. Mae rhwystredigaeth system arholi sy’n mynnu bod plant yn sefyll arholiadau’n gynnar—gallech wneud rhywbeth am hyn, Weinidog—pan fo angen pob munud ar rywun â dyslecsia i fod yn barod, yr amser ychwanegol nad yw byth yn cael ei roi yn ystod y profion darllen a rhifedd cenedlaethol blynyddol a ffug arholiadau, sydd felly’n hybu ymdeimlad o fethiant ac yn ychwanegu at y straen y mae’r plentyn a’r rhiant eisoes yn ei wynebu. Tybed a wnewch chi edrych i weld sut y gellid sicrhau rhyngwyneb rhwng y cwricwlwm gweithredol a datblygiadau Dyfodol Llwyddiannus mewn addysg yng Nghymru. Roedd yn galonogol gweld datganiad y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yr wythnos diwethaf. Rwy’n gobeithio y bydd yn gwireddu ei haddewid i roi dysgwyr, rhieni a gofalwyr wrth wraidd y broses. Mae cyhoeddi cronfa arloesi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gyffrous a hoffwn wybod, Weinidog, sut y gellid ei defnyddio, yn rhannol, i gynorthwyo plant dyslecsig.
Gall pobl â dyslecsia fyw bywydau llwyddiannus a llawn iawn, ond maent angen cymorth. Ni ddylem weld cyfraddau diagnosis gwahanol ar draws Cymru ac ni ddylem gael gweithwyr proffesiynol yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u hyfforddi’n ddigonol i ymdrin â’r broblem. Mae gan bobl â dyslecsia ffordd unigryw o weld pethau. Mae’n fywyd drwy lens wahanol ac yn aml gall fod yn her, ond rhaid i ni sicrhau mai gwahaniaeth yw dyslecsia, nid anabledd. Mae edrych drwy lens wahanol yn brofiad unigryw a gall fod yn hynod o werth chweil. Diolch.