10. 6. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:26, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei adroddiad, a chofnodi fy niolch i'r Athro Jones am gynnal yr achos yn dilyn ymddeoliad Dr Hussey.  Mae Dr Atherton yn ei gwneud yn glir mai’r her iechyd fwyaf sy'n wynebu ein cenedl yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein gwlad.  Dylai’r ffaith fod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein hardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yn tyfu fod yn sioc i ni i gyd.  Ni allwn sefyll yn segur tra gall y tlotaf yng Nghymru ddisgwyl byw 11 mlynedd yn llai na'r cyfoethocaf.

Mae’r rhesymau dros fodolaeth y graddiant cymdeithasol mewn iechyd yn gymhleth, ond mae ffactorau cyfrannol yn cynnwys diet gwael; camddefnyddio alcohol a smygu yn fwy cyffredin yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ; amodau tai tlotach; fflatiau aml-lawr heb ardd i blant chwarae ynddi, a chael yr ymarfer corff sydd ei angen; amodau llaith yn arwain at broblemau anadlu; a hefyd gyfraddau diweithdra uchel mewn ardaloedd tlotach. Mae pobl yn ein hardaloedd o amddifadedd mwyaf ddwywaith yn fwy tebygol o smygu na’r rheini sy'n byw yn ardaloedd mwy cefnog Cymru.  Mae angen cydweithio rhwng gwasanaethau a phartneriaethau i helpu gyda’r anghydraddoldebau hyn.

Er ein bod yn gwneud cynnydd o ran lleihau nifer yr ysmygwyr yn gyffredinol, mae mesurau rheoli tybaco wedi bod yn fwy llwyddiannus wrth leihau’r nifer sy’n dechrau nag annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau iddi.  Mae plant sydd ag o leiaf un rhiant yn smygu 72 y cant yn fwy tebygol o smygu yn ystod llencyndod, ac os yw'r ddau riant yn smygu, mae plant bedair gwaith yn fwy tebygol o ddechrau smygu nag ydynt os nad yw unrhyw riant yn smygu.  Felly, rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i annog rhieni i roi'r gorau i smygu.

Canfu astudiaeth ar gyfer y British Medical Journal bod ysmygwyr yn amcangyfrif yn rhy isel y risg o ganser yr ysgyfaint, o ran ysmygwyr eraill a rhai nad ydynt yn ysmygu, ac yn dangos camddealltwriaeth o risgiau ysmygu. Caiff hyn ei briodoli i’r ffaith nad ydym, fel rhywogaeth, yn dda iawn am werthuso risg yn y dyfodol. Nid yw dweud wrth rywun y gallant ddatblygu canser mewn 30 neu 40 mlynedd yn anffodus yn eu cymell i roi'r gorau i smygu. Fodd bynnag, rydym yn llawer gwell wrth werthuso risgiau i'n plant. Gall dweud wrth riant bod eu hymddygiad yn annog eu plant i smygu efallai gael y canlyniad a ddymunir.

Mae'n rhaid i ni dderbyn bod llawer o ysmygwyr yn ei chael bron yn amhosibl rhoi'r gorau iddi. Canfu ymchwil gan Ganolfan y DU ar gyfer Astudiaethau Tybaco ac Alcohol bod tua un o bob tri o ysmygwyr yn y DU ar hyn o bryd yn ceisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn, ond dim ond tua un o bob chwech o'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi sy’n parhau i ymwrthod am fwy nag ychydig wythnosau neu fisoedd.  Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi yn gwneud hynny heb gael unrhyw gymorth proffesiynol, ac nid yw’n ymddangos bod y rhai sy'n defnyddio triniaethau amnewid nicotin dros y cownter yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi na'r rhai nad ydynt yn cael help.

Fodd bynnag, mae’r rhai sy'n newid i e-sigaréts yn llawer mwy tebygol o roi'r gorau i dybaco.  Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn nodi er budd iechyd y cyhoedd, mae'n bwysig hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts, NRT a chynhyrchion nicotin eraill heb dybaco mor eang ag y bo modd i gymryd lle smygu yn y DU.

Mae Iechyd y Cyhoedd Lloegr yn argymell y defnydd o e-sigaréts fel dewis arall i smygu ac yn cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr yn dweud y gallant ystyried caniatáu pobl i ddefnyddio e-sigaréts yn y gwaith os yw'n rhan o bolisi i helpu ysmygwyr tybaco i roi'r gorau i'r arfer.  Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cymeradwyo brand o e-sigaréts i gael ei farchnata fel cymorth i helpu pobl i roi'r gorau i smygu.

Fel y mae’r prif swyddog meddygol yn ei ddweud yn yr adroddiad hwn, ni ddylai'r GIG wneud y graddiant cymdeithasol yn waeth.  Felly, rwy’n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i fabwysiadu dull tebyg i Loegr pan ddaw at e-sigaréts a'u swyddogaeth wrth leihau niwed gan dybaco.  Dylem fod yn annog yr ysmygwyr hynny sy'n annhebygol o roi'r gorau iddi i newid i e-sigaréts, gan dynnu sylw at y ffaith bod e-sigaréts 95 y cant yn fwy diogel na chynnyrch tybaco, yn hytrach na chanolbwyntio ar y niwed posibl o ddefnyddio e-sigaréts.  Diolch.  Diolch yn fawr.