– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Nick Ramsay i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. Nick Ramsay.
Diolch. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mark Isherwood. Ceir cyflwyniad agoriadol byr go wahanol ar ddechrau’r ddadl fer hon. Felly, a gaf fi ofyn yn gyntaf i bawb ohonoch gau eich llygaid am funud neu ddwy?
Diolch; gallwch agor eich llygaid yn awr. Y synau a glywsoch yw’r synau y mae pobl ddall a rhannol ddall yn eu clywed yn ddyddiol. Heb y gallu i weld, fel y gallwch ddychmygu, gall y synau hyn beri anesmwythdod mawr. Yn ddiweddar, euthum ar daith gerdded gyda mwgwd dros fy llygaid gyda chlwb i bobl sydd â nam ar eu golwg yn Nhrefynwy, a chefais brofiadau hynod o ddwys. Mae’r daith gerdded o bont Mynwy i ben uchaf y dref fel arfer yn syml, ond gyda mwgwd, roedd popeth yn wahanol. Ar ôl cyfnod byr o amser, roeddwn yn ddryslyd ac yn gwbl ddibynnol ar y bobl o fy nghwmpas am gefnogaeth. Roedd sŵn y traffig yn ddryslyd, ac roedd A-fyrddau manwerthwyr yn gwaethygu cymhlethdod peryglus y cwrs rhwystrau newydd hwn, fel y gwnâi’r llu o arwynebau gwahanol ar balmentydd a ffyrdd. Yn fyr, roedd yn gythraul o agoriad llygad, os mai dyna’r ymadrodd cywir. Wrth gwrs, roeddwn yn gallu tynnu fy mwgwd ar ôl i ni gyrraedd diogelwch cymharol tafarn Punch House ar ddiwedd fy nhaith, ond gwnaeth i mi feddwl, ‘Beth am fy ffrindiau newydd nad ydynt yn gallu gwneud hynny?’
Y rheswm dros y ddadl hon yw mai’r wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mae llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y wlad i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y llygaid a chael prawf llygaid. Rwy’n credu bod y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd wedi cael prawf llygaid ei hun yn ddiweddar, ond nid yw un o bob 10 o bobl yn cael prawf llygaid rheolaidd o hyd. Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli y gallai eu golwg ddioddef yn y tymor hir, a bod modd osgoi 50 y cant o achosion o golli golwg drwy ganfod a thrin yn gynnar. Dylai pawb gael prawf llygaid bob dwy flynedd. Os oes gennych ddiabetes neu hanes teuluol o glawcoma, dylech gael prawf bob blwyddyn.
Mae colli eich golwg yn effeithio ar bob rhan o’ch bywyd. Dyma’r synnwyr y mae’r rhan fwyaf o bobl fwyaf o ofn ei golli. Rwy’n mynd i siarad ychydig yn awr am y gwahanol bethau y mae pobl ddall a phobl rhannol ddall yn eu profi yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a sut y gall llunwyr polisi wneud hyn yn well i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Os nad ydych yn gallu gyrru, eich unig ddewis yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth a all fod yn anodd am sawl rheswm, nid yn lleiaf am nad yw gwybodaeth mewn safleoedd bws yn cael ei darparu yn y fformatau mwyaf hygyrch yn aml. Yn 2015, canfu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion Cymru ac ymchwil Guide Dogs Cymru ar gyfer ‘Dewch gyda ni’ fod llawer o broblemau’n wynebu pobl ddall a rhannol ddall wrth iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus: digwyddiadau fel anghwrteisi i deithwyr rhannol ddall am godi llaw i stopio’r bws anghywir am ei bod yn rhy anodd gweld y rhif mewn pryd. Yn aml, bydd person dall neu rannol ddall yn dysgu llwybr taith i’w galluogi i fyw’n annibynnol. Os na chânt gymorth i ddod o hyd i’w stop, neu os caiff cyhoeddiadau sain eu diffodd, gall pobl yn hawdd iawn gyrraedd y lle anghywir ac efallai na fyddant yn gallu teithio’n annibynnol o gwbl mwyach. Mewn ardaloedd gwledig, mae gwybodaeth mewn safleoedd bws yn aml yn hen neu’n rhy fach neu wedi’i threulio gan y tywydd. Mae gwasanaethau bws gwledig yn hollbwysig i bobl ddall a rhannol ddall nad ydynt yn gallu gyrru. Rhaid diogelu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Nid yw datblygiadau newydd bob amser yn ystyried anghenion pobl sydd wedi colli’u golwg. Gall adeilad gyda nenfydau gwydr hyfryd fod yn ffasiynol ar y pryd, ond gall achosi problemau i bobl â nam ar eu golwg gan y gall y goleuni achosi anawsterau i’r llygaid o ran deall y llwybr drwy’r adeilad. Mae hon yn sefyllfa frawychus iawn a pheryglus hefyd i rywun â nam ar y golwg. Roedd ailddatblygu gorsaf fysiau Aberystwyth flwyddyn neu ddwy yn ôl yn golygu bod yn rhaid i chi groesi llwybr bws a allai fod yn dod tuag atoch er mwyn mynd i mewn i’r orsaf, heb balmant botymog defnyddiol, ac roedd yn hynod o beryglus. Mae hyn bellach wedi’i gywiro, diolch byth, ond rhaid cael mwy o ddealltwriaeth ar y cychwyn o egwyddorion dylunio diogel mewn datblygiadau cynllunio a pholisi sydd i ddod.
Mae llawer o bobl yn cysylltu mynd yn ddall â henaint, ond y gwir amdani yw bod llawer o bobl yn cael eu geni â nam ar eu golwg. O’r 106,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw â nam ar eu golwg, amcangyfrifir bod 1,935 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yn eu plith. Mae plant sydd â nam ar y golwg mewn perygl o gael canlyniadau gwael, gan fod 80 y cant o ddysgu yn weledol i blant sy’n gweld yn iawn, a dyna pam y mae angen deall pa gymorth ac addasiadau ychwanegol sydd eu hangen ar blant a aned gydag unrhyw nam ar eu golwg er mwyn sicrhau bod addysg yr un mor hygyrch iddynt ag i’w cyfoedion sy’n gallu gweld.
Gan fod plant sydd â nam ar y golwg yn dysgu’n wahanol, mae’n hanfodol fod athrawon arbenigol sy’n deall hyn yn gallu cefnogi athrawon a dysgwyr. Mae ymchwil a wnaed gan RNIB Cymru wedi dangos bod nifer yr athrawon sydd â’r cymhwyster addysgu ar gyfer yr arbenigedd hwn wedi bod yn lleihau wrth i athrawon gyrraedd yn agosach at oed ymddeol heb fod athrawon cymwys yn dod yn eu lle. Mae’r cymhwyster ar gyfer addysgu plant â nam ar eu golwg wedi cael ei wneud yn orfodol yn Lloegr. Mae’r unig brifysgol sy’n darparu’r cwrs ar hyn o bryd yn y DU yn Lloegr ac nid oes digon o lefydd ar gael, felly ni roddir blaenoriaeth i dderbyn athrawon o Gymru ar y cwrs hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol fod cyfundrefnau arolygu ysgolion yn monitro darpariaeth cymorth arbenigol ledled Cymru.
Rydym ar drothwy cyfnod pwysig yn natblygiad polisi anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, a dyma’r adeg pan allwn wneud gwahaniaeth go iawn i ddysgwyr â nam ar eu golwg. Rhaid i’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sicrhau hyfforddiant dysgu arbenigol gorfodol ar gyfer staff sy’n addysgu pobl ifanc ddall a rhannol ddall.
Os caf droi at iechyd, gan fod y rhan fwyaf o gyflyrau colli golwg yn rhai dirywiol ond hefyd yn rhai y gellir eu trin, a chan fod modd atal unigolyn rhag mynd yn ddall mewn rhai achosion, mae’n bwysig fod cleifion offthalmig yn cael eu hadolygu o fewn y GIG yn ôl amserlen dan arweiniad clinigol nad yw ond yn canolbwyntio’n unig ar yr apwyntiad cyntaf ond bod triniaeth lawn y claf yn cael ei monitro, gyda thriniaethau dilynol wedi’u cynnwys yn rhan o hynny. Ar hyn o bryd, nid yw’r targed amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ond yn canolbwyntio ar y diagnosis cychwynnol a’r driniaeth gyntaf. Nid oes targed ar gyfer apwyntiadau llygaid dilynol ac felly ni ellir rheoli’r risg i’r claf mewn modd digonol. Dyma pam y gallai targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad yw’n canolbwyntio ar y ffrâm amser glinigol fod yn niweidiol, gan ei fod yn tynnu sylw ac adnoddau oddi ar sicrhau apwyntiadau dilynol amserol.
Y ffaith amdani yw bod canlyniadau gwell mewn offthalmoleg yn mynd i arwain at ganlyniadau iechyd gwell yn gyffredinol a sicrhau arbedion. Er enghraifft, canfuwyd y gellid priodoli bron i hanner yr holl gwympiadau a brofir gan bobl ddall a rhannol ddall i’r ffaith eu bod wedi colli eu golwg. Mae pobl ddall a rhannol ddall angen mynediad amserol hefyd at wasanaethau adsefydlu. Os yw prif nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynd i gael eu gwireddu, yna mae’n rhaid i bobl ddall a rhannol ddall gael eu hasesu gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig a phrofiadol. Bydd asesiad arbenigol hefyd yn golygu y bydd pobl ddall a rhannol ddall yn gwybod pa gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae elusennau yn y sector colli golwg yn pryderu fwyfwy am y ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Maent yn credu y dylai’r broses gomisiynu warantu bod swyddogion adsefydlu cymwys yn cael eu cyflogi mewn awdurdodau lleol. Y ddarpariaeth ofynnol a argymhellir yw o leiaf un swyddog adsefydlu fesul 70,000 o’r boblogaeth. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw hynny’n cael ei gyflawni, ond ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol, y gofynnir iddynt yn fwyfwy aml i wneud mwy gyda llai, yn ceisio darparu’r gwasanaeth gofynnol ar gyfer eu poblogaeth ac nid ydynt yn cynnal digon o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau bod anghenion mwy cymhleth rhywun sy’n colli eu golwg yn cael eu diwallu.
Ceir swyddogion cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru hefyd, i gynnig cymorth i bobl sydd wedi colli’u golwg lle y mae ei angen. Cânt eu cydnabod gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr fel rhan ganolog o’r tîm gwasanaeth gofynnol yn y clinig llygaid. Heb y cymorth cywir, gall colli golwg effeithio’n fawr ar rannau eraill o fywyd unigolyn, megis cwympiadau, arwahanrwydd, a’r gallu i ddal ati i weithio. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd gan yr RNIB ac a gynhaliwyd yn Ysbyty Singleton, Abertawe, drwy ddefnyddio methodoleg elw cymdeithasol ar fuddsoddiad, canfuwyd bod buddsoddiad o £1 yn y gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn sicrhau elw o £10.57 i gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, felly mae yna arbedion go iawn i’w gwneud.
Yn olaf, mae Lloegr newydd lansio safonau ar gyfer gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau yn y GIG. Daw hyn fwy na dwy flynedd ar ôl i Gymru wneud hynny, felly rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yma. Fodd bynnag, gyda phobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau mawr i’w gofal iechyd, mae angen gwneud mwy. Maent yn dal i adael yr ysbyty bob dydd yn ansicr faint o feddyginiaeth y maent i fod i’w chymryd, neu’n ansicr ynglŷn â’r cyngor a roddwyd iddynt. Yn yr ysbyty, byddai camau gweithredu syml fel newid yn lliw defnyddiau fel bod mwy o gyferbyniad rhwng bwyd a phlatiau, neu welyau a wardiau, toiledau a lloriau—mae’r rhestr yn parhau—yn atal cleifion rhag mynd yn llwglyd, colli eu ffordd neu gwympo; newidiadau syml, ond newidiadau a all gael effaith go iawn. Mae’r safon yn Lloegr yn cynnwys cosbi gwasanaethau nad ydynt yn sicrhau bod pobl â nam ar y synhwyrau yn cael gwybodaeth yn y fformat sydd ei angen arnynt. A yw’n bryd i ni yng Nghymru ystyried cynnwys rheoliad o’r fath yn ein safonau? Efallai y dylai adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ganolbwyntio mwy ar y mathau hyn o ddyletswyddau.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn gofyn i bawb ohonoch feddwl am y materion sy’n effeithio ar bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mynychwch un o’r digwyddiadau os gallwch, a gadewch i bob un ohonom wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn a cheisio gwella safon byw pobl â nam ar eu golwg sy’n byw yng Nghymru heddiw ac yfory.
Mae mannau neu wasanaethau a rennir yn parhau i fod yn fater arwyddocaol i bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru, lle y mae diffyg cyrbiau a mannau croesi diogel, rhwystrau ar balmentydd a dibyniaeth ar gyswllt llygad yn troi’r stryd fawr yn llefydd na all pobl ddall a rhannol ddall a chŵn tywys fynd iddynt. Dywedodd etholwr yn Sir y Fflint wrthyf, ‘Mae nam ar olwg fy nau blentyn a minnau, ac os ydym am fynd i siopau a chyfleusterau’r pentref, mae’n rhaid i ni groesi’r ffordd heb gymorth croesfan i gerddwyr, neu gerdded yn y ffordd ei hun’. Mae hyn, meddai, yn beryglus a brawychus. Ychwanegodd, ‘Rwyf wedi ymweld â’r Senedd, ac mae diffyg marciau ar y stepiau a’r llethrau y tu allan i’r adeilad yn ei gwneud yn anodd iawn i rywun sydd â nam ar y golwg eu cerdded yn ddiogel.’ Fel y dywed yr RNIB, dylai awdurdodau lleol weithio gyda phobl ddall a rhannol ddall o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i asesu mannau a rennir sy’n bodoli eisoes a’u cynnwys wrth gyflwyno cynlluniau newydd. Wrth gwrs, mae’r un peth yn wir am y Cynulliad.
Diolch. Galwaf yn awr ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i ymateb i’r ddadl.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod dros Fynwy, Nick Ramsay, am godi’r mater pwysig hwn a defnyddio’r ddadl fer yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid? Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am dynnu sylw at yr effaith sylweddol y mae golwg gwan a cholli golwg yn ei chael ar bobl. Mae gwella mynediad at wasanaethau ar gyfer y grŵp hwn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru mor bwysig, fel rydych wedi dangos mor briodol yn eich dadl fer.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus penodol i osod a gweithio tuag at amcanion llesiant, sy’n cyfrannu at bob un o’r nodau llesiant. Un o’r nodau, wrth gwrs, yw creu Cymru fwy cyfartal gyda chymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau. Fel Llywodraeth, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn sawl maes sy’n cefnogi’r nod hwn o greu Cymru fwy cyfartal. Un enghraifft yw ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, sy’n ein galluogi i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl anabl a chlywed ganddynt sut y mae polisïau deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn effeithio ar eu bywydau, a sut y gellid gwella pethau. Mae ein fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw’n annibynnol yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac arfer yr un hawliau â dinasyddion eraill. Rwy’n cofio, fel y bydd llawer o’r Aelodau o Gynulliadau blaenorol, ein bod wedi bwrw ymlaen â’r fframwaith hwn ar gyfer gweithredu o ganlyniad i ddeiseb a arweiniodd wedyn at y Llywodraeth yn ymateb a datblygu’r fframwaith.
Mae llawer o faterion a godwyd gan bobl anabl yn ymwneud â hygyrchedd a darpariaeth gwasanaethau lleol sydd, wrth gwrs, mor bwysig i bobl sydd wedi colli eu golwg. Rydym yn gwybod y gall grwpiau a sefydliadau lleol i bobl anabl fod yn effeithiol iawn, lle y maent i’w cael, wrth barhau i bwyso am welliannau ar lefel leol. Ac mae’n bwysig fod hyn yn parhau. Fel Llywodraeth, rydym yn ariannu Action on Hearing Loss Cymru, gan weithio gyda RNIB Cymru, i hyfforddi a chynorthwyo pobl â nam ar y synhwyrau i rannu eu profiadau personol gyda darparwyr gwasanaethau yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai. Fel rhan o’r gwaith hwn, cyhoeddwyd canllaw arferion gorau ar gyfer darparwyr tai ac mae canllawiau tebyg yn cael eu cynllunio ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau meddygon teulu.
Gall ein technoleg ddigidol chwarae rhan allweddol yn gwella mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys pobl sydd wedi colli eu golwg, ac mae hwn yn faes gwaith arall a all helpu i leihau arwahanrwydd a gwella’r gallu i fyw’n annibynnol drwy roi’r un dewis a rheolaeth dros eu bywydau â phawb arall i bobl anabl. Felly, mae rhaglen cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, Cymunedau Digidol Cymru, yn gweithio gyda sefydliadau pobl anabl fel y gall y sefydliadau hyn ddarparu cymorth gyda sgiliau digidol i’r bobl anabl y maent yn gweithio gyda hwy. Ond rydym hefyd yn cydnabod y gall e-hygyrchedd fod yn rhwystr rhag i fwy o bobl allu elwa’n llawn ar y cyfleoedd niferus y mae’r rhyngrwyd yn eu cynnig. Rwy’n ymwybodol o ymchwil sy’n dangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, felly mae’n arbennig o bwysig ein bod yn deall y problemau, gan y gellid dadlau bod gan bobl anabl fwy byth i’w ennill o dechnolegau digidol sy’n datblygu drwy’r amser, wrth i dechnoleg greu cyfleoedd a oedd allan o gyrraedd o’r blaen. Os edrychwn ar Cymunedau Digidol Cymru, er enghraifft, mae wedi cynorthwyo RNIB Cymru i gyflawni ei brosiect cynhwysiant digidol Ar-lein Heddiw a ariennir gan y loteri, ac sy’n helpu pobl â nam ar y synhwyrau i gael mwy o fudd o gyfrifiaduron, tabledi, ffonau clyfar a’r rhyngrwyd.
Os symudwn ymlaen at faes cyflogaeth, mae pobl anabl wedi dweud wrthym pa mor bwysig yw cael gwaith a dal ati i weithio iddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod agweddau negyddol ac anhyblyg gan gyflogwyr a rheolwyr weithiau yn gallu effeithio’n andwyol ar bobl anabl. Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â hyn, gan fod pobl anabl wedi dweud wrthym fod bod mewn gwaith yn hybu annibyniaeth, hyder, iechyd a lles, yn ogystal â darparu ffordd allan o dlodi ac yn eu galluogi i gyfranogi yn y gymdeithas. O ganlyniad i glywed y pryderon cyson hyn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth cyflogwyr a phobl anabl o’r cymorth sydd ar gael drwy’r cynlluniau Mynediad i Waith.
Nick Ramsay, fe nodoch fater pwysig trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n faes pryder gwirioneddol. Ceir nifer o enghreifftiau lle rydym ni yng Nghymru wedi bod ar y blaen yn hyrwyddo gwelliannau yn ein system trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella hygyrchedd. Roeddech yn nodi mater pwysig hygyrchedd gwasanaethau bws. Ers 2013, ein polisi yw y dylai cerbydau gwasanaeth cyhoeddus sy’n gweithredu gwasanaethau bws a drefnir yn lleol ddarparu cyhoeddiadau clyweledol ar eu bysiau. Mae’r systemau hyn yn galluogi pobl sy’n ddall neu sydd â nam ar y golwg i ddefnyddio ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus, ac maent yn lleihau’r risg y bydd teithwyr yn cael eu gadael yn y safle bws anghywir mewn ardal anghyfarwydd a all fod gryn bellter i ffwrdd o’u cyrchfan terfynol. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd ein safon ansawdd bysiau Cymru gwirfoddol, a oedd, am y tro cyntaf, yn cysylltu’n uniongyrchol y taliad arian grant sydd ar gael o’n grant cymorth gwasanaethau bws i gyflwyno Bws Siarad a disgwyliadau eraill o ansawdd. Am y rheswm hwn rydym wedi croesawu penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i gyflwyno gwelliant i’r Bil Gwasanaethau Bws a fydd yn gwella argaeledd gwybodaeth hygyrch ar fysiau fel un o ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd dyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a datblygiad systemau metro gogledd Cymru a de-ddwyrain Cymru yn sicrhau newid trawsffurfiol y mae’n hen bryd ei gael i drafnidiaeth gyhoeddus yn y meysydd hyn. Rydym yn benderfynol y dylai gwella hygyrchedd y rhwydwaith rheilffyrdd i wella profiadau teithwyr fod yn ganolog i’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r diwydiant rheilffyrdd.
Gan symud ymlaen i faes hanfodol iechyd, ym mis Rhagfyr 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau. Y nod yw sefydlu safonau darparu gwasanaeth y dylai pobl â nam ar y synhwyrau ddisgwyl iddynt gael eu cyrraedd wrth iddynt dderbyn gofal iechyd. Dylai pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth sydd angen cymorth cyfathrebu gael yr angen hwn wedi’i ddiwallu. I weithredu’r safonau, mae Action on Hearing Loss Cymru ac RNIB Cymru wedi gweithio’n agos gyda Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ar ddatblygu hyfforddiant penodol i staff y GIG ar anghenion pobl â nam ar y synhwyrau. Pecyn e-ddysgu yw ‘Trin Pobl yn Deg’ sydd wedi ei ddatblygu a’i dderbyn gan yr holl fyrddau iechyd lleol fel hyfforddiant gorfodol statudol yn ystod y cyfnod sefydlu. Mae’n ymwneud â thriniaeth deg a chyfartal i bawb sy’n cael gofal iechyd ac mae’n canolbwyntio i raddau helaeth ar gyfathrebu.
Bydd mynediad yn gwella fwyfwy wrth i ofal sylfaenol gael ei drefnu’n well. Er enghraifft, mae angen mwy o opsiynau ar sut i gael help a chyngor ar amrywiaeth ehangach o wasanaethau hunanofal a gweithwyr proffesiynol i ymateb. Rydym yn rheoli mwy o bobl mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys mynediad uniongyrchol ar gyfer nifer o gyflyrau, yn hytrach na bod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Mae ein gwasanaeth gofal llygaid Cymru yn arwain y ffordd yn y DU, ac roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiad hwnnw flynyddoedd lawer yn ôl fel Gweinidog iechyd. Ac rwy’n cofio Dr Dai Lloyd ac eraill—un neu ddau’n dal i fod o’r adeg honno—a David Melding, a oedd yn rhan o hynny ar y pryd, yn sesiwn gyntaf y Cynulliad rwy’n credu. Mae’n cael ei gydnabod mewn gwirionedd fel cam sylweddol ymlaen o ran darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol. Ceir dau brif nod: diogelu’r golwg drwy ganfod clefydau llygaid yn gynnar a rhoi cymorth i bobl â golwg gwan sy’n annhebygol o wella.
Diolch i chi am gydnabod, Nick, sut y mae Cymru ar y blaen o ran y GIG, ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Mae mwy i’w ddysgu, yn amlwg, fel y dywedwch, ac rydym yn ystyried y dystiolaeth honno. Mae llwybrau doeth gwasanaeth gofal llygaid Cymru o fudd i’r claf drwy wneud eu gofal yn fwy hygyrch ac yn nes at ble y maent yn byw. Maent hefyd yn sicrhau bod optometryddion mewn gofal sylfaenol ac offthalmolegwyr mewn gofal eilaidd yn gweithio ar frig eu trwydded.
Mae’r gofal cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn elfen bwysig o’r gofal a gynigir yn y gymuned, ac rydym yn ysgogi gwelliannau ar gyfer gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn sicr fod atal achosion o golli golwg y gellir eu hosgoi yn flaenoriaeth allweddol. Mae’n sicr yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac mae’n llywio ein polisïau. Mae’r heriau a wynebwn mewn gofal llygaid yn hysbys. Rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd â chlefyd ar eu llygaid yn cynyddu’n ddramatig, a bydd y baich ar wasanaethau gofal llygaid yn parhau i gynyddu, ond mae’n newydd da—
Diolch i chi, arweinydd y tŷ, dylwn ddweud, am ildio ar hynny. Ar gyfer y cofnod, fe wnes nodi un maes lle roedd gwasanaeth iechyd Cymru ar y blaen i’r hyn a geir ar draws y ffin yn Lloegr, ond mae yna feysydd eraill hefyd lle rydym yn colli tir braidd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ar y blaen ym mhob dim. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno.
Ydw, ac rwy’n meddwl, Nick Ramsay, fy mod wedi dweud nad ydym yn llaesu dwylo, mae gennym fwy i’w ddysgu a byddem am edrych ar y dystiolaeth. Yn amlwg, mae hynny’n wir.
Fel y dywedais, mae gennym ddatblygiadau newydd i’w cyflwyno o ran llwybrau newydd i gleifion a all helpu i atal colli golwg, a gwell cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda golwg gwan. Rwy’n ymwybodol iawn o’r ffaith fod Mark Isherwood, yn arbennig, bob amser yn ein hannog i siarad â’r bobl sydd wedi colli eu golwg neu sydd wedi wynebu problemau, cyflyrau a rhwystrau eraill yn eu bywydau. Wrth gwrs, dyna beth sy’n rhaid i ni ei wneud, yn ogystal ag edrych ar dystiolaeth o sut y mae gwasanaethau’n cael eu darparu ar draws ffiniau ac mewn mannau eraill, nid yn unig yma yng Nghymru neu’r DU.
Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar wella mynediad a mynd i’r afael â chyflyrau sydd wedi effeithio ar olwg pobl, o fuddsoddi mewn gwasanaethau newydd sy’n canfod cyflyrau cyn gynted â phosibl i ddarparu mwy o wasanaethau yn nes at gartrefi pobl. Ers lansio’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid, a gafodd ei ddiweddaru a’i adnewyddu yn 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi gweld yr ymdrechion aruthrol gan bob bwrdd iechyd, gan gynnwys offthalmolegwyr gofal eilaidd, optometryddion gofal sylfaenol, awdurdodau lleol, cynghorau iechyd cymuned, a’r trydydd sector. Ond rwy’n falch hefyd fod Nick Ramsay wedi crybwyll pwysigrwydd mynd i’r afael ag anghenion plant a phobl ifanc. Unwaith eto, dyma enghraifft o sut y mae hwn yn faes polisi pob oed ar draws y Llywodraeth lle y mae angen i ni sicrhau ein bod, yn y cyd-destun hwn, yn edrych ar ein gwasanaethau addysg, ein proffesiwn addysgu, a thu hwnt i hynny’n wir at anghenion byw ac amgylchiadau ehangach plant a phobl ifanc, sy’n bwysig iawn y tu allan i addysg yn ogystal â mewn addysg. Ond fel y dywedodd yr Aelod, bydd y Bil ADY yn rhoi cyfle i edrych ac ystyried yr anghenion hyn ymhellach.
Rwy’n meddwl bod Nick Ramsay wedi cyflwyno’r ddadl fer hon heddiw mewn ffordd bwerus iawn. Cawsoch y profiad o gerdded drwy Drefynwy. Yn ddiweddar, rwy’n cofio mynd ar y trac yn Llandŵ, ym Mro Morgannwg, y bydd llawer o’r Aelodau’n gwybod amdano, ble y bu’n rhaid i mi fynd i mewn i go-cart gyda mwgwd am fy llygaid. Rwy’n credu mai’r RNIB a’i trefnodd mewn gwirionedd, ac roedd yn brofiad brawychus. Ond dyma ble rydych yn dysgu’n gyflym iawn. Profiad untro’n unig yw hyn i ni, onid e? Rwy’n gobeithio fy mod wedi gallu dangos heddiw faint o bwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar wella iechyd a llesiant yr holl bobl hynny yng Nghymru sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Mae’r heriau’n parhau, wrth gwrs, yn enwedig gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, ond mae’n fater i bob oed o ran anghenion. Mae gennym ddeddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar waith i gefnogi a diwallu’r anghenion hyn. Rydym yn benderfynol o sicrhau y gall pobl sydd wedi colli eu golwg fyw bywydau cynhwysol a llawn. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am gyflwyno’r mater pwysig hwn mor rymus ar lawr y Siambr heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.