– Senedd Cymru am 6:32 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Rydym yn symud ymlaen yn awr i’r eitem olaf ar ein hagenda am y prynhawn yma, sef y ddadl fer. Rwy’n galw ar John Griffiths i gyflwyno y ddadl a gyflwynwyd yn ei enw e. John Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n bwriadu rhoi dau funud i Jane Bryant, Lywydd, a munud i Mohammad Asghar i siarad yn y ddadl hon, yn dilyn eu cais am gael gwneud hynny. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl fer hon y gobeithiaf ei defnyddio i dynnu sylw at y ffyrdd y gall cynlluniau adfywio sy’n seiliedig ar feddwl trwyadl helpu i ailfywiogi dinas fel Casnewydd a rhoi i’r ddinas, a’r rhanbarth ehangach yn wir, y dyfodol ffyniannus rydym ei angen. Tref ddociau a chanolfan ddiwydiant oedd Casnewydd am flynyddoedd lawer, wrth gwrs, yn enwedig ar gyfer dur. Mae dur, wrth gwrs, yn dal yn bwysig iawn fel diwydiant yng Nghasnewydd, a’r her o’n blaenau yw cynnal a thyfu ein cryfderau presennol megis dur, gan ddatblygu swyddi a thwf newydd hefyd a fydd yn gwneud i’r ddinas ffynnu eto yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y mae wedi gwneud yn y gorffennol.
Mae llawer o gymunedau yng Nghymru a thu hwnt wedi cael profiadau tebyg i rai Casnewydd dros y degawdau diwethaf. Mae natur gyfnewidiol gwaith a dirywiad diwydiant trwm wedi arwain at ostyngiad yn nifer y swyddi traddodiadol, ac mae’r newidiadau hyn wedi cwestiynu sut y byddwn yn ffynnu eto. Felly, croesawaf y cyfle i ddefnyddio’r ddadl hon i dynnu sylw at sut y mae’r her hon yn cael ei goresgyn yng Nghasnewydd a sut y mae dyfodol mwy disglair yn cael ei greu.
Un o’r themâu allweddol sy’n sail i ailfywiogi Casnewydd yw partneriaeth. Mae partneriaeth yn gwbl ganolog. Mae cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector preifat, y trydydd sector, prifysgolion a llawer o rai eraill yn gyrru’r adfywiad hwn yn ei flaen. A cheir cydnabyddiaeth hefyd o bwysigrwydd y bartneriaeth rhwng dinasyddion Casnewydd a’u cyngor. Mae’n fath gwahanol o bartneriaeth i’r un sy’n gyrru datblygiadau mawr, ond mae’n gwbl hanfodol i lwyddiant y ddinas.
Ddirprwy Lywydd, byddaf yn siarad am y ddau fath o bartneriaeth heddiw. Un o’r pethau cyntaf y mae’n rhaid i mi sôn amdano yw datblygiad blaenllaw y soniais amdano yn y Siambr hon a’r tu allan sawl gwaith o’r blaen. Cynllun manwerthu a hamdden Friars Walk Casnewydd yw conglfaen y gwaith o adfywio Casnewydd ac mae wedi bod yn allweddol i ddenu mwy o fewnfuddsoddiad i’r ddinas. Mae wedi bod yn ganolog i gynlluniau Cyngor Casnewydd i annog mwy o fywiogrwydd busnes ac yn wir, y defnydd o ofod preswyl newydd yn y ddinas. Gyda’r cyngor yn gweithio’n agos gyda’r datblygwyr, mae’r cynllun £100 miliwn hwn wedi dod â swyddi, siopau a hamdden yn ôl i mewn i galon y ddinas. Ond aeth y cynlluniau yn llawer ehangach na Friars Walk. Cyflwynodd y cyngor gais uchelgeisiol a chryf am gyllid o fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Roedd y cais yn llwyddiannus, a dyfarnwyd £15 miliwn mewn grantiau a benthyciad o £1.2 miliwn ar gyfer cynlluniau adfywio amrywiol. Ar draws ystod o brosiectau, mae hyn wedi sicrhau buddsoddiad mewn 35 eiddo drwy grantiau neu fenthyciadau, mae wedi arwain at ddarparu sgiliau, swyddi a hyfforddiant, ac mae wedi cael effaith sylweddol. Yn wir, cyflwynodd Casnewydd y cynllun tai mawr cyntaf i’w gwblhau dan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, gyda phrosiect mawr ar Heol Caerdydd. Mae cymysgedd o eiddo wedi cael eu darparu mewn partneriaeth â chymdeithasau tai, rhai i’w gwerthu ar gyfradd y farchnad a thai fforddiadwy i rai mewn angen, ynghyd ag eiddo rhent.
Mae’r effaith economaidd wedi cael ei gwylio’n ofalus. Rhwng Friars Walk a’r cynlluniau a ariennir gan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae’r cyngor yn cyfrifo bod dros 1,200 o swyddi wedi eu creu, ac o 600 o bobl sydd angen cymorth cyflogaeth yn ardal ganolog y ddinas, mae 340 wedi cael eu helpu i gael gwaith drwy hyfforddiant sgiliau yn y gweithle, a ariennir gydag arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Crëwyd hyfforddeiaethau adeiladu, ac mae 37 o gyflenwyr adeiladu lleol wedi llwyddo i sicrhau contractau, gan helpu i gadw swyddi lleol yn lleol a rhoi hwb i economi Cymru. Mae busnesau bach yn cael eu helpu drwy gronfa datblygu busnes. Mae dros £96 miliwn o fuddsoddiad preifat ychwanegol wedi cael ei ddenu gan y cynlluniau, sy’n arwydd pwysig o lwyddiant, rwy’n credu. Mae arian cyhoeddus wedi datgloi’r buddsoddiad ychwanegol hwn ac mae wedi dod â thwf ychwanegol. Ac wrth gwrs, busnesau bach, fel rydym i gyd yn gwybod, rwy’n credu, yw asgwrn cefn ein heconomïau lleol a chenedlaethol.
Ddirprwy Lywydd, dylid dathlu llwyddiant y cynlluniau hyn, ond nid yw ond yn rhan o’r darlun o’r datblygiadau cadarnhaol sy’n digwydd ar draws Casnewydd. Er enghraifft, bydd datblygiad tai a busnesau Glan Llyn yn fy etholaeth i—ar ran o hen safle cynhyrchu dur Llanwern mewn gwirionedd—yn darparu 4,000 o gartrefi a 6,000 o swyddi dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae gennym brosiect pwysig iawn, a fydd yn golygu bod Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru yn cydweithio mewn partneriaeth â’r cyngor a’r sector preifat i ddatblygu ardal wybodaeth fawr yng nghanol y ddinas, ar lan yr afon. Bydd hon yn cael ei hangori o amgylch campws presennol y brifysgol yng nghanol y ddinas a byddai’n golygu adleoli campws Casnewydd Coleg Gwent o Nash yn y ddinas i’r safle ar lan yr afon. Byddai’n sicrhau bod addysg bellach ac addysg uwch yn amlwg iawn i’r bobl leol gyda’i leoliad canolog ac yn fy marn i, byddai’n cryfhau’n fawr y llwybrau dilyniant o addysg bellach i addysg uwch.
Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y gwaith adeiladu ar ganolfan gynadledda fawr i fod i ddechrau y flwyddyn nesaf, o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Celtic Manor. Hon fydd prif ganolfan gynadledda Cymru, ac amcangyfrifir y bydd yn dod â budd economaidd o £70 miliwn y flwyddyn i mewn i’r rhanbarth. Ac eisoes rydym yn gweld twf pellach mewn gwestai yn lleol, ac fe fydd yna fantais ddiamheuol i lu o fusnesau bach lleol. Cyhoeddwyd y dyddiad ar gyfer dechrau gwaith ar hyn yn uwchgynhadledd dinas Casnewydd yr wythnos diwethaf. Hon oedd y bedwaredd uwchgynhadledd o’r fath y mae Casnewydd wedi’i chynnal. Mae’n ddigwyddiad sy’n dwyn partneriaid allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector at ei gilydd i rannu syniadau a gwybodaeth am y prif brosiectau a’r datblygiadau sy’n digwydd yn y ddinas a’r rhanbarth ehangach. Eleni, roedd yn llwyddiannus iawn unwaith eto, gydag ymdeimlad cryf o gynnydd a chyfle pellach. Mewn gwirionedd, mae’r optimistiaeth yng Nghasnewydd yn galonogol iawn. Gyda’r arweinyddiaeth gywir, buddsoddi a gweithio mewn partneriaeth, mae’n dangos bod modd goresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu swyddi da, mannau y gellir byw ynddynt ac economi ffyniannus.
A Ddirprwy Lywydd, mae ein papur lleol, y ‘South Wales Argus’ yn hyrwyddo Casnewydd fel y gwnaeth erioed. Maent yn cynnal ymgyrch cefnogi Casnewydd i dynnu sylw at y ddinas a’i hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â siarad am ein cyflawniadau gwirioneddol a dangos lle mor dda yw Casnewydd i fyw, gweithio a gwneud busnes. Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â dathlu’r prosiectau mawr, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod ein busnesau annibynnol a bach. Maent yn asgwrn cefn ac yn gwbl ganolog i’n heconomi leol unigryw ac yn gymaint rhan o’n dyfodol â’r cynlluniau mawr pwysig, ac maent yn hanfodol i’n llwyddiant economaidd. Unwaith eto, maent yn cael eu cydnabod yn amlwg yn ymgyrchoedd parhaus y ‘South Wales Argus’ a chan gyngor y ddinas a phartneriaid allweddol.
Wrth gwrs, diben adfywio yw helpu pobl ac i wneud ein dinas yn lle gwych i fyw. Rhaid i ddinasyddion Casnewydd fod yn ganolog iddo. Mae’r cyngor wedi cydnabod hyn hefyd, gyda math gwahanol o bartneriaeth—un sy’n hyrwyddo Casnewydd fel dinas democratiaeth. Mae’n addas iawn y dylid hyrwyddo Casnewydd yn y ffordd honno, o ystyried ein hanes Siartaidd, ac roeddwn yn falch iawn o dynnu sylw at hynny yn un o’r datganiadau 90 eiliad cyntaf yma yn y Siambr hon. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn adeiladu ar hanes balch iawn yn awr gyda Dinas Democratiaeth.
Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, fel y gwyddom oll, mae unrhyw ddinas neu dref yn dibynnu’n allweddol ar ei phobl—nid yw ond cystal â’i phoblogaeth. Rwy’n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghasnewydd i gael poblogaeth leol ddyfeisgar, sydd wedi dangos ei gallu i addasu i anghenion economi sy’n newid dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Mae pobl Casnewydd yn cyfrannu at eu dinas yn falch iawn ac yn awyddus i’w gwneud yn llwyddiant. Pan edrychwn ar y cae chwaraeon, Ddirprwy Lywydd, gwelwn y balchder hwnnw’n cael ei amlygu ar ffurf cefnogaeth gref iawn i Ddreigiau Casnewydd Gwent a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, yr olaf, wrth gwrs, bellach wedi eu hadfer yn briodol i’r gynghrair bêl-droed ac yn mynd i aros yn y gynghrair bêl-droed am lawer o flynyddoedd i ddod, rwy’n gobeithio.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n parhau, ac rwy’n gwybod y bydd y cyd-Aelodau’n parhau i gefnogi ymdrechion pawb sy’n gweithio tuag at ddyfodol mwy disglair i Gasnewydd, fy nhref enedigol ac erbyn hyn, wrth gwrs, fy ninas enedigol. Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd cryf rydym wedi’i wneud yn ddiweddar. Credaf yn gryf y bydd manteision Casnewydd, gan gynnwys ei lleoliad daearyddol a’i chysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu, yn helpu i sicrhau bod amseroedd mwyaf cyffrous y ddinas o’n blaenau.
Diolch i fy nghyd-frodor o Gasnewydd, John Griffiths, am dynnu sylw at ein dinas yma heddiw. Cytunaf yn llwyr â’r pwyntiau y mae John wedi eu gwneud. Mae bywiogrwydd newydd yn perthyn i ganol dinas Casnewydd, i raddau helaeth oherwydd Friars Walk, sydd wedi dod â siopau a bwytai blaenllaw i mewn, ynghyd â’r busnesau annibynnol amhrisiadwy—a rhai ohonynt wedi aros yng Nghasnewydd drwy adegau da a drwg—a busnesau newydd cyffrous megis Parc Pantry, Crafted a’r Tiny Rebel Brewery Co. sydd wedi ennill gwobrau, ac un neu ddau o enghreifftiau’n unig yw’r rhain.
Mae cymaint mwy i ddod. Mae John wedi crybwyll canolfan gynadledda newydd o safon fyd-eang yn y Celtic Manor, a fydd yn destun balchder unwaith eto i Gasnewydd, ac nid yn unig i Gasnewydd, ond i Gymru. Mae gennym un o’r unedau therapi pelydr proton cyntaf yn y DU ar gyfer triniaeth ganser ar fin agor yng ngorllewin y ddinas, ac rwyf wedi siarad yn y Siambr o’r blaen am gynllun y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu canolfan ddata.
Yn bersonol rwy’n falch, fel rhywun a gafodd ei eni a’i fagu ac sy’n byw yng Nghasnewydd, o’n treftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon, gyda’r olion Rhufeinig yng Nghaerllion, hanes morwrol canoloesol cyfoethog, ein pont gludo fawreddog a cheinder Tŷ Tredegar, ynghyd â’r parciau hanesyddol, megis Belle Vue. Mae ein hanes Siartaidd unigryw yn rhoi Casnewydd ar y blaen mewn democratiaeth fodern. Mae ein gorffennol a’n presennol diwydiannol a cherddorol yn denu pobl i’n dinas. O Ŵyl Werin Tŷ Tredegar i ŵyl gelfyddydau Caerllion, mae gennym hanes cyfoethog ac rydym yn ddinas sy’n rhaid iddi barhau i gamu ymlaen.
Rwy’n ddiolchgar i John Griffiths am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wrth fy modd â Chasnewydd. Dyma’r lle y dewisais wneud fy nghartref dros 45 mlynedd yn ôl, ond fel llawer o drefi a dinasoedd eraill, mae Casnewydd wedi dioddef o ganlyniad i newidiadau mewn arferion siopa. Mae’r adroddiad diweddaraf gan y Local Data Company yn gosod Casnewydd ymhlith y canol trefi sy’n perfformio waethaf o ran adeiladau manwerthu a hamdden gwag, gyda chyfradd o dros 25 y cant. Mae’n dda gweld, felly, y gwaith sy’n cael ei wneud ar adfywio’r ddinas. Rydym eisoes wedi gweld llwyddiant prosiect Friars Walk. Mae gan y cwmni sydd wrth wraidd Friars Walk, Queensberry Real Estate gynlluniau i greu sgwâr cyhoeddus i adfywio rhan ddeheuol Commercial Street—dyma newyddion da iawn. Ond rhaid i ni ddenu mwy o ymwelwyr i Gasnewydd.
Ddirprwy Lywydd, dros bum mlynedd yn ôl, yn y Siambr hon, nodais y pwynt am ganolfan gynadledda yng Nghymru. Rwy’n falch fod Syr Terry Matthews wedi deall ein cred ac ar ôl pum mlynedd, mae rhywbeth yn symud ymlaen. Rwy’n gyffrous iawn am y cynllun ar gyfer y ganolfan gynadledda ryngwladol a grybwyllodd John. Mae’n ddiwydiant gwerth £21 biliwn ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac rwy’n siŵr y byddwn yn cael cyfran fawr ohono. Rydym eisoes wedi gweld budd o gynnal Cwpan Ryder ac uwchgynhadledd NATO yn y Celtic Manor, a gall canolfan gynadledda ryngwladol adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a dod ag o leiaf £17 miliwn y flwyddyn i’r ardal honno yng Nghasnewydd. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn ymuno â mi i groesawu’r datblygiad a chydnabod y cyfraniad enfawr y bydd yn ei wneud i sicrhau bod Casnewydd yn parhau i fod yn ddinas ar gynnydd ac yn un o’r goreuon yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y bont gludo grog fawr; Fonesig Butler; Goldie Lookin Chain; Clwb Pêl-droed Dinas Casnewydd; John Griffiths—mae ei angerdd am Gasnewydd, fel bob amser, yn ysbrydoli, a dyna rai’n unig o’r pethau sy’n rhoi ei enwogrwydd i Gasnewydd. Mae’n hyrwyddwr cryf ar ran y ddinas ac yn dadlau’n benderfynol dros weithredu er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i gyflawni ei photensial.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n Ysgrifennydd y Cabinet o’r gogledd, fel y gwyddoch yn iawn, a gallaf ddweud bod Casnewydd wedi cael ei bendithio i gael dau o Aelodau gorau’r Cynulliad yn y de yn eu hardal—John Griffiths a Jayne Bryant—ac rwy’n falch iawn o allu gweithio gyda hwy. Mae eu cyfraniad yma heddiw yn dweud llawer iawn amdanynt a’r ddinas y maent yn ei chynrychioli. Croesawaf y cyfle i dynnu sylw at y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud yn y ddinas hon a hoffwn adleisio’r clod i rai o’r llwyddiannau nodedig a fynegwyd eisoes yn y ddadl hon heddiw. Er hynny, siom bychan yw’r ffaith nad wyf, mewn tri ymweliad â’r ddinas dros y pythefnos diwethaf, wedi dod o hyd i fragdy’r Tiny Rebel eto, ond dibynnaf ar Jayne Bryant i roi cyflwyniad i mi, efallai. [Chwerthin.] Fel y mae John Griffiths yn ei ddweud yn ddigon cywir, mae Casnewydd yn ddinas ar gynnydd; mae Casnewydd yn ddinas sy’n symud i’r cyfeiriad cywir. Yn wir, gwrthryfel Siartwyr Casnewydd yn 1839—pe bai John yn ddigon hen, credaf y byddai wedi bod ar flaen y gad yn hwnnw, hefyd.
Mae Casnewydd wedi bod yn chwifio’r faner yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi croesawu digwyddiadau mawreddog o fri yn llwyddiannus iawn, megis uwchgynhadledd NATO ym mis Medi 2014, gan ddenu arweinwyr o bob rhan o’r byd—yr Arlywydd Obama yng Nghasnewydd; mae ef hyd yn oed wedi clywed amdani. Ac wrth gwrs, roedd hynny’n dilyn y Cwpan Ryder cofiadwy yn y Celtic Manor yn 2010. Mae’r digwyddiadau hyn wedi rhoi Casnewydd a Chymru ar y map, a phan oedd llygaid y byd arnom, fe gyflawnodd Cymru—fe gyflawnodd Casnewydd. Rydym yn ymwybodol iawn o’r digwyddiadau hyn ac maent yn fan cychwyn ar gyfer y ddinas ac yn sbardun gwych i gynnydd pellach. Felly, mae angen i’r cyngor ac eraill allu harneisio effeithiau cadarnhaol digwyddiadau mawr fel y rhain, er mwyn sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo drwy gymunedau lleol eraill yn ogystal—yn wir, yn etholaeth gyfagos Hefin—gan eu helpu i adeiladu cydnerthedd a dod yn fwy llewyrchus wrth i ni symud ymlaen. Nid yn unig y mae Casnewydd lwyddiannus a ffyniannus yn dda i drigolion lleol; mae o fudd i’r ardaloedd cyfagos hefyd, ac yn darparu cyfleoedd ehangach. Rydym yn aml yn clywed, fel y gwnaf yn y gogledd, am ddinasoedd a lleoedd sy’n cystadlu â’i gilydd, a Chasnewydd yn ail neu’n drydedd dref de Cymru. Rwy’n credu eich bod yn dod yn agos at y brig, ac rwy’n meddwl, oherwydd y gwaith rydych yn ei wneud ar y cyd—tîm Llafur, John Griffiths a Jayne Bryant, yn gweithio gyda Debbie Wilcox a’r tîm Llafur, a Bob Bright o’r blaen—mae hynny wedi dangos y gallwn ailadeiladu ein cymunedau. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o hynny.
Drwy ein rhaglen adfywio cyfalaf, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym wedi darparu £16 miliwn o gyllid cyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i wella’r tai newydd, i wella amodau tai, datblygu seilwaith lleol, a’r adeiladau allweddol y mae’r Aelodau wedi cyfeirio atynt heddiw. Yn wir, roeddwn yn falch iawn o ymweld â Friars Walk yng nghanol y ddinas. Mae yna fywiogrwydd newydd ynglŷn â’r ardal honno, ac mae’n lle gwych i ddatblygu busnes newydd ac i gefnogi cyflogaeth, gan gefnogi’r gymuned leol. Ond nid drwy hap y digwyddodd hyn—mae wedi digwydd drwy gynllunio, a chefnogaeth yr awdurdod lleol, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau yn y dyfodol.
Soniais yn gynharach fy mod wedi ymweld â Chasnewydd ar dri achlysur yr wythnos diwethaf, a’r ymweliad diweddaraf y bore yma—yn wir, roeddwn yn y cae pêl-droed y mae John Griffiths yn aml yn ymddangos ynddo—nid i chwarae, ond mae’n gefnogwr brwd, a hir y parhaed hynny hefyd. Mae’n wych gwybod bod y tîm yn y gynghrair y gobeithiai y byddai ynddi.
Bythefnos yn ôl gwelais â’m llygaid fy hun rai o’r prosiectau ardderchog hyn. Mae’r gwaith a wnaed yn yr adeilad cenedlaethol yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth gref—yn union yr hyn roedd John Griffiths yn siarad amdano. Mae’r prosiect bellach yn darparu safleoedd busnes, yn ogystal â 12 o gartrefi newydd yn y ddinas. Yn wir, roedd yn fraint cael agor meithrinfa newydd i blant, sy’n fusnes sydd wedi gallu ehangu oherwydd y cyfleusterau newydd mewn adeilad cenedlaethol wedi’i adnewyddu—cyfleuster gwych. Eiddo’r ystad dai ar Heol Caerdydd—eto, rwy’n cydnabod pob un o’r rhain fel pethau trawsnewidiol ar gyfer y ddinas wych hon.
Lywydd, rwy’n credu bod yna daith wych i Gasnewydd, a ddangoswyd gan weledigaeth unigolion wrth iddynt basio drwy’r gymuned honno, ond erbyn hyn nid pasio drwodd yn unig y mae pobl yn ei wneud—maent yn aros ac yn meddwl ac yn gweithio, gyda chyfle i gymryd rhan a buddsoddi yno. Unwaith eto, nid oes prinder gwaith yn cael ei gyflawni gan fy nghyfaill da, John Griffiths. Dymunaf bob lwc i Gasnewydd, a gobeithiaf y bydd y cynnydd hwnnw’n parhau, gan weithio gyda phartneriaid megis Cartrefi Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill yn wir, sy’n gweithio yn yr ardal honno. Rwy’n credu bod yna gyfle gwych i ni gyd ddweud, ‘Rydym yn cefnogi Casnewydd’, fel yr ymgyrch, ac mae hynny wedi cael ei amlygu heddiw gyda chyfraniad yr Aelodau yn y Siambr hon. Rwy’n dymuno pob lwc iddynt a gobeithio y bydd Casnewydd yn parhau i gamu ymlaen fel dinas ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.