2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Mi fydd dadl yn cael ei chynnal yn y Siambr yma y prynhawn yma ar ordewdra, a hynny yn tanlinellu y bygythiad y mae hyn yn ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Faint mae’r Llywodraeth yn ei wario a pha adnoddau mae’r Llywodraeth yn eu buddsoddi i geisio taclo ac atal gordewdra yng Nghymru?
Wel, mae’n anodd iawn rhoi ateb penodol yn nhermau punnoedd a cheiniogau o ran yr hyn rydym yn ei wario ar yr agenda hon, gan ei bod mor eang. Mae ein dull o weithredu yn ystyried teithio llesol, er enghraifft, felly mae’r holl waith rydym yn ei wneud drwy’r adran y mae Ken Skates yn ei harwain, yn ogystal â’r gwaith rydym yn ei wneud o ran ein cefnogaeth i iechyd y cyhoedd yn fwy cyffredinol—ein gwaith drwy’r rhwydwaith ysgolion iach, er enghraifft. Felly, mae’n anodd iawn rhoi ffigur penodol ar hyn, o ystyried y ffaith fod y gwaith rydym yn ei wneud yn amrywio mewn ysgolion, drwy awdurdodau lleol, a thrwy’r GIG, ac agweddau ar y GIG megis ein rhaglenni ymarfer corff, ac yn y blaen. Felly, o ran rhoi ateb yn nhermau punnoedd a cheiniogau, mae’n anodd iawn dweud.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, yn hytrach nag Ysgrifennydd Cabinet. O ystyried y gost o daclo a rhoi triniaeth i bobl oherwydd cyflyrau wedi eu hachosi gan ordewdra, o ystyried y gost i’r gwasanaeth iechyd, nid yw faint bynnag sy’n cael ei wario gan y Llywodraeth ddim yn ddigon, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Os ydy rhywun am roi’r gorau i ysmygu, mae yna ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael: cynnyrch nicotin, grwpiau cefnogaeth, mae yna hefyd drethiant trwm, wrth gwrs, ar gynnyrch, a gwaharddiadau ar hysbysebu, ac yn y blaen. Gan ein bod ni’n gallu gweld bod camau felly wedi gweithio—wedi cymryd amser, ond wedi gweithio—a bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sydd yn ysmygu erbyn hyn, a ydy’r Gweinidog yn cytuno efo fi bod angen cymryd agwedd debyg rŵan wrth i ni geisio taclo yr her fawr arall o ran iechyd cyhoeddus, sef gordewdra?
Wel, rwy’n falch eich bod wedi cydnabod y llwyddiant rydym wedi’i gael o ran gostwng lefelau smygu, sydd ar eu lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion. Ac rydym yn gwneud cynnydd da iawn tuag at ein targed o 16 y cant erbyn 2020.
Rydych yn hollol gywir i ddweud bod mynd i’r afael â gordewdra yn fater cymhleth iawn, ac mae’n cynnwys pethau fel trethi a hysbysebu. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’r ardoll siwgr, er enghraifft. Fodd bynnag, rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw gynnydd amlwg wedi bod yn y maes hwnnw. Felly, mae hwn yn fater rydym yn parhau i bwyso yn ei gylch, fel y gwnawn wrth bwyso am weithredu pellach a chryfach mewn perthynas â hysbysebu. Ac unwaith eto, mae hwn yn fater rydym yn ei godi’n rheolaidd gyda Llywodraeth y DU. Mae gwaith yma i’r Llywodraeth ei wneud, ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel Llywodraeth y DU. Mae yna bethau y gall y diwydiant ei hun ei wneud hefyd; er enghraifft, mae’r gwaith y mae’r diwydiant wedi’i wneud yn wirfoddol ar leihau lefelau halen mewn bwyd yn cael ei ystyried yn batrwm cyffredinol o arfer da mewn gwirionedd. Felly, mae rôl yno i’r diwydiant weld beth arall y gall ei wneud o ran y cynnwys siwgr a braster hefyd.
A, gyda pharch, er fy mod i’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar daclo ysmygu, pan rwy’n sôn am y llwyddiannau sydd wedi digwydd dros ddegawdau, rwy’n sôn am lwyddiannau sydd wedi digwydd dros y byd wrth i’r broblem yma gael ei hadnabod. Mae’n berffaith glir i fi fod angen inni gymryd agwedd hirdymor, gan ddechrau rŵan, tuag at ordewdra hefyd.
Rwy’n gobeithio bydd y ddadl yma y prynhawn yma yn fodd i ddod â nifer o syniadau at y bwrdd ynglŷn â chamau pellach a allai gael eu gwneud yn fan hyn. Ond mae’r paralel, rwy’n meddwl, efo ysmygu yn rhoi un rhybudd arall i ni hefyd. Mae yna arian mawr wedi cael ei fuddsoddi dros y blynyddoedd mewn atal gweithredu gan lywodraethau ar ysmygu. A allwch chi a Llywodraeth Cymru roi sicrwydd y byddwch yn cyfyngu ar ddylanwad y byd corfforaethol ar bolisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â gordewdra hefyd, fel na fydd yn rhaid inni aros am weithredu am ddegawdau fel bu’n rhaid inni wneud efo ysmygu a hefyd atal newid hinsawdd?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw ac rwy’n falch iawn fod yr Aelodau wedi dewis cael dadl ar iechyd y cyhoedd mewn perthynas â dadl yr Aelodau unigol y prynhawn yma. Rwy’n edrych ymlaen at glywed y syniadau y bydd Aelodau o bob plaid yn eu cyflwyno, oherwydd mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy’n gweithio ac mae gennym ddiddordeb mewn syniadau arloesol, felly edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. O ran dysgu gwersi o’r hyn sydd wedi digwydd mewn perthynas â mynd i’r afael â smygu, yn amlwg rydym yn awyddus i weld beth sydd wedi gweithio yn y maes hwnnw a beth y gallwn ei wneud yn gyffredinol i fynd i’r afael â heriau eraill i iechyd y cyhoedd, yn enwedig gweithgarwch corfforol a smygu, ond hefyd materion sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn fwy eang, megis goryfed alcohol, er enghraifft.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw at y ffaith fod bronciolitis mewn babanod yn bwysau mawr ar y GIG yng Nghymru dros y gaeaf. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell palivizumab a Synagis fel brechiadau y dylid eu cynnig i grwpiau risg uchel er mwyn helpu i amddiffyn rhag effeithiau bronciolitis. Pa gyngor a roddwyd i’r byrddau iechyd i sicrhau bod agwedd gyson yn cael ei gweithredu mewn perthynas â’r mater hwn?
Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd a system GIG Cymru yn ehangach ddilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mewn modd cyson. Mae hwnnw’n safbwynt y mae’r Llywodraeth hon yn ei gymryd ar bob un o’r materion hyn.
Rwy’n falch iawn o’ch clywed yn dweud hynny Ysgrifennydd y Cabinet oherwydd, mewn gwirionedd, mae’r GIG yn Lloegr yn defnyddio llwybr canolog o gyllid i dalu am y brechiadau hyn, sy’n sicrhau bod y canllawiau gofynnol yn cael eu bodloni o leiaf. Rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, ond mae tystiolaeth yn dangos, drwy ystyried carfanau bychan o fabanod sydd mewn perygl, fod achos economaidd clir dros ddefnyddio Synagis oherwydd y gostyngiad dilynol yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty. Fodd bynnag, mae’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn amrywio’n eang mewn perthynas â babanod yn gallu cael mynediad at feddyginiaeth, gyda byrddau iechyd yn mabwysiadu dulliau gwahanol ac mae’n llithro i’r bylchau rhwng arbenigeddau. Felly, a wnewch chi ystyried edrych ar newid naill ai’r modd y mae’r brechlyn yn cael ei gyllido neu newidiadau o ran sut y gallech gyhoeddi rhagor o ganllawiau ar y mater hwn?
Ie, ac os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda’r wybodaeth y mae’n credu sydd ganddi, byddaf yn hapus i edrych ar hynny a rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo ac i’r hyn y gallwn ei wneud nesaf i wella’r sefyllfa yng Nghymru.
Rwyf hyd yn oed yn fwy balch o’ch clywed yn dweud hynny. Rwyf am grybwyll un teulu penodol yn gyflym, sy’n cynnwys dwy efaill 12 mis oed a aned yn gynnar, ar ôl 28 wythnos. Mae’r ddwy ohonynt wedi dioddef o fronciolitis bedair gwaith yn ystod y tymor hwn yn unig, gan arwain at naw ymweliad â’r ysbyty a chwe ymweliad ar wahân â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Ni chaiff y babanod y brechlyn gan nad ydynt yn bodloni’r meini prawf brechu llym. Fodd bynnag, mae’r derbyniadau cyson i’r ysbyty a’r ffaith eu bod wedi gorfod brwydro’n erbyn y firws yn gyson wedi rhoi straen enfawr ar y teulu, yn ogystal â rhwystro datblygiad y babanod, yn enwedig un sydd wedi cael parlys yr ymennydd oherwydd ei bod wedi’i geni mor gynnar. Yn ogystal â disgwyl i’r byrddau iechyd ufuddhau i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a yw’n bosibl i ni hefyd eu galluogi i feddwl ychydig yn fwy ochrol mewn amgylchiadau o’r fath fel eu bod yn edrych ar y darlun cyffredinol ac yn dangos yr hyblygrwydd a ganiateir er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar eu hysbytai, ar gyllid y GIG ac ar y teulu hwnnw, teuluoedd tebyg iddynt, a’r babanod hynny? Mae’n costio £600 y brechiad o’i gymharu â naw arhosiad yn yr ysbyty a chwe ymweliad â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Buaswn wedi meddwl ei fod yn hollol amlwg.
Diolch am y cwestiwn dilynol a’r enghraifft. Fel rwy’n ei ddweud yn rheolaidd, rydym yn gweithredu ar sail tystiolaeth ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth a’r canllawiau arbenigol y mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn eu darparu. Credaf ei bod yn bwysig deall a fuasai’r brechlyn yn arwain yn effeithiol at osgoi’r derbyniadau a’r driniaeth a amlinelloch yn yr achos unigol ai peidio. Mae hefyd yn bwysig deall a oes llwybr amgen i driniaeth, boed yn frechlyn neu’n rhywbeth arall. Ac wrth gwrs, mae hyn yn mynd yn ôl at ddealltwriaeth y clinigwyr sy’n rhoi’r driniaeth a’u cyngor ar y math gorau o driniaeth. Rydym yn gwybod bod yna lwybrau ceisiadau cyllido cleifion unigol ar gyfer triniaeth sydd y tu hwnt i’r llwybrau arferol. Ond rwy’n credu mai’r peth mwyaf defnyddiol yw i ni gael yr ohebiaeth sy’n amlinellu’r sefyllfa bresennol gennych, i mi allu rhoi ystyriaeth ddifrifol a phriodol iddi a buaswn yn hapus i gael sgwrs gyda chi wedi hynny.
Diolch.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn hynod o boenus darllen yn y papurau am artaith teulu dyn 86 mlwydd oed a laddodd ei wraig 85 oed a oedd yn dioddef o ddementia, ac yna, ag yntau’n methu ag ymdopi, ei fod wedi camu o flaen trên. Ef oedd gofalwr ymroddgar ei wraig ac maent yn gadael chwech o blant sy’n teimlo’n siomedig ac yn honni nad oedd darpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol. Mae hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni wella cydweithrediad yn ogystal â chyfathrebu rhwng adrannau i atal pobl, fel y pâr hwn o Gaerdydd, rhag llithro drwy’r craciau yn ein system. Wrth i ni gydymdeimlo â’r teulu, pa wersi y gallwn eu dysgu a sut y gallwn atal y sefyllfa drasig hon rhag digwydd eto?
Rwy’n cydnabod yr enghraifft benodol y mae’r Aelod yn tynnu sylw ati. Mae’n achos gwirioneddol drasig ac rwy’n deall y bydd y teulu’n hynod o ofidus yn ei gylch. Yr her wrth ddysgu gwersi, nid yn unig o’r achos unigol hwn, ond yr her gymdeithasol ehangach rydym yn ei hwynebu, yw sut y rhennir y cyfrifoldeb rhwng unigolion a’u teuluoedd, a rhwng gofal cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd yn ogystal. Beth y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth ein gilydd a sut rydym yn gwneud yn siŵr wedyn ein bod yn datblygu i fod yn genedl sydd at ei gilydd yn deall dementia?
Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi rhoi ymrwymiad yn y Siambr hon i amrywiaeth o Aelodau sydd wedi bod â diddordeb yn y maes penodol hwn y bydd y cynllun cyflawni ar ddementia rydym yn ymgynghori arno yn cyhoeddi drafft ar gyfer ymgynghori cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd hwnnw’n nodi safbwynt y Llywodraeth, ar ôl gweithio gyda, a gwrando ar randdeiliaid, y trydydd sector ac unigolion sy’n byw gyda dementia eu hunain, i geisio deall yr hyn sydd gennym yn awr, ond hefyd yr hyn y gallem ei wneud yn y dyfodol. Rwy’n disgwyl y byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr ar ryw adeg yn y flwyddyn newydd hefyd.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2014, cwblhawyd adolygiad o ofal preswyl, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’. Daeth i’r casgliad fod gan ormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd annerbyniol. Er bod cyfres o ofynion ar gyfer gweithredu ar gartrefi gofal wedi cael eu gweithredu gan Sarah Rochira, ein comisiynydd pobl hŷn ymroddedig sydd a thîm o staff ymroddedig, mae’n amlwg y bydd ei hadnoddau yn cael eu gorymestyn yn helaeth i gwmpasu Cymru gyfan. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen ymgysylltiad y sector gwirfoddol. Fodd bynnag, sut y gallwn sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu trin gyda’r urddas a’r parch y maent yn ei haeddu?
Diolch i’r Aelod am yr ail gwestiwn. O ran adnoddau, rydym newydd gael dadl am y gyllideb ac mae’n rhaid i ni ddyrannu cyllidebau i bob un o’n meysydd, gan gydnabod realiti y cyllid cyfyngedig sydd ar gael i ni. Nid yw’r her bob amser yn ymwneud ag arian, ond rwy’n credu bod eich pwyntiau olaf yn ymwneud mewn gwirionedd â’r diwylliant yn y gofal rydym yn ei ddarparu a’r modd y caiff ei gomisiynu, yn bennaf gan awdurdodau lleol, ond o ran comisiynu gofal iechyd hefyd, a’r hyn y buasai pawb ohonom yn ei ddisgwyl ar ein cyfer ni ein hunain ac ar gyfer ein hanwyliaid hefyd.
Mae’r pwynt ynglŷn â thrin pobl gydag urddas yn ymwneud mewn gwirionedd â gwrando ar ac ymgysylltu’n iawn â’r unigolyn a’u gofalwyr. Mae hynny’n bwydo i mewn i gyfeiriad teithio polisi’r Llywodraeth hon dros gyfnod hir o amser. Cafodd ei gychwyn yn flaenorol gan Gwenda Thomas wrth iddi ddod ag ystod o faterion at ei gilydd a oedd yn ymwneud â llais y bobl mewn gofal cymdeithasol. Ac i’r gwasanaeth iechyd hefyd mewn gwirionedd, mae rhywbeth ynglŷn ag ennill rhywfaint o’r tir y mae gofal cymdeithasol wedi’i ennill. Nid yw ar sail gyfartal—mae’n anghyfartal ym maes gofal cymdeithasol; rydym yn cydnabod hynny—ond mae’n ymwneud yn gyffredinol ag ymgysylltu mwy a gwrando ar yr unigolion a’u teuluoedd a gweithio gyda rhywun i ddarparu gofal iechyd, yn hytrach na darparu gofal iechyd i neu ar gyfer unigolyn.
Felly, mae yna heriau go iawn yma, ond rwy’n credu y dylem i gyd gael rhywfaint o gysur yn y ffaith, y rhan fwyaf o’r amser o bell ffordd, fod iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu urddas a thosturi mawr yn y gofal a ddarperir. Ond ni ddylai fod unrhyw reswm neu ddisgwyliad y byddwn yn hunanfodlon ynglŷn ag ansawdd y gofal a ddarperir.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o gyhoeddusrwydd a phryder ar hyn o bryd ynglŷn â ffioedd atodol mewn cartrefi gofal ac i ba bwrpas y defnyddir y ffioedd hyn. Sut y gallwn sicrhau perthnasau, a phreswylwyr yn wir, mewn cartrefi gofal bod eu ffioedd yn cael eu defnyddio’n briodol?
Wel, pan fo unigolion yn talu ffioedd atodol, maent yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn cael eu hasesu, ac maent naill ai am dalu cyfraniad ar ben hynny neu cânt eu hasesu fel unigolion sy’n gallu gwneud cyfraniad. Mae hyn yn ymwneud â chomisiynu gofal, ac mae’n ymwneud â phwy sy’n comisiynu’r gofal hwnnw a pha safonau sy’n cael eu darparu. Mae rhywbeth i’r sector cyhoeddus yn y modd y caiff y gofal ei gomisiynu, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Gweinidog yn arwain y gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn cydgomisiynu ystod o wasanaethau rhwng partneriaid iechyd a llywodraeth leol yn y dyfodol wrth i’r Ddeddf gael ei gweithredu’n raddol. Fe fyddwch yn ymwybodol o rôl teuluoedd unigol hefyd, oherwydd mae rhywbeth ynglŷn ag ansawdd y gofal a sut rydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw.
Felly, mae rôl gan y sector cyhoeddus yn bendant, ond i’r un graddau, mae gan deuluoedd unigol ran i’w chwarae hefyd yn y math o ofal y maent yn dymuno ei ddarparu gyda ac ar gyfer eu hanwyliaid, ond yn yr un modd, y bobl sy’n mynd i mewn i ofal—nid yw hi fel pe bai pobl bob amser mewn sefyllfa lle y mae rhywun arall yn gwneud y penderfyniadau hynny ar eu rhan. Lle y mae pobl yn talu eu ffioedd eu hunain, mae’r ffioedd hynny’n cael eu talu gan unigolion sy’n aml yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau, ac mae’n ymwneud â sut rydym yn arfogi pobl i wneud y penderfyniadau hynny. Dyna pam y mae’r wybodaeth a’r darpariaethau ar gyfer y canllawiau yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant mor bwysig. Fel amryw o bobl eraill yn y Siambr, rwy’n cofio gwneud y gwaith o graffu a chael y mathau hyn o broblemau yn union yn cael eu hamlygu pan oedd y Bil yn mynd drwy’r broses graffu cyn dod yn Ddeddf. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau, nid ydym yn esgus y byddwn yn eu datrys erbyn rhyw amser penodol, ond rydym yn cydnabod ei fod yn fater sy’n bodoli a’i fod yn un rydym yn benderfynol o’i weld yn gwella.