Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Ionawr 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac am ei ddyfalbarhad wrth fynd ar drywydd y mater hwn ar lawr y Cynulliad? Felly, bydd yr Aelodau’n cofio bod trafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dechrau mor bell yn ôl â mis Gorffennaf y llynedd a’u bod wedi dod i ben yn fuan wedi i’r Cynulliad dorri cyn y Nadolig, gyda chytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid y bore yma, byddaf yn gwneud datganiad llafar ar lawr y Cynulliad ddydd Mawrth yr wythnos nesaf, gan fod y fframwaith cyllidol wedi ei greu yng nghyd-destun Bil Cymru a gobeithiaf allu adrodd i Aelodau’r Cynulliad ac ateb unrhyw gwestiynau cyn y ddadl y byddwn yn ei chael ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol Bil Cymru.