– Senedd Cymru am 6:10 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Angela Burns i gyflwyno ei dadl fer ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Andrew R.T. Davies.
Mae ‘bywyd drwy lens wahanol’ yn crynhoi profiadau pobl â dyslecsia i raddau helaeth. Mae eu ffordd o weld y byd yn wahanol am fod ganddynt ddyslecsia, a ddiffinnir fel set gymhleth o broblemau gwybyddol, sy’n effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd ac i raddau gwahanol.
Fy nod yw defnyddio’r ddadl hon heddiw er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am y cyflwr a thynnu sylw at rai o brofiadau pobl ddyslecsig, ac rwyf am awgrymu ffyrdd o wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth bresennol.
Gall dyslecsia effeithio ar bobl o bob oed, ond fel arfer bydd yn ymddangos gyntaf yn ystod plentyndod. Yn y blynyddoedd a fu, byddent wedi dweud wrth ddisgyblion eu bod yn dwp, yn methu darllen yn iawn, yn ddiog, ac yn sicr, fod eu llawysgrifen yn flêr. Fodd bynnag, mae’n dod yn fwy cyffredin fod diagnosis o ddyslecsia yn cael ei wneud yn gynnar, a’i ganfod yn gynnar yn y ffordd hon sy’n galluogi’r ymyrraeth sydd mor hanfodol i greu llwybr addysgol llwyddiannus ar gyfer plentyn dyslecsig. Mae dyslecsia ar bron i 10 y cant o boblogaeth y DU; mewn termau real mae hynny’n fwy na 6.3 miliwn o bobl. O gymhwyso’r ffigur ar gyfer Cymru, gallem ddweud yn ddiogel fod dros hanner miliwn o bobl yn byw gyda dyslecsia yma. Gall dyslecsia gael effaith ddifrodus ar addysg disgyblion a’u cyfleoedd mewn bywyd. Rydym eisoes yn wynebu heriau gydag un o bob 10 disgybl sy’n gadael yr ysgol gynradd heb gyrraedd y lefelau gofynnol ar gyfer darllen ac un o bob chwe oedolyn yn dal i fod â sgiliau darllen plentyn 11 oed. Yr hyn sy’n peri pryder hefyd yw bod disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig oddeutu 10 gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd yn barhaol na disgyblion heb unrhyw anghenion addysgol arbennig.
Er nad yw dyslecsia yn golygu bod disgyblion yn anllythrennog, gallai nifer ohonynt yn hawdd fod, yn enwedig y rhai sydd wedi eu colli neu eu hanghofio gan y system. Byddwn i gyd wedi clywed am oedolion yn dweud na chawsant ddiagnosis tan yn llawer hwyrach mewn bywyd, ac yn siarad am yr effaith a gafodd arnynt. Mae astudiaeth gan KPMG yn canfod fod pob person anllythrennog, erbyn iddynt gyrraedd 37 oed, wedi costio £45,000 i £55,000 ychwanegol i’r trethdalwr os ychwanegwch y costau ychwanegol sy’n ymwneud ag addysg, cymorth diweithdra ac yn aml iawn, cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i helpu’r rhai sydd â dyslecsia, ond i’r gymdeithas ehangach yn ogystal.
Nawr, gadewch i ni fod yn glir: nid yw cael dyslecsia yn beth drwg. Mae llawer o bobl â dyslecsia yn hynod o lwyddiannus ac yn fodelau rôl gwych sy’n dangos i’r ieuenctid hyn beth y gallant ei wneud. Entrepreneuriaid fel Syr Richard Branson a Syr Alan Sugar, cewri’r diwydiant adloniant, Steven Spielberg ac Anthony Hopkins, sêr chwaraeon, gan gynnwys Scott Quinell ac—efallai na ddylwn sôn amdano, mewn gwirionedd, ond—cyn reolwr Lloegr Sam Allardyce, a ffigurau hanesyddol fel Leonardo da Vinci a Galileo: pob un â dyslecsia.
Mae’n ymwneud â chael y cymorth a’r gefnogaeth gywir a sicrhau bod strategaethau yn eu lle ar gyfer ymdopi. Os nad ydynt yn eu lle, mae bywyd yn mynd yn anhygoel o anodd i bobl â dyslecsia. Felly, hoffwn i chi glywed yr hyn sydd gan Hannah i’w ddweud—a’i geiriau hi yw’r rhain:
Anhwylder ar yr ymennydd yw dyslecsia sy’n effeithio ar y ffordd y mae’r ymennydd yn deall geiriau.
Gyda llaw, 15 oed yw Hannah.
Dengys ymchwil fod 3 genyn yn gyfrifol am yr anhwylder ac oherwydd hyn, mae’n golygu ei fod yn etifeddol. Gall rhywun fod â dyslecsia hyd yn oed os ydynt yn glyfar iawn ac wedi cael addysg dda er gwaethaf y stereoteip eu bod yn dwp a’u bod yn wael am sillafu ac felly mae’n rhaid eu bod yn wael yn Saesneg, ond yn hytrach, mae’n fwy o broblem cof.
Gall fod yn anodd darllen a deall, maent yn ei chael yn anodd cyfleu syniadau a phwyntiau, gall geiriau symud o gwmpas ar y dudalen neu yn y pen, ysgrifennu araf, gall effeithio ar bethau bob dydd fel talu am fwyd a siarad gyda ffrindiau a gall fod yn anhwylder sy’n effeithio’n wirioneddol ar fywyd.
Mae dyslecsia’n amrywio o berson i berson. Er enghraifft gall fod yn ysgafn yn achos un person a bydd yn ddyslecsia difrifol yn achos rhywun arall. Mae pobl sydd â dyslecsia difrifol yn sensitif i synau uchel hyd yn oed, efallai y byddant yn cael trafferthion wrth siarad, yn methu canolbwyntio, ac mae 60% o bobl sy’n cael diagnosis hefyd yn cael diagnosis o ADHD. Mae pob un o’r pwyntiau rwyf newydd eu dweud yn berthnasol i mi. Cefais ddiagnosis gan yr ysgol ym mlwyddyn 8 pan ddylwn fod wedi cael diagnosis yn gynt mewn gwirionedd, yn yr ysgol gynradd. Pe bawn i wedi, efallai na fyddwn yn cael cymaint o drafferth â rwy’n ei gael yn awr yn yr ysgol. Roedd fy mam am i mi gael profion pan oeddwn yn iau, ond roedd fy athro’n dweud "na" o hyd am "fy mod yn rhy glyfar i fod â dyslecsia." Y rheswm pam roedd hi eisiau i mi gael profion oedd oherwydd bod fy nhad â dyslecsia ac fel y dywedais, mae’n etifeddol.
Gall yr effeithiau yn nes ymlaen mewn bywyd, ac yn arbennig adeg TGAU fod yn niweidiol, nid yn unig oherwydd y straen ond oherwydd bod y rhan fwyaf o’r cwestiynau’n seiliedig ar eiriau. Gall hyd yn oed mathemateg fod yn anodd i bobl ddyslecsig yn enwedig rhifedd. Gall hyn oll arwain—
Rwy’n ei ddarllen fel y mae Hannah wedi’i ysgrifennu:
Gall hyn oll arwain at lawer o fyfyrwyr dyslecsig yn methu cael y canlyniadau y maent eu heisiau, sy’n gallu arwain at bobl yn methu mynd i chweched dosbarth ac yna efallai i brifysgol hyd yn oed. Mae athrawon yn dweud bod ein TGAU mor bwysig. Wel, os ydynt mor bwysig, gadewch i ni gael y gydnabyddiaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnom. Mae myfyrwyr sy’n gwybod am y risgiau yn gofidio’n fawr nad ydynt yn gallu cael eu gwaith i safon ddigon da. Gall achosi pryder mawr iddynt a gallai arwain at iselder hyd yn oed.
A wyddoch chi fod myfyrwyr yn colli marciau am sillafu gwael mewn arholiadau, hyd yn oed os ydych yn ddyslecsig ac nad yw’n deg o gwbl? Dywedodd Albert Einstein unwaith "Mae pawb yn athrylith, ond pan fyddwch yn beirniadu pysgodyn yn ôl y ffordd y mae’n dringo coeden, bydd yn byw ar hyd ei oes yn meddwl ei fod yn dwp." Nid oes unrhyw ysgol yng Nghymru sy’n arbenigo ar ddyslecsia. Uned fach yn unig ar gyfer dyslecsia sydd yn fy ysgol i ac nid yw ond yn ein helpu nes blwyddyn 9. Wedi hynny cawn ein gadael i ymdopi ar ein pen ein hunain a bydd disgwyl i ni weithio a dysgu yr un fath â phawb arall. I rai pobl mae’n helpu’n fawr, ond i bobl eraill nid yw’n ddigon ac mae angen i ni ofyn am help yn ein hamser rhydd. Mae’r ffaith nad yw rhai athrawon hyd yn oed yn ymwybodol fod rhai disgyblion â dyslecsia yn helpu chwaith. Nid oedd 74% o athrawon yn teimlo’n hapus gyda’u hyfforddiant i roi’r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu plant dyslecsig. Roedd dwy ran o dair o rieni yn teimlo nad oedd dyslecsia yn cael ei gydnabod ar draws y system ysgolion. Ond nid oes angen i chi fod yn rhiant i wybod hynny.
Nid yw Cymru ar ei hôl hi er hynny. O’r hyn rwyf wedi ei ganfod, mae methu cael digon o gymorth dyslecsia mewn ysgolion yn broblem ledled y byd, ond i helpu Cymru, anfonais lythyr at y Gweinidog addysg— nid yr un yma, carwn ychwanegu.
[Yn parhau.]—a’r ymateb oedd na allent wneud dim am y peth ac roedd y tu hwnt i’w rheolaeth (mater i awdurdodau lleol oedd hyn). Rwy’n meddwl y dylai fod cymaint mwy o help ar gyfer y rhai sy’n dioddef. Dylai disgyblion gael yr hawl i barhau yn y gwersi dyslecsia yr holl ffordd at flwyddyn 11 os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Nawr, ni allwch lai na chael eich cyffwrdd gan y llythyr hwn, ac ni ddylai fod angen i blentyn, er mor ddeallus yw hi, roi arweiniad call i ni ar y ffordd ymlaen. Daw’r ail gyfraniad, sy’n llawer byrrach, gan oedolyn a ysgrifennodd ataf ddiwedd yr wythnos diwethaf pan welodd fy mod wedi cyflwyno’r ddadl hon. Dywedodd hyn:
Rwyf bob amser yn credu bod dyslecsia yn rhywbeth y gall unrhyw un ei oresgyn gyda chymorth a dulliau. Yn fy mhrofiad i, yr agwedd anoddaf ynglŷn â bod â dyslecsia oedd, yn gyntaf, y gydnabyddiaeth gan yr athrawon. Ni fyddai fy ysgol gyntaf yn derbyn ei fod arnaf, roeddent yn meddwl fy mod yn ddysgwr araf a dyna’i gyd. Bu’n rhaid i fy rhieni fynnu ac yn y pen draw cefais fy symud i ysgol arall a chefais asesiad seicolegol preifat. Yr ail agwedd yw’r stigma sydd ynghlwm wrth bobl sydd â dyslecsia. Rwy’n credu y gallai hyn fod oherwydd yr ystod eang o achosion ar sbectrwm; gyda rhai yn waeth nag eraill—mae’n newid bywydau rhai, ac nid yw pobl yn deall hynny.
Mae’r ddau lythyr hwn, Weinidog, yn tynnu sylw at rai pwyntiau perthnasol iawn. Mae’n anfaddeuol yn yr oes hon mai drwy gael rhieni ymwthgar yn unig y mae pethau’n cael eu gwneud. Nid oes unrhyw ffordd, fel y nododd Hannah, y dylai mwy na dwy ran o dair o rieni fod yn teimlo nad yw dyslecsia yn cael ei gydnabod ar draws y system.
Mae athrawon hefyd yn teimlo nad yw’r hyfforddiant a gânt i ymdrin â disgyblion dyslecsig yn ddigon da. Os meddyliwch y bydd dau neu dri disgybl â dyslecsia ym mhob dosbarth, mae’n dod yn hyd yn oed yn fwy hanfodol fod athrawon yn gwybod beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r problemau hynny. Dywedodd 74 y cant o athrawon a holwyd yn ddiweddar nad oeddent yn teimlo bod eu hyfforddiant wedi rhoi’r sgiliau y maent eu hangen i adnabod a dysgu plant â dyslecsia. Felly, a yw’n unrhyw syndod, pan fydd y gweithwyr proffesiynol yn teimlo bod eu hyfforddiant wedi bod mor annigonol, fod cymaint o ddisgyblion yn llithro drwy’r rhwyd heb gael diagnosis?
Rhaid sgrinio ar gyfer dyslecsia yn gyson ac mewn modd teg. Ar hyn o bryd mae’n dal i ymddangos bod gan awdurdodau addysg lleol wahanol sgoriau trothwy, a all arwain at ddisgyblion yn cael yr un sgoriau mewn siroedd cyffiniol, ond eu bod yn dilyn llwybrau hollol wahanol o ran cael cymorth. Mae cyfrifiad ysgolion Ionawr 2016 yn tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau mawr rhwng awdurdodau. Er enghraifft, mae gan Sir Benfro 460 o ddisgyblion o dan gynlluniau gweithredu gan yr ysgol o gymharu â dim ond 45 yng Nghastell-nedd Port Talbot; mae gan Gaerffili 296 o ddisgyblion dan gynlluniau gweithredu gan yr ysgol a mwy, o gymharu â dim ond 35 yn Sir y Fflint; mae gan Gaerdydd 65 o ddisgyblion â datganiad yn asesu eu bod â dyslecsia difrifol, ac mae gan 10 cyngor rhwng dim un a phump o unigolion sydd â datganiad o ddyslecsia. O ystyried yr uchod, mae’n ymddangos bod yna lawer iawn o oddrychedd ar waith wrth asesu anghenion rhywun dyslecsig ac rwy’n pryderu bod yna anghysondebau anferth yn y ffigurau hyn. Mae’n ymddangos i mi fod pob awdurdod addysg lleol, a phob clwstwr o ysgolion o bosibl, â dull ychydig yn wahanol o asesu a dosbarthu. Os nodir bod y disgyblion hynny â dyslecsia, a’u bod yn methu cael y lefel gywir o gymorth, yna, Weinidog, mae’n rhaid i’r Llywodraeth geisio gwneud rhagor i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Dywedodd y Gweinidog addysg ar y pryd yn ôl ym mis Tachwedd 2014,
‘Mae angen mabwysiadu dulliau gweithredu ar gyfer dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol sy’n adeiladu ar ein polisïau addysg cyfredol, fel bod gennym drefniadau cyson a chadarn ledled Cymru’.
Weinidog, tybed a allwch ddweud wrthyf sut y mae hyn yn dod yn ei flaen ar ôl cyhoeddi’r fframwaith anawsterau dysgu penodol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015.
Trwy fy ymchwil ac ystod fy nghyfnod fel llefarydd addysg yr wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf wedi dod ar draws rhai syniadau ychwanegol yr hoffwn dynnu sylw’r Gweinidog atynt. Gwnaed gwaith o’r fath gan Simon Leyshon o Moon Hall College, ysgol sy’n uchel ei pharch ar gyfer rhai â dyslecsia yn Reigate, Surrey. Mae ef o’r farn fod y system bresennol o arholiadau cyhoeddus yn ei gwneud yn anodd iawn i rai â dyslecsia mwy difrifol i lwyddo mewn system arholi sydd wedi’i hanelu tuag at brofion sy’n seiliedig ar y cof. I fynd i’r afael â hyn, mae angen i dri ymyriad addysgol allweddol ddigwydd, ochr yn ochr â chynlluniau dysgu unigol: rhaid newid meddylfryd y plentyn dyslecsig yn feddylfryd tuag at ddysgu cadarnhaol—’gallaf wneud’ yn hytrach na ‘ni allaf’; ffocws clir ar Saesneg a mathemateg yn nysgu dyddiol y plentyn; a datblygu cwricwlwm gweithredol, sef diwrnod addysgiadol strwythuredig gyda ffocws ar hyfforddi a dysgu annibynnol, wedi’i rannu’n flociau amrywiol o amser, gyda sesiynau ailffocysu a chyfleoedd i archwilio astudiaethau sydd o ddiddordeb i’r dysgwr.
Mae pecyn adnoddau Saesneg a mathemateg yn hanfodol i hyder a datblygiad cyffredinol y dysgwr dyslecsig. Ac mae hyn yn cyd-fynd â llawer o’r hyn a glywais gan rieni a gofalwyr. Mae rhwystredigaeth system arholi sy’n mynnu bod plant yn sefyll arholiadau’n gynnar—gallech wneud rhywbeth am hyn, Weinidog—pan fo angen pob munud ar rywun â dyslecsia i fod yn barod, yr amser ychwanegol nad yw byth yn cael ei roi yn ystod y profion darllen a rhifedd cenedlaethol blynyddol a ffug arholiadau, sydd felly’n hybu ymdeimlad o fethiant ac yn ychwanegu at y straen y mae’r plentyn a’r rhiant eisoes yn ei wynebu. Tybed a wnewch chi edrych i weld sut y gellid sicrhau rhyngwyneb rhwng y cwricwlwm gweithredol a datblygiadau Dyfodol Llwyddiannus mewn addysg yng Nghymru. Roedd yn galonogol gweld datganiad y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yr wythnos diwethaf. Rwy’n gobeithio y bydd yn gwireddu ei haddewid i roi dysgwyr, rhieni a gofalwyr wrth wraidd y broses. Mae cyhoeddi cronfa arloesi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gyffrous a hoffwn wybod, Weinidog, sut y gellid ei defnyddio, yn rhannol, i gynorthwyo plant dyslecsig.
Gall pobl â dyslecsia fyw bywydau llwyddiannus a llawn iawn, ond maent angen cymorth. Ni ddylem weld cyfraddau diagnosis gwahanol ar draws Cymru ac ni ddylem gael gweithwyr proffesiynol yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u hyfforddi’n ddigonol i ymdrin â’r broblem. Mae gan bobl â dyslecsia ffordd unigryw o weld pethau. Mae’n fywyd drwy lens wahanol ac yn aml gall fod yn her, ond rhaid i ni sicrhau mai gwahaniaeth yw dyslecsia, nid anabledd. Mae edrych drwy lens wahanol yn brofiad unigryw a gall fod yn hynod o werth chweil. Diolch.
Hoffwn longyfarch Angela am gyflwyno’r ddadl, fel rhywun sydd â dyslecsia. Rwy’n ei ystyried yn ddiddorol, weithiau, pan fyddwch yn edrych ar rai tudalennau, neu ar rai pethau rydych yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt, ac yna, yn amlwg, mynegi eich hun. Ond efallai fod y cardiau wedi’u delio’n wahanol i rai pobl, ac yn amlwg, gwnaed iawn am fy nyslecsia gan fy wyneb golygus wrth ddelio’r cardiau ar ddechrau bywyd. [Chwerthin.]
Rwy’n meddwl bod sylwedd araith Angela yn crisialu’n bendant fod angen gwneud mwy. Dro ar ôl tro, down yma a dweud, ‘Mae angen gwneud mwy ynglŷn â phroblem A, problem B a phroblem C’, ond pan edrychwch ar y niferoedd y mae Angela wedi nodi yma—rhywle rhwng 300,000 a 500,000 o bobl, ar hyd eu bywydau, yn cael problemau gyda dyslecsia i wahanol raddau—a’r cymorth y gellid ei roi ar waith ar ddechrau’r system addysg, gellir ei roi yno os yw’r ewyllys yno ar lefel awdurdod lleol, ac yn wir, yn ôl cyfarwyddyd y Llywodraeth. Byddwn yn erfyn ar y Llywodraeth i gael rheolaeth ar y sefyllfa hon, oherwydd, fel y dangosodd Angela yn ei chyfraniad, mae yna wahaniaethau mawr ledled Cymru, a’r unig reswm y mae’r gwahaniaethau hynny yno yw oherwydd bod y cymorth wedi’i gadw’n ôl mewn ardaloedd cod post penodol, hynny yw mewn ardaloedd awdurdodau lleol, am resymau ariannol. Nid yw hynny’n ddigon da yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain.
Yn fy sylwadau i gloi hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a rhoi teyrnged i’r hyfforddwr a fu’n fy nghynorthwyo i, Mr Wilson, sydd, yn anffodus, wedi ymadael â’r fuchedd hon ers tro byd, a rhoddodd hyder a gallu i mi mewn gwirionedd i oresgyn y problemau a oedd gennyf gyda dyslecsia. Heddiw, yn niffyg rheswm gwell, rwy’n sefyll yma ac yn dadlau a thrafod. Efallai y bydd rhai pobl yn cwyno ac yn gwarafun hynny, ond rwy’n gwneud hynny. [Torri ar draws.] Gallai fod wedi bod mor wahanol. Rwyf hefyd yn talu teyrnged i’r athro Ffrangeg druan a’r athro Lladin a geisiodd ddysgu Lladin a Ffrangeg i mi. Nid yw ceisio dysgu Lladin a Ffrangeg i rywun dyslecsig yn ateb i broblem dyslecsia, gallaf eich sicrhau. Ond os gwelwch yn dda, Weinidog, byddwch yn gadarnhaol yn eich cyfraniad i’r ddadl hon heddiw. Mae yna atebion i’w cael, ond mae angen cyflwyno’r atebion hynny.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ddadl. Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ag Andrew i’r Siambr, mewn pob math o ffyrdd gwahanol. Rwy’n meddwl mai’r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw fy mod yn sicr yn cydnabod y darlun sydd wedi’i baentio i ni y prynhawn yma. Nid fy mhwrpas wrth ymateb i’r ddadl hon yw ceisio naill ai anwybyddu’r realiti na phaentio darlun gwahanol. Mae angen ymateb i unrhyw achos sy’n cynnwys Leonardo da Vinci a Sam Allardyce yn ddifrifol dros ben.
Rwy’n credu mai’r hyn a wnaeth fy nharo yn yr araith, yr araith ardderchog, a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, oedd y frawddeg fod gennych ddyletswydd i gymdeithas ehangach. Rwy’n credu bod hynny’n gwbl allweddol. Mae’r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â chysondeb yn bethau rwy’n eu cydnabod ac yn faterion y credaf fod angen i ni fynd i’r afael a hwy ac rwy’n gobeithio y byddwn yn mynd i’r afael â hwy.
A gaf fi ddweud hyn wrth ymateb i’r hyn sydd wedi cael ei ddweud? Mae gwlad sy’n methu rhoi chwarae teg i rai o’r myfyrwyr mwyaf agored i niwed yn wlad sy’n methu. Nid fy nymuniad, ac yn sicr nid fy mwriad, yw caniatáu i unrhyw blentyn ddisgyn drwy’r rhwyd a ddisgrifiwyd gennych, na rhoi teuluoedd a rhieni drwy’r sefyllfa o orfod ymladd ac ymgyrchu dros bob elfen o gymorth y mae eu plentyn ei angen ac yn ei haeddu, a dylai fod ar gael iddynt fel hawl. Gadewch i mi ddweud hyn: dros y misoedd nesaf rwy’n gobeithio y byddwn yn cael dadl ynglŷn â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rwy’n falch fod yr Aelod wedi cyfeirio at y rhaglen drawsnewid y gwnaed datganiad yn ei chylch dros y dyddiau diwethaf.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: byddwn yn gwahodd yr Aelod i chwarae rhan lawn ac i ymgysylltu â ni yn y ddadl a’r drafodaeth honno. Gwn fod y gwaith a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf ar y mater hwn yn cael ei barchu ledled y Siambr hon, ac rwy’n sicr yn nodi ac yn talu sylw i’r achos a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf. Rwy’n adnabod Angela yn rhy dda—gwn na fydd hi’n gollwng ei gafael ar hwnnw yn y Cynulliad hwn. Hoffwn eich gwahodd i gymryd rhan yn y ddadl a’r drafodaeth y byddwn yn ei chael.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny. Yn wir, Weinidog, gwn fod fy swyddfa yn ceisio cael gafael arnoch heddiw gan fy mod newydd orffen dadansoddiad cyflawn o awtistiaeth mewn perthynas â’r problemau mwyaf cyffredin y mae plant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn eu hwynebu, oherwydd roeddwn yn ceisio’ch lobïo chi. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud yn gyhoeddus, os gallech fy ffonio a rhoi amser a dyddiad i mi, oherwydd fe hoffem drafod hynny â chi, ac o ran dyslecsia, cyfoethogi a gwneud gwahaniaeth i’r Bil angenion dysgu ychwanegol rydym yn edrych ymlaen at ei weld ar y llyfr statud yma.
Mae’n edrych yn debyg fy mod yn mynd i ddifaru bod mor hael. [Chwerthin.] Byddaf yn bendant yn sicrhau ein bod yn cysylltu â’n gilydd, a’n bod yn trefnu’r sgyrsiau hynny. Mewn sawl ffordd, er ein bod yn eistedd ar wahanol ochrau i’r Siambr, rwy’n gwybod bod yr uchelgais yn cael ei rhannu, ac nid wyf yn credu bod y materion hyn yn faterion gwleidyddol. Nid wyf yn meddwl yn syml eu bod yn fater ar gyfer Llywodraeth a gwrthblaid chwaith. Rwy’n credu eu bod yn fater i ni gael pethau’n iawn i rai o’r myfyrwyr mwyaf agored i niwed yn y wlad, ac mae gennym gyfrifoldeb llwyr a dyletswydd i wneud hynny. Gobeithiaf y bydd y Llywodraeth hon yn helpu i gyflawni’r ddyletswydd honno.
Ond rwyf hefyd yn cydnabod na all Llywodraeth mewn unrhyw ddemocratiaeth gyflawni’r ddyletswydd honno ar ei phen ei hun, a bod y broses seneddol o graffu ar ddadl, ar drafodaeth, yn gwbl hanfodol i greu deddfwriaeth dda, ac i greu fframwaith deddfwriaethol i weithwyr proffesiynol allu arfer eu crebwyll a gallu darparu’r math o ragoriaeth mewn cymorth rydym i gyd am ei gweld. Felly, mae’r Llywodraeth yn sicr yn derbyn ei chyfrifoldebau, ond rydym yn cydnabod y rôl sy’n cael ei chwarae gan bawb sy’n eistedd yn y Siambr hon.
Ac rwy’n gobeithio, dros y misoedd nesaf, wrth i ni gael y ddadl hon, y byddwn yn gallu cael y math hwn o drafodaeth gyfoethog ynglŷn â’r ffordd orau i ni gyflawni’r math o fframwaith statudol a rhaglen drawsnewidiol a fydd yn darparu ar gyfer pobl ar draws y wlad i gyd. A gadewch i mi ddweud hyn: bydd y Llywodraeth yn bwrw i’r drafodaeth honno gyda haelioni a chyda disgwyliad y byddwn yn ymestyn allan ar draws yr eiliau, fel y buasai’r Americanwyr yn ei ddweud, er mwyn mynd ati i geisio cefnogaeth ar draws y Siambr ar hynny, a bydd yn derbyn lle y mae’n credu y gallem fod wedi gwneud pethau’n anghywir. Felly, yn sicr, nid fy nymuniad i yw mynd ar drywydd deddfwriaeth gan ddefnyddio pwysau rhifau; mae’n broses ddeddfwriaethol a fydd yn cymryd rhan yn y ddadl ar raddfa eang yma yn y Siambr, yn ein pwyllgorau, ac yn y wlad, er mwyn cael pethau’n iawn, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysicach, yn y pen draw, ac rwy’n sicr yn edrych ymlaen at y sgyrsiau a gawn ar hynny.
A gaf fi ddweud hyn? Mae’r materion a grybwylloch ynglŷn â chysondeb yn fy mhryderu’n fawr iawn. Mae yna ddiffyg cysondeb o ran diagnosis—rydym yn siarad am ddyslecsia y prynhawn yma, ond gallech yn hawdd nodi hynny am nifer o faterion a chyflyrau gwahanol, ac mae eich ymyriad ar awtistiaeth yn enghraifft o hynny, a byddwn yn synnu pe na bai diagnosis yn rhan o’r casgliadau y daethoch iddynt. Felly, gadewch i ni edrych ar sut y gallwn sicrhau cysondeb—cysondeb yn y gallu i gael diagnosis teg, cysondeb, wedyn, yn y cynlluniau sy’n cael eu rhoi at ei gilydd ar gyfer pob person unigol, myfyriwr, disgybl, sut bynnag rydych am ddisgrifio’r unigolyn, ac yna cysondeb yn y ddarpariaeth hefyd. Oherwydd er ein bod fel gwleidyddion yn credu y gellid datrys holl broblemau’r byd drwy bleidlais yn y lle hwn neu drwy greu fframwaith deddfwriaethol newydd neu wahanol, un o’r pethau rwyf wedi’u dysgu yn y blynyddoedd y bûm yn Aelod yma, a’r hyn rwy’n meddwl ein bod i gyd yn ymwybodol iawn ohono, yw mai’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yw’r hyn sy’n bwysig mewn gwirionedd, ac mae hynny’n golygu ein bod yn dibynnu ar weithlu rhagorol, llawn cymhelliant sydd â’r arfau deddfwriaethol a’r strwythurau ar gael iddynt i’w galluogi i wneud eu gwaith, ond sydd hefyd â’r adnoddau a’r cymorth i allu darparu hynny ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr. Ac yn sicr, mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud hynny.
Gadewch i mi ddweud hyn: mae yna brotocolau wedi’u sefydlu ynglŷn â thrafod amserlenni, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n maddau i mi os nad wyf yn rhy benodol y prynhawn yma. Ond byddwn yn cyflwyno’r Bil anghenion dysgu ychwanegol cyn y Nadolig, gyda chaniatâd y Llywydd, ac yna byddwn yn ceisio cael trafodaeth weithredol a rhagweithiol ar draws y wlad. Byddwn yn cyhoeddi’r canllawiau statudol cyn gynted â phosibl ar ôl y Nadolig—ddechrau Chwefror, rwy’n rhagweld—i alluogi trafodaeth ac archwiliad o’n cynigion nad yw’n dibynnu’n unig ar y ddeddfwriaeth sylfaenol ond hefyd ar y canllawiau statudol a fydd yn darparu’r ddeddfwriaeth sylfaenol honno. Ac rwy’n meddwl ei bod ond yn iawn ac yn deg fod pobl sydd â diddordeb yn y maes yn gallu edrych ar yr ystod gyfan o arfau deddfwriaethol rydym yn ceisio eu rhoi ar waith a fydd yn ein galluogi i gael y ddadl lawer cyfoethocach honno y soniais amdani’n gynharach.
Felly, byddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn ceisio cael sgyrsiau gyda gwahanol grwpiau o bobl, gydag ymarferwyr a’r rhai sydd â diddordeb yn y maes, yn ogystal ag Aelodau yma. Byddwn yn ceisio cael y ddadl honno, a fydd yn ymwneud â gwrando—â gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, gwrando ar y profiadau rydych wedi eu disgrifio y prynhawn yma ac y mae eraill wedi’u disgrifio ar adegau eraill, ac yna ymateb, oherwydd mae gwrando’n bwysig, ond hefyd mae clywed yr hyn sy’n cael ei ddweud yn bwysig. A phan fyddaf yn siarad am y broses o drafod a dadlau, rwy’n gobeithio, fel Llywodraeth, y byddwn yn gallu, pan fydd y Cynulliad yn cyrraedd y pwynt pan yw’n hapus i symud y mater hwn yn ei flaen, yna byddwn yn gallu cael Bil sy’n mynd gerbron y pwyllgor na fydd yn dod yn bêl-droed wleidyddol ond lle byddwn, gyda’n gilydd, ar y cyd yn ceisio gwella’r ddeddfwriaeth yn y fath fodd fel ei bod yn darparu’r math o ganlyniadau sydd—. Iawn, fe wnaf.
A wnewch chi gymryd ymyriad arall? Diolch yn fawr, ac rwy’n hynod, hynod o ddiolchgar am yr ymateb hynod gadarnhaol hwnnw. Mae yna un maes, fodd bynnag, y credaf ei fod yn gyfan gwbl o fewn eich pŵer heddiw i wneud gwahaniaeth, sef ynglŷn â phan ddywedir wrth blentyn dyslecsig, ‘Rydych yn y fan hon ar y raddfa’ ac felly, ‘pan fyddwch yn mynd i wneud eich TGAU, rydych yn mynd i gael 25 y cant o amser ychwanegol’ neu ‘50 y cant o amser ychwanegol.’ Mae hynny’n wych, ond y broblem yw, yr holl ffordd drwodd, ar ôl cael diagnosis, ni chaniateir yr amser hwnnw iddynt mewn unrhyw brofion statudol eraill. Felly, mae plant yn teimlo’n ofnadwy o ddigalon am eu bod yn meddwl eu bod yn fethiant. Nid ydynt yn cael yr hanner awr ychwanegol, y 50 y cant ychwanegol, ar gyfer y ffug arholiadau ac yn y blaen.
Y maes arall, y gallai eich cyd-Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, ei ystyried efallai, yw’r system arholiadau cynnar, oherwydd, unwaith eto, os ydych yn blentyn dyslecsig, rydych angen eich dwy flynedd i ymdopi â’r pwnc ac rydych yn gorfod ei sefyll flwyddyn yn gynnar neu chwe mis ynghynt oherwydd bod yr ysgol wedi penderfynu cofrestru pawb ar gyfer arholiadau cynnar ac ni chaniateir i chi eithrio ohono ar hyn o bryd, yn ôl yr ysgolion. Dyna ddwy eitem lle y gallech chi, fel Gweinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet, wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant heddiw.
Mae eich sylwadau wedi’u cofnodi a byddaf yn eu dwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet a byddwn yn ysgrifennu atoch mewn ymateb i hynny ac yn ceisio gwneud hynny’n gadarnhaol; nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl ynglŷn â geirwiredd y pwyntiau a wnaethoch.
O ran y diwygiadau rydym yn ceisio eu gwneud, rydym am gael system lle y mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, yn cael sylw’n gyflym, a lle y caiff dysgwyr eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial yn yr union ffordd a ddisgrifiwyd. Rydym eisiau i gynlluniau fod yn hyblyg ac yn ymatebol, rydym eisiau gweithwyr proffesiynol medrus, sy’n hyderus i nodi anghenion ac sy’n gallu defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn y rhwystrau hynny, ac mae hynny’n golygu darparu’r cymorth.
Un o’r sgyrsiau rwyf wedi bod yn eu cael dros yr ychydig fisoedd diwethaf—prif ffocws y sgyrsiau hyn yn naturiol ac yn anochel yw deddfwriaeth; mae hynny’n anochel, ac nid oes gennyf broblem gyda hynny. Ond yr hyn rwy’n ceisio dweud o hyd wrth bobl yw, ‘Iawn, fe newidiwn y gyfraith; iawn, fe wnawn ni greu fframwaith statudol newydd; iawn, fe wnawn ni ddarparu canllawiau statudol; iawn, byddwn yn sicrhau y bydd gennym gefnogaeth o ran hyfforddiant, datblygu’r gweithlu, cynllunio’r gweithlu a chyllid i alluogi pobl i gyflawni hyn, ond wyddoch chi beth? Rhaglen drawsnewid ehangach sy’n mynd i sicrhau’r newid go iawn.’ Bydd, fe fydd y ddeddf newydd yn galluogi hyn i ddigwydd, bydd y canllawiau statudol yn sicrhau ei fod yn digwydd ar draws y wlad gyda’r un cysondeb yn union ag a ddisgrifiwyd, ond yn y pen draw, rydym yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol medrus i ddarparu’r gwasanaeth. Ac i mi, y ddarpariaeth sy’n cyfrif mewn gwirionedd. Mae hynny’n rhywbeth sy’n sylfaenol, ac yn sylfaenol i’n huchelgais. Mae’n newid go iawn i’r system ac weithiau mae’n newid diwylliant yn ogystal. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu darparu hynny mewn ffordd y credaf y bydd yr Aelodau ar bob ochr i’r Siambr am ei weld.
Felly, i gloi, Lywydd dros dro, gadewch i mi ailadrodd unwaith eto fy ymrwymiad i weithio gyda’r Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon, nid i herio’r pwyntiau a wnaed mor dda y prynhawn yma, ond i ddatrys y problemau hynny. Gobeithiaf y byddwn yn gallu parhau i weithio ar y cyd i gydgynllunio a chyflwyno diwygiadau er mwyn sicrhau systemau newydd cynaliadwy cadarn a thrylwyr. Mae’n cynnwys gweithio gyda phartneriaid newydd—gyda phartneriaid cyflawni—er mwyn gallu pontio o’r system bresennol i ddull newydd o weithredu. Os yw’n mynd i lwyddo, rhaid i’r dull gweithredu newydd hwnnw allu datgloi potensial ein pobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai â dyslecsia, ond gwyddom nad yw’n gyfyngedig i rai â dyslecsia. Rwyf am i bawb yn y wlad hon gyrraedd eu potensial llawn. Gallai fod yn adeg gyffrous iawn ac yn agenda gyffrous. Mae’n un sy’n wynebu heriau sylweddol, ond rwy’n gobeithio ac rwy’n gwybod bod yr Aelodau ar draws y Siambr hon yn ymrwymedig i’w chyflawni a gobeithiaf y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni ar gyfer y bobl hynny. Diolch.
Diolch i chi i gyd. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw.