<p>Gwahardd Ffioedd Asiantaethau Gosod</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:02, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi dwyn fy nghwestiwn, ond rwyf am ei ofyn ar gyfer y cofnod beth bynnag.

Yn wyneb y mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymuno â Lloegr—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, nid yw cwestiynau’n cael eu dwyn yn y lle hwn. Mae rhywun wedi gofyn eich cwestiwn cyn i chi ei gyrraedd. Felly, gofynnwch y cwestiwn ar y papur trefn.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 29 Tachwedd 2016

5. Yn sgil y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymuno â'r Alban a Lloegr a gwahardd ffioedd asiantaethau gosod? OAQ(5)0306(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n fater o ble mae cwestiynau’n cael eu gofyn, wrth gwrs, pan fydd y pethau hyn yn codi, ond rhoddaf yr un ateb i’r Aelod a roddais i arweinydd Plaid Cymru, sef: rydym ni’n astudio effaith y gwaharddiad yn yr Alban ac, ynghyd â manylion terfynol cynigion yn Lloegr, bydd hynny’n llywio unrhyw gamau a gymerwn. Ac fel y soniais yn gynharach, diolchaf i'r Aelod am yr eiriolaeth y mae hi wedi ei ddangos ar ran cymaint o denantiaid yn ei hetholaeth, lle maen nhw wedi dioddef camfanteisio am rai blynyddoedd. Mae hwn yn fater y gwn ei bod hi wedi bod yn weithgar iawn o ran ei wrthwynebu.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:03, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Dim ond i roi rhai manylion ar esgyrn y mater hwnnw, mae gennyf wybodaeth fod Cyngor ar Bopeth yn dweud mai £337 yw’r ffi tenantiaeth gyfartalog, mae Shelter yn dweud bod 15 y cant o rentwyr yn defnyddio asiantaeth lle bu’n rhaid iddyn nhw dalu hyd at £500 neu fwy, ac mae tenantiaid yng Nghaerdydd wedi dweud bod ffioedd oddeutu £450.

Mae gormod o asiantau, yn sicr yn gweithredu yn fy etholaeth i, yn codi lefelau ffioedd sy’n camfanteisio, yn aml yn llawer uwch na’r gost wirioneddol, a hefyd yn ychwanegu ffioedd cudd, yn aml i bobl sy'n ifanc iawn ac yn gweithio eu ffordd trwy beth yw eu hawliau yn betrus. Gallwch godi £60 neu fwy am archwiliad credyd—archwiliad y bydd y cwmni’n ei gynnal am gyn lleied â £5. Gall y ffi adnewyddu am aros yn yr un cartref fod mor uchel â £300, pan ei fod yn aml yn gyfystyr â fawr mwy nag argraffu contract i’w lofnodi. Felly, mae gormod o asiantau diegwyddor wedi gallu codi ffioedd gormodol a chodi tâl dwbl ar landlordiaid.

Hoffwn gyfeirio'r Prif Weinidog at adroddiad gan Shelter. Mae gwaith ymchwil Shelter yn dangos—nid yw’n ymwneud â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn unig—nad oedd landlordiaid yn yr Alban yn ddim mwy tebygol o fod wedi codi rhent uwch ers 2012 na landlordiaid mewn mannau eraill yn y DU. Felly, a allwch chi gadarnhau nad yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru camau i atal asiantau gosod rhag codi tâl afresymol a chudd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gallaf, mi allaf gadarnhau hynny. Mae’r Aelod, wrth gwrs, yn cyflwyno achos cryf dros ddiddymu ffioedd o'r fath. Gwn fod y Gweinidog yn edrych yn ymarferol ar sut y gellir bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol ac yn archwilio'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r Alban.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:05, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, ymddengys y bu rhywfaint o ddryswch ar y pryd—pan drafodwyd hyn gennym o'r blaen, yn y Cynulliad blaenorol—ynghylch pa un a oedd y pwerau gennych chi ai peidio. Ac rwy’n deall eich bod wedi gallu rhoi cyngor i Aelodau Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn awgrymu nad oedd, mewn gwirionedd, yn gyfreithlon i chi wneud hynny, rhywbeth na rannwyd gyda’r gweddill ohonom ni yn rhan o'r ddadl benodol honno. Hoffwn ofyn yma heddiw, Brif Weinidog, os ydych chi’n bwriadu cyflwyno unrhyw ddadl yn y dyfodol neu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, a wnewch chi rannu’r cyngor hwnnw gyda’r Cynulliad, fel y gallwn ei ddadansoddi’n annibynnol fel y gallwn asesu’r ffordd ymlaen, gan ei bod hi’n ymddangos ein bod ni’n clywed un peth gan aelodau'r meinciau cefn a rhywbeth arall gan y Llywodraeth.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'r Aelod yn aelod o'r grŵp ar yr ochr hon i'r Siambr, a mater iddi hi yw sut y mae hi'n ymwybodol o'r hyn a ddywedwyd ac na ddywedwyd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod unrhyw beth yn agored i her bosibl, oherwydd natur annigonol ein setliad datganoli, a dyna pam, er na fanteisiwyd ar y cyfle’n iawn gan Lywodraeth y DU, bod angen i ni wneud yn siŵr bod mwy o eglurder. Ein bwriad fydd bwrw ymlaen ar y sail y byddwn yn gwneud dros bobl Cymru yr hyn a gynigir yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth, Llywodraeth y DU yn Lloegr, byddwn yn dadlau, eisoes wedi cyfaddef beth bynnag ei bod yn credu bod hyn wedi ei ddatganoli, oherwydd dim ond am Loegr y maen nhw wedi sôn yn hyn o beth, yn rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol i unrhyw gyfeiriad posibl at y Goruchaf Lys yn y dyfodol.

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:06, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae’r ffioedd hyn yn codi dipyn o arswyd. Nid oes llawer o nwyddau a gwasanaethau y codir tâl arnynt am y broses o’u prynu, a cheir cefnogaeth eglur ym mhob rhan o’r tŷ i gamau gael eu cymryd ar hyn. Mae'r ffioedd hyn yn ystumio'r farchnad. Maen nhw’n anghymhelliad i symudedd llafur, a'r profiad eglur yn yr Alban yw y byddai'r ffioedd yn cael eu talu gan y rhai sy'n cynnig cartrefi i'w rhentu, a dyna ble maen nhw wedi bod yn draddodiadol.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn dadlau yn erbyn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud; mae’r dystiolaeth honno y mae Shelter wedi ei chynhyrchu o ran yr Alban yn ddefnyddiol ac yn dystiolaeth gref a fydd yn llywio'r ffordd ymlaen cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn.