1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
7. Sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu defnyddio cyllid ychwanegol i Gymru sy'n deillio o Ddatganiad yr Hydref? OAQ(5)0296(FM)
Byddwn yn canolbwyntio ar adfer yn rhannol y toriadau blaenorol i’n cyllideb gyfalaf a orfodwyd gan Lywodraeth y DU a chyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'.
Diolch. Brif Weinidog, bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer seilwaith—newyddion da. A wnewch chi sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr arian ychwanegol hwn, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Sir Fynwy, fy etholaeth i, sy'n derbyn un o'r setliadau llywodraeth leol isaf ond a fyddai wir yn elwa ar fuddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith a phrosiectau fel cytundeb dinas Caerdydd a metro de Cymru?
Mae Sir Fynwy yn rhan o’r ddau brosiect, wrth gwrs. Mae Sir Fynwy yn rhan weithredol o gytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac yn sicr mae arweinydd Sir Fynwy wedi bod yn rhywun sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth symud y cytundeb hwnnw yn ei flaen, a’r metro hefyd. Ceir cyfleoedd i Sir Fynwy elwa ar y metro, yn enwedig wrth i ni edrych ar well gwasanaethau bws a gwasanaethau rheilffordd ysgafn, o bosibl, i mewn i’w etholaeth yn y dyfodol.
Dangosodd datganiad yr hydref y Llywodraeth agwedd ddi-hid iawn gan y Torïaid tuag at argyfwng gofal sydd ar ddod, ac mae eu methiant i ddarparu ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy yn golygu y bydd pwysau aruthrol bellach ar y GIG. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymiad i weithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yn siŵr na fydd argyfwng o'r fath yn digwydd yng Nghymru?
Gwnaf, yn sicr. Rydym ni eisoes yn gwario 6 y cant yn fwy y pen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru nag sy'n wir yn Lloegr. Ni welsom y synnwyr erioed mewn cymryd arian oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn llenwi bylchau mewn cyllid iechyd, sef yr hyn a wnaeth Lloegr. Ni allwch ysgaru un oddi wrth y llall, a byddwn yn parhau i sicrhau bod digon o gyllid ar gael ar gyfer y ddau.
Mae rhywfaint o arian datganiad yr hydref yn Lloegr yn mynd i gael ei ddefnyddio i adeiladu gallu band eang hypergyflym trwy ffeibr i'r safle. Onid oes cyfle yma i ni yng Nghymru, wrth i ni ddechrau meddwl y tu hwnt i Gyflymu Cymru, yn hytrach na buddsoddi mewn monopoli sy'n eiddo preifat, sydd yn peri llawer o broblemau, fel y dangosodd penderfyniad Ofcom heddiw, greu rhwydwaith seilwaith digidol eiddo cyhoeddus i Gymru, rhywbeth y mae arweinydd ei blaid ar lefel y DU wedi galw amdano ar gyfer y DU yn ddiweddar?
Rwy'n credu ei bod yn sicr yn werth ymchwilio i hynny. Yr amcan uniongyrchol yw gwneud yn siŵr bod cynllun presennol Cyflymu Cymru yn cael ei ymestyn a'i gwblhau erbyn canol y flwyddyn nesaf. Y tu hwnt i hynny, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud na allwn eistedd yn ôl a dweud, 'Wel, dyna ni. Bydd y dechnoleg yn aros fel ag y mae am y bum mlynedd nesaf, y 10 mlynedd nesaf neu’r ddwy flynedd nesaf.' Felly, ydy, mae'n hynod bwysig parhau i fuddsoddi mewn mwy o led band a mwy o gyflymder, wrth gwrs, cyn belled ag y mae band eang yn y cwestiwn a byddwn yn parhau i ystyried hynny.