1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2016.
2. Pryd y cyfarfu Prif Weinidog Cymru ddiwethaf â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru? OAQ(5)0330(FM)[W]
Cwrddais â hi yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 24 Hydref, a gwnaeth llawer o bethau gael eu trafod bryd hynny.
A all y Prif Weinidog nawr sicrhau’r Cynulliad Cenedlaethol yma na fydd unrhyw leihad yn ei rym cyfreithiol oherwydd yr eithriadau i Fil Cymru, y broses Frexit, fel y’i gelwir, nac ychwaith gwestiynau anghyfansoddiadol ambell Aelod Seneddol Ceidwadol?
Ynglŷn â’r broses Brexit, mae dau beth sy’n hollbwysig fan hyn, sef, yn gyntaf, dim lleihad ym mhwerau’r sefydliad hwn ac, wrth gwrs, sicrhau bod y pwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel yn cael eu trosglwyddo i’r sefydliad hwn ac i bobl Cymru hefyd. A dyna’r egwyddorion yr ydym yn parhau i’w dilyn trwy’r siarad a’r drafodaeth rydym yn eu cymryd ymlaen gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r Prif Weinidog am barhau â’r trafodaethau rhwng ei blaid yntau a Phlaid Cymru ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac yn benodol am y cyfarfod a gawsom ni ddoe? Rydym ni’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau a fydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ynglŷn â Bil Cymru, i sicrhau’r broses hon.
Ond, hoffwn i godi mater arall gydag e heddiw, mater sy’n ymwneud â Senedd arall. Mae llywydd Senedd Catalwnia yn wynebu achos llys yn Sbaen am ganiatáu trafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiad Catalwnia—hynny yw, caniatáu trafodaeth yn Senedd Catalwnia am annibyniaeth. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod bod Sbaen yn sensitif iawn ynglŷn â’r cwestiwn o annibyniaeth, ond, mewn gwlad ddemocrataidd, fel rydym ni wedi’i weld yn yr Alban ac fel rydym ni’n gweld fan hyn yng Nghymru hefyd, mae trafodaeth am ddyfodol cenedl yn hollbwysig i ddangos bod cenedl yn gallu symud ar y broses yna, gam wrth gam, gyda’i gilydd. A fyddwch chi, felly, yn gallu codi’r materion hyn gyda Llywodraeth San Steffan, gan fynegi pryder bod llywydd Senedd yn wynebu achos llys am ganiatáu trafodaeth mewn senedd?
A gaf i ystyried hynny yn fwy manwl? Mi wnaf i hynny ac ysgrifennaf at yr Aelod ynglŷn â’r manylion. Rwy’n gwybod bod y sefyllfa yn wahanol yn Sbaen. Pan es i i Gatalwnia i gwrdd ag Arlywydd Catalwnia ar y pryd, un o’r cwestiynau a gafodd eu gofyn i fi yng nghynhadledd y wasg oedd a oeddwn wedi cael caniatâd David Cameron i ddod i Gatalwnia. Ac fe ddywedais i ‘Na, nid oeddwn i wedi cael y caniatâd ac nid oeddwn yn erfyn cael y caniatâd, a byddai David ddim yn erfyn i fi ofyn am ganiatâd ta beth.’ Ond dyna beth yw’r cyd-destun yng Nghatalwnia. Ond a gaf i ystyried y sefyllfa yn fwy manwl ac wedyn ysgrifennu yn ôl at yr Aelod?