Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 11 Ionawr 2017.
Ydy, Lywydd, mae’n bwynt pwysig i’w wneud, onid yw, na fydd y fframwaith cyllidol yn berthnasol oni bai bod Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud. Gan ragdybio am y tro ei fod gwneud hynny, mae hwn yn gytundeb parhaol. Cyflawnwyd tipyn o gamp yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, pan lwyddodd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, i negodi cyllid gwaelodol i Gymru. Roedd sefydlu hynny fel egwyddor yn bwysig iawn ac yn torri tir newydd, ond cyllid gwaelodol dros dro ydoedd, i bara am gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae’r cyllid gwaelodol a gytunwyd yn y fframwaith cyllidol hwn yn rhan barhaol o’r dirwedd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.