Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 11 Ionawr 2017.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma nad oedd yn anochel y byddai pwerau codi treth incwm yn cael eu datganoli ac y byddai ei grŵp yn pwyso a mesur hynny dros y penwythnos ac yn penderfynu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddydd Llun. Tybed a allai fy helpu i ddatrys anghysondeb ymddangosiadol rhwng y datganiad hwnnw a’r fframwaith cyllidol a arwyddodd ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n dweud ym mharagraff 14
‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys dwy ffrwd ariannu ar wahân yn y pen draw:
Refeniw o ardrethi busnes, trethi datganoledig (treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi) a chyfraddau treth incwm Cymreig;
Cyllid grant bloc wedi’i addasu oddi wrth lywodraeth y DU.’
Dywedodd wrth ein pwyllgor y bore yma ei bod yn bosibl na fydd treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Pam, felly, y mae wedi arwyddo dogfen sy’n dweud y bydd cyfraddau treth incwm Cymreig yn cael eu datganoli?