Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr iawn, Darren. Nid wyf yn gweld hyn fel cael fy rhoi mewn llanast. Rwy’n gweld hyn fel cyfle gwych i wneud yr hyn yr wyf wedi’i ddweud yn gyson ers 2011, ac wedi’i ddadlau'n gyson yn y Siambr hon, o'r safle hwnnw draw yn y fan yna, sef bod angen inni ganolbwyntio’n ddiflino ar safonau ysgolion, arweinyddiaeth, datblygiad proffesiynol parhaus a diwygio HAGA, a dyna’r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud.
Nawr, Darren, all dim byd a ddywedwch yma yn y Siambr hon heddiw wneud imi deimlo’n ddim gwaeth yn bersonol am y canlyniadau hyn. Rwyf eisiau gwell i fy nghenedl, rwyf eisiau gwell i’n plant, ac rwy'n benderfynol o wneud y penderfyniadau a chymryd y camau a fydd yn cyflawni hynny. Dywedasoch, 'A fydd strategaeth newydd?' Bydd, a chaiff ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Rydych chi eisiau i ni addysgu ar gyfer y prawf, ond nid dyna’r ffordd at lwyddiant. Diwygio’r system gyfan yw’r ffordd at lwyddiant. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir, bydd ein cymwysterau newydd ar lefel TGAU mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth yn mynnu gwell cyfochri â dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau meddwl beirniadol a fydd yn galluogi ein plant i ffynnu mewn profion PISA. Nawr, mae angen inni gefnogi'r proffesiwn i wneud yn union hynny. Dyna pam y byddwch yn gwybod fy mod, dim ond mis yn ôl, wedi cyhoeddi y byddem yn datblygu rhwydwaith rhagoriaeth mathemateg cenedlaethol, a gefnogir gan £800,000 o gyllid i ddatblygu ac ymestyn cefnogaeth cyfoedion i gyfoedion, adnoddau newydd a gwell datblygiad i’n hathrawon mathemateg. Rwy’n bwriadu gwneud yn union yr un peth ar gyfer gwyddoniaeth, gan weithio ar y cyd â’n sefydliadau addysg uwch fel y gallwn wella safonau ym mhob maes.
Byddwn yn glynu at yr amserlen. Dim ond yr wythnos diwethaf yn ystod y cwestiynau, roedd Aelodau yn y Siambr hon yn fy annog i arafu ein diwygiadau o'r cwricwlwm. Mae angen inni wthio ymlaen. Bydd y cwricwlwm hwnnw’n barod i’w addysgu erbyn 2021. Caiff ein cyrsiau HAGA newydd eu marchnata yn ystod haf 2018. Bydd safonau addysgu proffesiynol newydd ar gael gennym yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Byddaf yn diwygio trefniadau llywodraethu ein hysgolion pan fydd yr ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd wedi’i gau. A byddaf yn troi pob carreg yn fy ngwaith gyda'r gweithwyr proffesiynol, gydag AALlau a gyda'r consortia i sicrhau ein bod yn gwneud yn well fel cenedl. Byddaf yn wir yn edrych ar arfer da. Mae'n bwysig nodi bod gan y wlad hon ddulliau diwygio gwahanol iawn i’r Alban. Rwyf yn edrych ar draws gweddill y byd i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn. Profais hynny drwy ofyn i'r OECD ddod yn ôl y mis diwethaf. Byddant yn ôl ymhen dwy flynedd gan fy mod wedi gofyn iddynt ddod yn ôl ymhen dwy flynedd, oherwydd byddaf yn fy herio fy hun a'r Llywodraeth hon yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn.