Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gan ein bod ni wedi cael dwy araith gan ddau gadeirydd pwyllgor a hefyd un araith gan lefarydd yn barod ar ran un o’r gwrthbleidiau, rwy’n credu fe wnaf i fyrhau rhywfaint ar y sylwadau sydd gennyf i, achos nid wyf i eisiau mynd dros yr un hen dir. Yn gyffredinol, wrth gwrs, rŷm ni’n croesawu ac yn derbyn, fel y dywedodd Nick Ramsay, pa mor angenrheidiol yw cyflwyno’r dreth yma o ystyried, fel yr oedd Simon Thomas yn sôn hefyd, y gostyngiad sylweddol yng nghyllid Cymru a fyddai’n dilyn oni bai ein bod ni’n cyflwyno treth yn sgil y newidiadau ymhen dwy flynedd. Felly, mae’n gam rhesymol, rwy’n credu, i gyflwyno treth trafodiadau tir newydd er mwyn osgoi hynny. Wrth gwrs, o ran y ddadl nawr, rŷm ni yn ystod Cyfnod 1 ac mi fydd yna gyfle gennym i graffu mwy ar y math o fanylion rydym ni newydd gael rhagflas ohonyn nhw. Wrth gwrs, mae yna lawer mwy o hynny ar gael yn yr adroddiadau hynod ddefnyddiol hyn, a rŷm ni’n ddiolchgar iawn am waith yr Aelodau ar y ddau bwyllgor.
Mae’n un o’r Mesurau mwyaf technegol, cymhleth mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno hyd yma. Mae’n rhaid eu canmol nhw, rwy’n credu, ar yr ymgynghoriad eang iawn sydd wedi bod ar y Bil yma hyd yma, a’r parodrwydd i gynnwys ymarferwyr a rhanddeiliaid yn y broses gyfan, a’r math o ymagwedd, rwy’n credu, sydd wedi cael ei hadlewyrchu yn y ffordd mae’r Ysgrifennydd Cyllid wedi ymwneud â’r broses yma. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn derbyn yr egwyddor sylfaenol o sicrhau bod y trosglwyddiad o’r hen system i’r un newydd mor hwylus ag sy’n bosib. Mae’n ddealladwy, wrth gwrs, gan fod SDLT wedi’i hen sefydlu yng Nghymru, fod ymarferwyr yn gyfarwydd iawn â’r ffordd honno o weithio, felly rwy’n credu bod ymdrechion yr Ysgrifennydd Cabinet i lunio Bil sy’n cyflwyno treth newydd, ond un sydd yn meddu ar ddigon o elfennau yr SDLT fel ei bod hi’n hawdd i’w hadnabod, yn synhwyrol o ystyried hynny.
Wrth gwrs, rwy’n credu ein bod ni yn awyddus, fel sydd wedi dechrau digwydd yn yr Alban wrth gwrs, i gymryd y cyfle a fydd yn deillio o gael y pwerau yma i arloesi maes o law. Rwy’n credu mai cael y balans yn iawn ydy’r her. Dyma beth fyddwn ni, rwy’n credu, yn mynd ati i’w drafod mewn mwy o fanylder yn ystod y camau nesaf yn y drafodaeth: er enghraifft, y gallu i greu bandiau rhanbarthol i adlewyrchu natur wahanol y farchnad dai a ffactorau eraill sy’n berthnasol mewn rhannau eraill o Gymru, a’r natur wahanol wrth sôn am y sefyllfa bresennol mor belled ag y mae ail dai a ‘buy to let’ yn y cwestiwn. Wrth gwrs, mae’r cyd-destun hwnnw hefyd yn wahanol yn Lloegr, ac yn arbennig yn Llundain o gymharu â Chymru. Mae o bosib yn wahanol unwaith eto ar lefel ranbarthol a lleol yng Nghymru. Felly, byddwn ni eisiau sicrhau bod y balans yn iawn o ran y Mesur, o ran creu’r fframwaith lle mae yna gysondeb digonol gyda’r hen drefniant, ac wedyn cymryd y cyfle i arloesi. Ac yn sicr, o feddwl hefyd am y drafodaeth ddiwethaf gawson ni, mae eisiau lle priodol i’r Senedd yma—ac roedd y ddau Gadeirydd wedi cyffwrdd ar hyn—ac mae eisiau gwneud yn siŵr, gan ein bod ni’n deddfu am y tro cyntaf fan hyn i greu’r dreth yma am y tro cyntaf ers 800 mlynedd, ein bod ni’n gosod y seiliau a’r egwyddorion yn iawn o ran y balans pŵer rhwng y Llywodraeth a rhwng y Senedd mor belled ag y mae gweithredu yng nghyd-destun y Bil yma, a’r dreth yma, ond hefyd o ran y ffordd rydym yn deddfu a threthu yn gyffredinol.