8. 4. Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau Newydd

– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:21, 30 Tachwedd 2016

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod olaf Gerard Elias CF yn ei swydd fel y comisiynydd safonau. Hoffwn ddiolch iddo am ei holl waith caled yn sefydlu’r rôl bwysig hon dros y chwe blynedd diwethaf ac rwy’n croesawu ei olynydd, Syr Roderick Evans CF, i swydd y comisiynydd safonau.

Cafodd Gerard Elias ei benodi yn 2010 pan basiwyd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009. Roedd yn benodiad rhagorol i’r Cynulliad, a daeth â’i amrywiaeth eang o brofiad gydag ef, ar ôl bod yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol am dros 40 mlynedd. Mae ei ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus wedi arwain at nifer o swyddi cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys dirprwy farnwr yr Uchel Lys, cofnodwr a chyn-arweinydd cylchdro Cymru a Chaer, canghellor esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, cadeirydd Comisiwn Disgyblaeth Bwrdd Criced Lloegr a Chymru a chadeirydd Sports Resolutions UK.

Roedd Mesur 2009 yn ceisio sicrhau bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gomisiynydd safonau a oedd yn gallu hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad; yn meddu ar y pwerau a fuasai’n eu galluogi i ymchwilio i gwynion yn drylwyr; ac yn olaf, comisiynydd a oedd yn amlwg yn annibynnol ar y Cynulliad ac felly’n gallu gweithredu’n gwbl wrthrychol. Mae’r rhain i gyd yn faterion o bwys mawr i sicrhau fod gan bobl Cymru hyder yn eu Haelodau etholedig.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Gerard Elias wedi anelu tuag at, ac wedi cyrraedd nod y Cynulliad i fod yn batrwm o safonau mewn bywyd cyhoeddus. Mae wedi sefydlu swydd annibynnol, uchel ei pharch, ac wedi siapio ei rôl i sicrhau hyder yn safonau’r Cynulliad. Rwy’n credu ei fod wedi mabwysiadu dull pwyllog a chytbwys wrth reoli cwynion ac wedi cymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol â phawb, o Aelodau’r Cynulliad i’r cyhoedd yn ehangach, ynglŷn â’r rhesymau dros ei benderfyniadau a’r rhai a gyflwynodd gwynion.

Mae’r dull pragmatig ac agos atoch hwn wedi cael ei werthfawrogi gan Aelodau’r Cynulliad a chan bawb sydd wedi gweithio gydag ef. Ochr yn ochr â’i waith ar gwynion, mae wedi bod yn ffynhonnell cyngor allweddol i’r pwyllgor safonau, yn enwedig yn ystod adolygiad y pedwerydd Cynulliad o’r cod ymddygiad a’r canllawiau cysylltiedig, a arweiniodd at y ddogfen gompendiwm a ddosbarthwyd i’r holl Aelodau ar ddechrau’r pumed Cynulliad. O bwys arbennig, roedd ei waith i sicrhau bod gan y Cynulliad sancsiynau digonol a sancsiynau priodol pe bai Aelod yn tramgwyddo ynghyd â’i ddiweddariad o’r gofynion ar gyfer datgan a chofrestru buddiannau, sydd wedi sicrhau mwy o eglurder a thryloywder yn y system.

Mae’r newidiadau hyn a wnaed yma wedi helpu i sicrhau bod y rheolau sy’n llywodraethu safonau’r Cynulliad yn addas i’r diben yng nghyd-destun cyfnewidiol datganoli. Ar ben hynny, sefydlodd Gerard Elias ddarlith y comisiynydd safonau ar safonau mewn bywyd cyhoeddus, a gynhelir bob dwy flynedd, ac sy’n cyhoeddi i Gymru fod safonau mewn bywyd cyhoeddus yn bwysig. Roedd cael dau Arglwydd Brif Ustus cyfredol i fynychu yn gyflawniad gwirioneddol ac yn dangos arloesedd rhagorol ar ran y Cynulliad. Rwy’n deall bod y comisiynydd newydd yn bwriadu parhau â’r syniad hwn.

Mae’n bleser manteisio ar y cyfle hwn hefyd i groesawu Syr Roderick Evans CF i rôl y comisiynydd safonau. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno ei fod yn benodiad rhagorol. Mae Syr Roderick yn farnwr Uchel Lys wedi ymddeol ac yn ogystal â gyrfa ddisglair yn y gyfraith, mae hefyd yn gymrawd ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor, yn gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru a chafodd ei groesawu’n aelod o Orsedd y Beirdd yn 2002. Yn ystod y weithdrefn recriwtio gynhwysfawr, mynychodd Syr Roderick wrandawiad cadarnhau cyhoeddus yn un o gyfarfodydd y Pedwerydd Cynulliad. Yn y gwrandawiad hwn, nododd ei weledigaeth ar gyfer dyfodol safonau yn y Cynulliad mewn modd cynhwysfawr ynghyd â’i ddull o ymdrin â’r heriau posibl yn ystod y Cynulliad hwn a thu hwnt. Cadarnhawyd ei benodiad yn unfrydol gan y Pedwerydd Cynulliad.

Mae’r rôl y mae Syr Roderick yn ymgymryd â hi yn dal i fod yn gymharol newydd ac yn esblygu’n barhaus. Yn ddi-os, bydd yna heriau i sicrhau bod y Cynulliad yn cynnal y lefelau uchel o safonau a gyflawnwyd hyd yn hyn, yn enwedig wrth i’r pwyllgor gychwyn ar ei adolygiad o lobïo a nodi’r meysydd sydd angen arweiniad a chyngor pellach. Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gyda Syr Roderick i’w gynorthwyo i ddatblygu swydd y comisiynydd safonau ymhellach, ac i gynnal safonau uchel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwy’n siŵr y bydd yr holl Aelodau’n ymuno â mi wrth i mi groesawu Syr Roderick i’r swydd a diolch i Gerard Elias am yr holl waith caled y mae wedi’i wneud ar ddatblygu rôl y comisiynydd a chynnal safonau’r Cynulliad. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:27, 30 Tachwedd 2016

A gaf i ddiolch i’r Cadeirydd am ei datganiad a’i chroesawu hi, wrth gwrs, i’w rôl? Dyma’i datganiad ffurfiol cyntaf i’r Cynulliad yma ac rwy’n diolch iddi am hynny ac yn edrych ymlaen at gydweithio â hi fel aelod o’r pwyllgor. A gaf innau hefyd ategu’r diolch i Gerard Elias QC, fel y clywsom ni wedi’i benodi yn 2010? Fel aelod o bwyllgor safonau’r Cynulliad diwethaf, mi allaf i dystiolaethu i’r ffaith ei fod e wedi bod yn hyrwyddo’r safonau uchel rŷm ni i gyd yn ymgyrraedd tuag atyn nhw. Y mae wedi bod yn ffigwr annibynnol ei feddwl, wrth gwrs, ond hefyd yn gwbl wrthrychol ei ystyriaethau o’r achosion sydd wedi bod ger ein bron ni, ac mae’n dyled ni, fel Aelodau ac, yn wir, fel cymdeithas yn ehangach, iddo fe yn fawr iawn yn hynny o beth.

Mi gyfeirioch chi at adolygiad y pedwerydd Cynulliad o’r cod ymddygiad a’r canllawiau cysylltiedig â hynny, a, do, mi arweiniodd hynny at ddogfen grynodeb sydd wedi cael ei chyflwyno i bob Aelod o’r pumed Cynulliad yma. Mae hynny’n gyfraniad gwerthfawr, rwy’n meddwl, i sicrhau’r ymddygiad a’r safonau uchel y mae pawb yn eu disgwyl, ond yn gwneud hynny, wrth gwrs—ie, mewn modd cyhyrog, ond heb fod yn anymarferol na’n afresymol o feichus. Mi fyddwn i’n gofyn ichi, Gadeirydd, wrth edrych ymlaen, mai taro’r cydbwysedd yna sydd yn bwysig, hynny yw bod disgwyliadau o ran safonau’n gymesur, wrth gwrs, i’r lefel o risg sydd yna, a bod angen cyfundrefn sydd yn effeithiol ac yn gyhyrog, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, yn ymarferol ac yn un sydd yn rhesymol i’w gweithredu.

Mi fyddwn i hefyd yn ategu’ch croeso chi i Syr Roderick Evans QC i’w rôl ef. Cefais gyfle i’w holi e fel rhan o’r broses o gadarnhau’r penodiad, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd e nid yn unig yn parhau â’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond wrth gwrs yn adeiladu ar waith ei ragflaenydd.

Mae’r rôl, fel y dywedoch chi, yn dal i esblygu, fel y mae’r sefydliad yma, wrth gwrs, yn dal i esblygu, ac mi fydd yna heriau o’n blaenau ni ac mae’n rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno â fi mai proses barhaus yw gwarchod safonau mewn sefydliad fel hwn. A gaf i, efallai, ofyn i chi os ydych chi’n cytuno y bydd datganoli pwerau ychwanegol, yn enwedig, efallai, pwerau’n ymwneud â threthu, yn tanlinellu ymhellach yr angen i barhau â’r gwaith yma o warchod safonau yn wyneb beth ddaw, mae’n debyg, yn sgil mwy o bwerau, mwy o ddiddordebau a dylanwadau allanol a mwy o lobïo, a’i bod yn bwysig ein bod yn parhau i sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu gosod o dan y comisiynydd newydd, wrth i ni symud yn ein blaenau?

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:30, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr eich geiriau caredig ar y dechrau hefyd, felly diolch yn fawr iawn. Rwy’n meddwl bod y comisiynydd, Gerard Elias, wedi rhyw lun o fwrw iddi’n syth gyda mi ynglŷn â’r angen am wyliadwriaeth, ond hefyd cymesuredd, felly rwy’n meddwl bod y pwyllgor yn clywed hynny’n uchel ac yn glir. Ac fel y dywedwch yn hollol gywir, gyda’r pwerau newydd sy’n dod i’r Cynulliad, mae’r geiriau allweddol hynny’n bwysig—ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus bob amser, ac i fod yn gymesur.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

A gaf fi hefyd groesawu’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y comisiynydd safonau newydd? Mae’r comisiynydd yn chwarae rhan allweddol iawn, wrth gwrs, wrth anelu at gyrraedd y safonau uchaf posibl gennym ni fel Aelodau’r Cynulliad, er mwyn i’r cyhoedd gael hyder yn eu cynrychiolwyr etholedig. Rwy’n credu ein bod wedi bod yn ffodus i fod wedi cael comisiynydd safonau rhagorol yn Gerard Elias CF, ac rwy’n meddwl ei fod wedi gwneud gwaith eithriadol, bob amser yn drwyadl wrthrychol ac annibynnol yn y ffordd y mae ef ei hun wedi ymddwyn yn ogystal. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Syr Roderick Evans CF yn parhau yn yr un ffordd, ac ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn innau groesawu ei benodiad hefyd. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd yn eithriadol iawn hefyd.

Credaf ei bod yn hanfodol i gylch gwaith y comisiynydd newydd gael ei sefydlu’n gadarn er mwyn iddo ddeall ehangder ei rôl yn llawn, ac felly byddwn yn falch o wybod a ydych fel Cadeirydd y pwyllgor yn teimlo ei bod yn bryd myfyrio, efallai, ar gwmpas rôl y comisiynydd i weld a allai fod cyfle, oherwydd newid yn y trefniadau yn y Cynulliad hwn, i ddiweddaru hynny mewn rhyw ffordd.

Wrth gwrs, mae’r pwyllgor safonau yno hefyd i ddwyn y comisiynydd i gyfrif, ac rydym i gyd yn cael cyfle i gael golwg ar adroddiad blynyddol y comisiynydd. Ond tybed a allai fod cyfleoedd ychwanegol i fonitro gwaith y comisiynydd a’i swyddfa yn y dyfodol, ac a fydd cyfleoedd ychwanegol i’r pwyllgor safonau allu gwneud hynny, mewn ychydig mwy o ddyfnder o bosibl.

Rwy’n siŵr y bydd y Cadeirydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig i’r comisiynydd newydd gael ymgysylltiad cryf ag Aelodau’r Cynulliad o’r cychwyn cyntaf. Yn amlwg, nid oes yr un ohonom yn y Siambr hon am ei weld yn rhy aml, rwy’n siŵr, am bob math o resymau. Ond mae’n bwysig cael perthynas dda a dealltwriaeth o swyddogaethau ein gilydd, ac rwy’n meddwl tybed a allai fod cyfle i Gadeirydd y pwyllgor drefnu i Aelodau’r Cynulliad allu gwneud hynny yn y dyfodol.

Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr hefyd, wrth gwrs, fod tryloywder yng ngwaith y comisiynydd, a bod y rheoliadau a’r cod ymddygiad yn cael eu hadolygu’n gyson, a’u bod yn ddealladwy gan Aelodau’r Cynulliad, y comisiynydd ac yn wir, gan y cyhoedd. Tybed a allai fod cyfle, unwaith eto, i’r pwyllgor edrych ar y pethau hyn yn eu cyfanrwydd, yn enwedig o ran ymgysylltu â’r cyhoedd a deall rôl y comisiynydd, os ydynt am wneud cwynion, er enghraifft.

Credaf fod y ffordd y mae Aelodau’r Cynulliad, ar bob lefel, yn ymgysylltu â’u hetholwyr yn parhau i newid. Mae llawer mwy i’w wneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn awr, er enghraifft, nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl pan gefais fy ethol gyntaf i’r sefydliad hwn. Ac o ganlyniad i hynny, rwy’n meddwl ei bod yn ddoeth iawn ein bod yn cadw pethau dan arolwg yn gyson. Ond rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y comisiynydd newydd, wrth ymgymryd â’i rôl, yn ystyried hynny’n rhan o’n gwaith, yn enwedig wrth symud ymlaen, i weld a all fod angen unrhyw newidiadau i’r cod ymddygiad er mwyn iddo allu adlewyrchu tirwedd newydd cyfathrebu, os hoffech. Ond carwn gofnodi unwaith eto fy niolch i Gerard Elias, a’r croeso cynnes rydym am ei roi i Syr Roderick Evans.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:34, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y croeso cynnes i Syr Roderick, a’ch geiriau caredig eto am Gerard Elias, gan fy mod yn meddwl ei bod yn wych cael yr holl bleidiau’n gytûn ar hyn, gan ei fod wedi gwneud gwaith gwych.

Rwy’n meddwl eich bod yn gwneud pwynt diddorol iawn am yr angen i edrych ar y rôl yn y dyfodol, ac rwy’n hapus, ynghyd â chyd-Aelodau ar y pwyllgor safonau, y gallwn gael trafodaeth ynglŷn â hynny. Rwy’n awyddus i ni gael y wybodaeth ddiweddaraf a dilyn trywydd priodol. Mae eich pwynt am dryloywder yn gwbl hanfodol, ac unwaith eto, dyna faes lle rydym yn teimlo’n gryf fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus ynddo. A’r pwynt eto am gyfryngau cymdeithasol: fel y dywedasoch, mae’r rôl hon wedi newid yn anhygoel dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn cynnal y safonau hynny drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:35, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i Gadeirydd y pwyllgor safonau ar y ffordd wych rydych wedi cyflwyno eich datganiad cyntaf i’r Siambr? Mae hynny hefyd yn adlewyrchu’r ffordd rydych yn arwain y pwyllgor yn gyffredinol beth bynnag. Iawn. Gan fy mod yn newydd i’r pwyllgor safonau, ni chefais lawer o amser i ddod i adnabod Gerard Elias yn bersonol. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol iawn o’r etifeddiaeth y mae wedi ei gadael o’i gyfnod yn y swydd, nid yn lleiaf ei fewnbwn i’r grynhoi’r Rheolau Sefydlog—llyfr rheolau’r Rheolau Sefydlog. Mae hyn, wrth gwrs, o fudd amhrisiadwy i unrhyw newydd-ddyfodiad i’r Cynulliad, yn ogystal â rhoi arweiniad o’r radd flaenaf i Aelodau sefydledig a staff y Cynulliad. Yn fy amser byr fel Aelod Cynulliad, rwyf wedi dod i sylweddoli cymaint o barch sydd i Gerard Elias gan bawb sy’n ymwneud â Chynulliad Cymru. Mae ei etifeddiaeth yn sicr o fod yn un barhaus.

A gaf fi droi yn awr hefyd at olynydd Gerard Elias, Syr Roderick Evans? Mae’n dangos y statws cynyddol sydd i’r Cynulliad hwn ein bod wedi gallu sicrhau gwasanaethau unigolyn o statws mor uchel. Rwy’n siŵr y bydd yn dod â nifer o rinweddau i’r rôl, gydag annibyniaeth ac awdurdod sydd mor bwysig i’n democratiaeth. Rwyf yr un mor siŵr fod pawb yn y Cynulliad, ac yn enwedig y rhai hynny ohonom yn y pwyllgor safonau, yn ei groesawu’n frwd i’w rôl newydd. Gwn y bydd rôl y pwyllgor safonau’n newid dros y blynyddoedd nesaf, ond rwyf yr un mor fodlon y bydd y Cadeirydd yn ein harwain yn fedrus iawn yn y rôl honno.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:37, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am eich geiriau caredig ar hynny hefyd. Ac fel chithau, hoffwn adleisio’r pwyntiau am y compendiwm, oherwydd fel Aelod newydd fy hun, rwy’n falch iawn o gael popeth mewn un man. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r comisiynydd newydd. Mae eisoes wedi dod i’r pwyllgor ar sawl achlysur, felly mae’n mynd i sicrhau trosglwyddiad esmwyth yn ogystal. Felly, diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Cadeirydd. Rwy’n gweld Gerard Elias yn yr oriel gyhoeddus. Rydych yn rhy bell oddi wrthyf i mi allu gweld a ydych wedi bod yn gwrido yn sgil yr holl ganmoliaeth a roddwyd i chi. Ond os caf adleisio’r diolch a fynegwyd y prynhawn yma o bob rhan o’r Siambr, ar ran pob un ohonom, am ansawdd y gwaith rydych wedi ei wneud ar ein rhan, a dymuno’n dda i chi ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]