<p>Troseddau Tirwedd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:49, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Costiodd y broses o glirio deunydd a dipiwyd yn anghyfreithlon bron i £385,000 i gynghorau yn Nwyrain De Cymru yn 2014-15. Mae tipio anghyfreithlon yn niweidio’r dirwedd a chynefinoedd naturiol ac yn effeithio’n andwyol ar dwristiaeth, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, ac mae hefyd yn berygl iechyd i bobl sy’n cerdded gyda’u plant a’u hanifeiliaid anwes. Yn Nwyrain De Cymru, mewn gwahanol fannau, o dan bontydd, y tu ôl i safleoedd bws, y tu ôl i lwyni, pan fyddwch yn croesi ffyrdd bychain, a hyd yn oed ar rai ffyrdd deuol, mae tipio anghyfreithlon yn broblem ddifrifol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â phroblem tipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru a chael gwared ar y broblem hon, fel Singapore yn y dwyrain pell, sy’n cosbi’r bobl sy’n cyflawni trosedd o’r fath yn llym? Diolch.