Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch am eich ymrwymiad i roi datganiad yr wythnos nesaf ac am ymdrechion eich tîm yn hyn o beth. Credaf fod hyn yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru, y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd. Nid yw hynny wedi digwydd bob amser yn y gorffennol, ond mae’n dda gweld bod cynnydd wedi’i wneud. A allwch roi eglurhad ynglŷn â pharhauster y trefniant newydd hwn, yn ôl yr hyn a ddeallwch? A yw Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i drefniant hirdymor, yn hytrach na’r ymrwymiad blaenorol am dymor y Senedd, fel oedd yn wir bryd hynny yn ôl yr hyn a ddeallaf?