<p>Mynd i’r Afael â Chlymog Japan</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:22, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rydych yn ymwybodol, yn amlwg, o ganlyniadau’r treialon cemegol a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe. Fe’u cyhoeddwyd y llynedd, ac rwy’n credu mai’r hyn a ddangosent oedd nad oedd un ateb gwyrthiol, mewn gwirionedd, mewn perthynas â mynd i’r afael â’r planhigyn eithriadol o anodd hwn. Cafwyd cyfres wedi’i chynllunio o driniaethau, sy’n gwbl allweddol i gael rheolaeth effeithiol. Nid wyf yn gwybod a yw’r Aelodau’n ymwybodol o hyn, ond ers i’r treial ddod i ben, mae’r chwynladdwr mwyaf effeithiol a brofwyd, piclorum, bellach wedi’i dynnu oddi ar y farchnad. Rydym yn parhau i ariannu prosiectau rheoli biolegol, ac mae hynny mewn gwirionedd yn adeiladu ar lwyddiannau’r treialon blaenorol. Bydd y cyfnod rydym yn edrych arno yn awr yn canolbwyntio ar sefydlu llyslau a’u rhyddhau i ystod ehangach o safleoedd, gan ddefnyddio dulliau rhyddhau gwell gyda stoc newydd o lyslau o Japan. Rwy’n credu mai’r nod yw i’r pryfed lethu grym clymog Japan fel nad yw’n rhywogaeth mor ymosodol o oresgynnol ag y mae ar hyn o bryd.