<p>Pecynnau Bwyd Polystyren</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:02, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ni welais y rhaglen, ond rwyf wedi darllen amdani heddiw, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cymru yn bendant yn arwain ym maes ailgylchu. Pe baem yn aelod-wladwriaeth yn Ewrop, byddem yn bedwerydd drwy Ewrop, ond yn sicr, rydym ar y blaen yn y DU.

O ran eich cwestiynau penodol ynglŷn â pholystyren, nid wyf yn hollol siŵr pam eich bod yn credu hynny, gan ein bod wedi gwneud rhywfaint o ddadansoddi data mewn perthynas â hyn, ac nid ystyrir polystyren yn un o’r prif gyfranwyr at sbwriel yng Nghymru, ac eithrio ar lefel leol iawn, ger eiddo sy’n darparu bwyd brys, er enghraifft. Siopau bwyd brys annibynnol sy’n tueddu i ddefnyddio’r pecynnau bwyd polystyren hyn—nid yw’n cael ei ddefnyddio lawer ledled Cymru. Fodd bynnag, ni ddylid croesawu unrhyw sbwriel, ac rwy’n fwy na pharod i edrych ar bethau eraill.

Mewn perthynas ag ardoll ar bolystyren, unwaith eto, a fyddai pobl yn mynd—nid yw’r un fath â bag siopa—a fyddai pobl yn mynd â chynhwysyddion gyda nhw i gael eu bwyd? Felly, credaf fod angen i ni ystyried ymyriadau eraill cyn cyflwyno ardoll. Ond mae gennyf gryn ddiddordeb mewn deunydd pacio—wyddoch chi, cwpanau coffi untro. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â hyn, i edrych a oes angen i ni ddeddfu, ac unwaith eto, yn fy nghyfarfod yfory gydag Andrea Leadsom, mae hyn ar yr agenda.