<p>Mynd i’r Afael â Chlymog Japan</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:23, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ofyn y cwestiwn. Amcangyfrifir bod clymog Japan yn costio £165 miliwn i economi’r DU bob blwyddyn, ac mae’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi rhybuddio y gallai effeithio mor niweidiol ar werth eiddo nes ei wneud yn ddiwerth. Dywedodd y Gweinidog blaenorol bod ysglyfaethwr naturiol wedi’i ganfod a fydd yn helpu i reoli clymog Japan a’i fod yn cael ei dreialu yn Abertawe. Gofynnaf i’r Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet—a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â chyflwyno’r treial: pa mor llwyddiannus ydoedd ac a oes gennych unrhyw fwriad i ddefnyddio gorchymyn rheoli arbennig yn y dyfodol i fynd i’r afael â’r broblem hon?