Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Rwy’n falch o glywed y bydd rhagor o deithiau masnach i’r Unol Daleithiau—mae hynny i’w groesawu—ond wrth gwrs, yr hyn sy’n bwysig yw llwyddiant y teithiau hynny. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn datblygu strategaeth economaidd newydd, sydd hyd yn oed yn fwy o flaenoriaeth, yn fy marn i, o ystyried y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad mewn allforion i Ogledd America. Er bod twf cymedrol mewn allforion yn gyffredinol, byddwn yn dweud y dylai eich Llywodraeth fod yn gweithio’n rhagweithiol i chwilio am y cyfleoedd newydd hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud hyn yn flaenoriaeth yn 2017 a chynnwys hybu masnach gyda Gogledd America yn y strategaeth honno?