<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:52, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, y gwaith a roddwyd i mi wrth drafod y fframwaith cyllidol oedd negodi fframwaith a fyddai’n addas ar ein cyfer pe bai treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Dyna pam y mae’r holl gytundeb hwn wedi’i ffurfio o amgylch y posibilrwydd hwnnw, ond roedd yn amlwg i’r Trysorlys drwy gydol y broses honno mai’r Cynulliad hwn a fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn ag a fyddai Bil Cymru yn derbyn cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn, a phe na bai’r Cynulliad hwn yn rhoi’r cydsyniad deddfwriaethol hwnnw, yna byddai’r fframwaith hwn yn methu o ganlyniad i hynny a byddai’n rhaid ei ailnegodi yn seiliedig ar y ddwy dreth a fyddai’n cael eu datganoli. Ond nid yw’n ddirgelwch o gwbl. Cynlluniwyd y fframwaith hwn ar gyfer y sefyllfa a allai fod ohoni pe bai Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud, a dyna pam y cyfeirir at ddatganoli treth incwm yn rhannol drwyddo draw.