Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Rwyf innau, hefyd, yn credu bod hwn yn adroddiad ardderchog mewn gwirionedd, oherwydd ei fod yn nodi mor glir yr heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Felly, byddwn o ddifrif yn hoffi llongyfarch yr awduron, gan y credaf ei fod yn rhoi llawer i gnoi cil arno.
Mae'n berffaith amlwg o'r adroddiad hwn na all y GIG fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar ei ben ei hun, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus weithredu gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'n debyg mai un o'r graffiau mwyaf diddorol yw'r un sy’n dangos y canlyniadau ar gyfer gwybyddiaeth mewn plant sydd â statws economaidd-gymdeithasol uchel ac isel a sut y maent yn ymwahanu dros amser. Mae'n amlwg o'r graff fod plant dwl cyfoethog yn goddiweddyd y plant tlawd disglair erbyn iddynt gyrraedd pump oed, a'r unig ffordd y gallwn wrthsefyll y duedd hon yw drwy gael gofal plant cynhwysfawr ac addysg gynnar o ansawdd da iawn. Oherwydd cafodd ei ddangos mewn astudiaethau eraill mai dyna'r ffordd yr ydym yn curo’r agwedd benodol honno ar amddifadedd.
Ond rwy'n credu, o edrych ar y ffigurau gordewdra a ddyfynnir, chi'n gwybod, mae un o bob saith plentyn ym Merthyr yn rhy drwm neu'n ordew, o’i gymharu ag un o bob 14 ym Mro Morgannwg. Yn amlwg, mae cysylltiad ag amddifadedd, ond mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar gyflwyniad cyferbyniol y ffeithiau, sef nad yw chwech o bob saith plentyn ym Merthyr yn rhy drwm neu'n ordew, ac mae hynny'n rhywbeth i’w ddathlu. Mae'n dangos nad yw'n ffaith bendant bod y rhai sy'n byw ar incwm is o reidrwydd yn mynd i fod yn ordew. Mae'n gwbl anghywir bod bwyd da yn costio mwy o arian na bwyd sy'n isel o ran cynnwys maethol. Un o'r pwyntiau pwysicaf yn yr adroddiad yw’r gydberthynas rhwng siopau bwyd cyflym ac ardaloedd o amddifadedd, ac mae'n cyfeirio at adroddiad yn Lloegr sy'n dweud eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew os ydych yn byw yn agos at siop bwyd cyflym. Nid wyf yn credu bod hyn yn berthnasol i Loegr yn unig, gan fy mod wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad i arlwywyr Asiaidd yn ddiweddar yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe'i gwnaed yn berffaith glir yno, os ydych yn byw neu'n gweithio yn agos at siop bwyd cyflym, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew. Mae mor blaen â hynny. Felly, nid yw’n fater o fyw ar incwm isel; ond yr ymddygiadau sy'n eich arwain at fynd i siop bwyd cyflym, yn hytrach na gwneud eich bwyd eich hun, sy’n amlwg yn ffordd o osgoi'r pethau niweidiol sy'n cael eu hychwanegu at fwyd wedi'i brosesu er mwyn gwneud elw. Felly, byddwn yn awyddus i glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar bwysigrwydd y bwyd yr ydym yn ei roi i’n plant yn yr ysgol ac a yw e’n credu bod hon yn agwedd lle gallwn sicrhau bod pob plentyn, waeth beth yw arferion ei rieni, yn gallu blasu a phrofi bwyd da, plaen, er mwyn ei alluogi i dyfu i fyny yn bwyta deiet iach.
Yn ddiweddar, ymwelais ag un o'r ysgolion yn Sir y Fflint, sydd i gyd yn dilyn y rhaglen Bwyd am Oes. Maent wedi dyblu nifer y plant sy'n manteisio ar brydau ysgol, ac roedd hyn, meddai’r pennaeth, yn bendant wedi lleihau nifer y plant sy'n dod â bwyd anaddas mewn pecynnau i’r ysgol, sy'n golygu nad yw’r plant hynny mewn gwirionedd yn cael unrhyw faeth yn ystod y diwrnod ysgol. Felly, byddwn yn awyddus i gael gwybod beth mae’r Ysgrifennydd iechyd yn credu yw swyddogaeth awdurdodau lleol wrth hyrwyddo nid dim ond y canllawiau 'Blas am Oes', ond y canllawiau ‘Bwyd Da i Bawb’, sy'n sicrhau bod bwyd wedi’i baratoi yn ffres, yn dod o ffynonellau lleol ac yn cael ei weini’n ddyddiol i'n plant i gyd. Felly, rwy’n credu bod hwn yn adroddiad ardderchog mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl y dylem wrando ar eiriau Dr Mair Parry, o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy'n dweud bod Cymru'n parhau i gael y cyfraddau gwaethaf o ran gordewdra ymhlith plant yn y DU ac yn amlwg bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r diffygion hyn. Mae pryderon yn dal i fodoli ynghylch nifer y plant sy'n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd ac sy'n gwneud ymarfer corff, ac mae’n amlwg bod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd yma.
Rydw i wedi rhedeg allan o amser, ond mae'n debyg mai’r ffaith foel arall yw cyn lleied y mae cymunedau tlawd yn defnyddio deintyddion ac optegwyr. Wrth gwrs, mae'r rhain yn y ddau wasanaeth iechyd—o’u cymharu â meddygon teulu, y maent yn defnyddio llawer mwy arnynt mewn ardaloedd o amddifadedd—y rhain yw’r ddau wasanaeth lle’r ydych mewn gwirionedd yn gorfod talu amdanynt. Mae hyn yn amlwg yn un o'r pethau y mae angen i ni eu hystyried. Mae’n dweud wrthym nad yw pobl dlawd yn gallu cael mynediad at ddeintyddion neu gael sbectol pan fydd eu hangen arnynt, ac mae hynny'n fater pwysig iawn—byddai'n ddefnyddiol gwybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet.